Gordyfiant algâu morol neu lygredd? Sut i ddweud y gwahaniaeth yr haf hwn

Blodau Algae Môr yn y dŵr

Gyda’r misoedd cynhesach ar y gorwel, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn atgoffa'r cyhoedd bod gordyfiant algâu morol yn digwydd yn naturiol o amgylch arfordir Cymru, ac yn arbennig o gyffredin rhwng Ebrill ac Awst.

Mae gordyfiant algâu yn gynnydd cyflym mewn algâu yn y môr, llynnoedd ac afonydd sy'n aml yn cael ei sbarduno gan dymheredd cynhesach a mwy o olau haul.

Mae’n cynnwys gwymon a phlanhigion bach crog yn y dŵr a gallant edrych fel darnau bach gwyrdd, bwndeli gwyrdd neu ddotiau brown.

 Ar yr arfordir, mae'r achosion hyn o ordyfiant yn dod yn fwy amlwg yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf, pan fydd y tywydd yn gynhesach ac mae mwy o haul.

Weithiau gall fod yn anodd gweld y gwahaniaeth rhwng gordyfiant algâu morol a llygredd carthffosiaeth, ond gall yr arwyddion canlynol eich helpu i wybod beth i edrych allan amdano:

• Mae gordyfiant algâu fel arfer yn digwydd rhwng Ebrill ac Awst.

• Gellir gweld llinellau hir o ewyn algâu yn aml oddi ar bentiroedd sy'n gorwedd yn gyfochrog â'r arfordir.

• Os yw'r amodau'n arw, gall symudiad y tonnau greu matiau trwchus o ewyn ar y draethlin.

• Mae gorlifoedd dŵr storm yn tueddu i achosi lliw llwyd yn y dŵr ac yn aml mae ganddynt darddiad fel pibell neu ollyngfa, lle mae'r afliwiad yn gryfaf.

• Gall gollyngiadau carthion gynnwys brasterau ac olewau gan achosi i donnau fynd yn wastad o'u cwmpas a denu heidiau o adar môr weithiau.

Dywedodd Rowland Sharp, Uwch Gynghorydd Morol Cyfoeth Naturiol Cymru:

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, rydym yn aml yn derbyn adroddiadau o amheuaeth o lygredd carthion ar hyd yr arfordir a all droi allan i fod yn ordyfiant algâu sy’n pydru. 
Rydym yn deall y gall gweld ewyn anarferol neu liw yn y dŵr achosi pryder, yn enwedig yn ystod y misoedd cynhesach.
Gall fod yn eithaf anodd gwahaniaethu rhwng gordyfiant algâu a llygredd carthffosiaeth ond rydym yn gobeithio, trwy rannu'r arwyddion i edrych amdanynt, y bydd yn haws gwybod pryd mae rhywbeth yn ddigwyddiad naturiol, a phryd y gallai fod angen rhoi gwybod amdano."
Er bod llawer o achosion o ordyfiant algâu yn ddiniwed, gall rhai gynhyrchu tocsinau, felly rydym yn cynghori'r cyhoedd i osgoi cyffwrdd ag unrhyw lystyfiant yn y môr, llynnoedd neu afonydd.
Os ydych chi'n ansicr ynglŷn â'r hyn rydych chi'n ei weld neu'n amau y gallai fod yn llygredd, rhowch wybod am hyn i'n Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau ar 0300 065 30000 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen adrodd ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth fanylach am y gwahanol fathau o ordyfiant algâu yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gordyfiant algâu’r môr