Astudiaeth newydd yn datgelu cynefin unigryw gwely'r môr yn Aberdaugleddau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyfrannu at ymchwil newydd sy'n datgelu natur unigryw ac ecolegol bwysig gwelyau maerl yn Aberdaugleddau. Mae'r canfyddiadau yn taflu goleuni newydd ar sut y gellir diogelu'r cynefinoedd bregus hyn yn well ar gyfer y dyfodol.
Mae gwelyau maerl yn groniadau o algâu coch sy'n tyfu'n araf ac sy'n ffurfio strwythurau tanddwr cymhleth. Mae'r cynefinoedd hyn yn chwarae rhan hanfodol mewn ecosystemau morol, gan ddarparu cysgod i ystod eang o rywogaethau a gweithredu fel storfeydd sylweddol o garbon glas - gan helpu i liniaru newid hinsawdd trwy ddal a storio carbon deuocsid.
Dan arweiniad Prifysgol Caerwysg, defnyddiodd yr astudiaeth Ddilyniannau Genom Cyfan (DGC) i ddadansoddi samplau maerl o Sir Benfro i Gernyw, gan gynnwys y rhai a ddarparwyd gan CNC. Mae awduron yr ymchwil yn gobeithio y gallai defnyddio'r data ar amrywiaeth genetig nodi'r poblogaethau hynny sy’n wynebu'r perygl mwyaf yn sgil newid amgylcheddol a gweithgareddau dynol.
Canfu'r astudiaeth fod gwely Aberdaugleddau yn wahanol yn enetig i boblogaethau eraill, gan dynnu sylw at ei unigrywiaeth a phwysigrwydd mesurau cadwraeth safle-benodol.
Meddai Dr Frances Ratcliffe, Uwch Swyddog Asesu Amgylcheddol Morol CNC: "Mae'r ymchwil hwn yn tynnu sylw at natur unigryw gwely maerl Aberdaugleddau, gan ddangos ei fod yn hynod amrywiol yn enetig ac yn wahanol i boblogaethau eraill yn y rhanbarth ehangach.
"Rydym yn falch iawn o fod wedi cyfrannu at y gwaith hwn, sy'n gwneud yr achos dros ddiogelu'r cynefin arbennig hwn yn gryfach fyth. Yn anffodus, mae'r gwely mewn cyflwr diraddiedig ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio y bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio ymdrechion yn y dyfodol i ddiogelu'r ecosystemau hanfodol hyn ar gyfer cenedlaethau i ddod."
Meddai Dr Tom Jenkins, arweinydd y prosiect: "Dyma'r prosiect ymchwil cyntaf i gydosod genomau cyfeirio ar gyfer dwy rywogaeth sy'n ffurfio maerl a defnyddio DGC i astudio poblogaethau o amgylch arfordiroedd deheuol a de-orllewinol Prydain.
Mae'n datgelu lefelau amrywiaeth genetig y poblogaethau hyn ac yn nodi pa rai sydd wedi’u dominyddu gan glonau maerl, a allai, gyda'i gilydd, effeithio ar eu bregusrwydd a'u gwytnwch yn wyneb newidiadau yn yr hinsawdd a'r amgylchedd yn y dyfodol."
Ochr yn ochr â'i gefnogaeth i'r ymchwil hwn, mae CNC yn arwain prosiect ehangach sy'n canolbwyntio ar gynefinoedd benthig - yr ecosystemau a geir ar neu gerllaw gwely'r môr. Nod y prosiect yw gwella dealltwriaeth o fioamrywiaeth forol a llywio strategaethau cadwraeth i helpu i amddiffyn yr amgylcheddau tanddwr bregus hyn.
Mae'r gwaith hwn yn edrych ar gynefinoedd a rhywogaethau morol bregus eraill ledled Cymru, gan gynnwys penwaig yn Aberdaugleddau, sbyngau yn Afon Menai a riff marchfisglod modiolus oddi ar Ogledd Pen Llŷn. Cefnogir y gwaith hwn gan gyllid rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru.