Newydd-ddyfodiaid yn rhoi hwb i ymdrechion cadwraeth gwiwerod coch yng Nghoedwig Clocaenog

Mae ymdrechion cadwraeth yng Nghoedwig Clocaenog wedi cael hwb gyda dyfodiad dwy wiwer goch fenywaidd.
Ar 28 Mawrth, croesawyd benyw o’r enw Maple o Wildwood Devon i Goedwig Clocaenog, a chyrhaeddodd benyw arall o Wildwood Kent ar 10 Ebrill.
Mae’r trawsleoliadau hyn yn rhan o brosiect parhaus Mamaliaid Hudolus, sydd â’r nod o gryfhau poblogaethau gwiwerod coch brodorol yng Ngogledd Cymru. Derbyniodd prosiect Mamaliaid Hudolus £500k o gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae’r broses drawsleoli yn dilyn protocol cynefino gofalus er mwyn sicrhau lles y gwiwerod a’u hintegreiddio’n llwyddiannus. I ddechrau, maen nhw’n mynd trwy gyfnod cynefino o bythefnos mewn lloc pwrpasol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Ceidwad Gwiwerod Coch a gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog yn cynnal archwiliadau lles yn ddyddiol, gan fonitro faint o fwyd mae’r gwiwerod yn fwyta a’u hiechyd yn gyffredinol. Mae camerâu ar y llwybrau yn tynnu ffilmiau a fydd yn cael eu hadolygu oddi ar y safle, er mwyn aflonyddu cyn lleied ag sydd bosibl ar y gwiwerod. Mae gwirfoddolwyr yn chwilio am arwyddion o fwydo a gweithgarwch er mwyn asesu i ba raddau mae’r gwiwerod yn addasu.
Unwaith y daw’r cyfnod hwn i ben, agorir drysau’r lloc, gan ganiatáu i’r gwiwerod archwilio eu hamgylchedd a hefyd cadw’r opsiwn o ddychwelyd i ddiogelwch. Mae'r dull 'rhyddhau meddal' hwn yn cyflwyno’r gwiwerod i'r gwyllt yn raddol, gan wella eu siawns o oroesi. Mae'r lloc yn parhau i fod ar gael iddynt am bythefnos o leiaf ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, gyda'r opsiwn o’i gau ar ôl mis er mwyn annog gwasgariad naturiol.
Meddai Glenn Williams, Uwch Swyddog Tîm Rheoli Tir CNC:
“Mae’r cydweithio rhwng CNC, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru a phartneriaid eraill drwy’r prosiect Mamaliaid Hudolus yn hollbwysig ar gyfer diogelu dyfodol gwiwerod coch yng Ngogledd Cymru.
“Mae ein swyddogion wedi bod yn ymwneud yn agos â datblygu cynigion ar gyfer atgyfnerthiadau pellach, gan sicrhau bod pob cam yn digwydd yn ofalus. Rydym hefyd yn cysylltu â’r Sŵ Fynydd Gymreig sy’n cadw llyfr achau gwiwerod coch, sefydliadau eraill sy’n bridio mewn caethiwed a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i hwyluso trosglwyddiadau llyfn a sicrhau bod gwiriadau iechyd angenrheidiol yn cael eu cwblhau.
“Mae’r trawsleoliadau diweddar hyn yn gam sylweddol tuag at ailsefydlu poblogaeth gynaliadwy yng Nghoedwig Clocaenog.”
Meddai Caro Collingwood, Ceidwad Gwiwerod Coch Clocaenog ar gyfer Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru:
“Rydym yn gobeithio y bydd y trawsleoliadau hyn yn cryfhau’r boblogaeth trwy gynyddu amrywioldeb genetig a thrwy gyflwyno gwiwerod benywaidd sy’n bridio i Goedwig Clocaenog. Ni fyddai’r trawsleoliadau hyn wedi bod yn llwyddiant heb waith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog.”
Meddai Judi Dunn, Cofrestrydd Anifeiliaid yn Wildwood Trust:
"Mae Wildwood Trust, o’i barciau yn Sir Kent a Devon, wedi cefnogi gwaith cadwraeth y wiwer goch yng Nghymru ers bron i ugain mlynedd. Mae llawer o’n wiwerod bellach yn crwydro’n rhydd ar Ynys Môn.
"Rydyn ni’n gobeithio y bydd y prosiect diweddaraf hwn yr un mor lwyddiannus, ac edrychwn ymlaen at gydweithio ymhellach gyda’r sefydliadau ac ymddiriedolaethau gwiwerod coch, yn ogystal â’r gwirfoddolwyr, i sicrhau y bydd ein gwiwerod coch brodorol yn ffynnu yng nghefn gwlad Cymru er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu’u mwynhau."
Er mwyn tynnu sylw at gynnydd y prosiect, bydd Mamaliaid Hudolus yn cael sylw ar raglen 'Coast and Country' ITV Cymru ar ddydd Gwener, 18 Ebrill. Yma bydd y cyhoedd yn cael cipolwg ar yr ymdrechion diflino yng Nghoedwig Clocaenog i warchod un o rywogaethau prinnaf a mwyaf eiconig Cymru.