CNC yn cwblhau gwaith sylweddol i gefnogi bywyd gwyllt ar Afon Gwyrfai

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau rhaglen o waith gwella ar gored Bontnewydd ar Afon Gwyrfai yn llwyddiannus, gan dynnu rhwystrau sy’n atal pysgod a llysywod rhag mudo, a chryfhau glan yr afon ar gyfer y dyfodol.
Dechreuodd y prosiect ym mis Ebrill ac fe’i cwblhawyd yng nghanol mis Medi 2025. Roedd yn cynnwys tynnu’r morglawdd carreg a oedd yn uniongyrchol i lawr yr afon o’r gored a chodi strwythur newydd wedi’i ddylunio i ganiatáu i bysgod symud i fyny’r afon yn haws.
Gosodwyd llwybr llysywod hefyd drwy addasu arwyneb y gored i greu gorffeniad garw, wedi’i frwsio y gall llysywod afael ynddo. Yn ogystal, atgyweiriwyd y wal adain ar y lan chwith, a oedd wedi’i thanseilio, er mwyn amddiffyn cyfanrwydd y strwythur.
Er mwyn tarfu gyn lleied â phosib ar yr afon a’r gymuned leol, gwnaed y gwaith mewn camau, gan roi argae ar draws dim mwy na hanner sianel yr afon ar unrhyw un adeg. Roedd hyn yn sicrhau bod y dŵr yn llifo drwy gydol y prosiect.
Mae’r safle bellach wedi’i adfer yn llawn, gan gynnwys ail-hadu’r cae cyfagos mewn ymgynghoriad â’r tirfeddiannwr.
Meddai Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-Orllewin CNC:
“Mae Cored Bontnewydd yn darparu data pwysig sy’n cefnogi ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd; fodd bynnag, mae angen i ni hefyd sicrhau nad yw’r strwythurau monitro hyn yn creu rhwystrau i atal pysgod rhag mudo.
“Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i iechyd Afon Gwyrfai drwy helpu pysgod a llyswennod i symud yn rhwydd ar hyd yr afon. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cynnal poblogaethau iach o bysgod a chefnogi bioamrywiaeth.
“Hoffem ddiolch i’r trigolion lleol a’r tirfeddianwyr am eu hamynedd a’u cydweithrediad tra roedd y gwaith pwysig hwn yn cael ei wneud.”