CNC yn cyhoeddi Adroddiad Rheoleiddio Blynyddol

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Rhaid i waith rheoleiddio gadw i fyny â diwydiannau presennol a diwydiannau sy'n dod i'r amlwg a bod yn hyblyg i'r heriau sy'n cael eu gyrru gan argyfyngau’r hinsawdd, natur a llygredd, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (2 Rhagfyr 2024) wrth iddo gyhoeddi ei adroddiad rheoleiddio blynyddol.

Mae CNC yn goruchwylio’r gwaith o reoleiddio busnesau a diwydiannau ar draws ystod eang o sectorau yng Nghymru, o gwmnïau dŵr i safleoedd rheoli gwastraff. Rydym hefyd ar flaen y gad o ran ymateb i'r nifer cynyddol o ddigwyddiadau sy'n cael eu gyrru gan newid yn yr hinsawdd, dirywiad byd natur a llygredd.

Mae'r Adroddiad Rheoleiddio, a gyhoeddir bob blwyddyn, yn darparu adolygiad cynhwysfawr o'n gweithgareddau rheoleiddio a gorfodi ar draws y cylch gwaith hwn ar gyfer blwyddyn galendr 2023, gan gwmpasu ymateb i ddigwyddiadau, caniatáu a thrwyddedu, cydymffurfiaeth, trosedd a'n camau gorfodi a chosbi.

Dyma brif ganfyddiadau'r adroddiad ar gyfer blwyddyn galendr 2023:

  • Cawsom ein hysbysu o 8,505 o ddigwyddiadau - 17% yn fwy na 2022.
  • Roedd 1,290 o ddigwyddiadau'n rhai 'lefel uchel' lle roedd angen ymateb ar unwaith
  • Aethom i 29% o'r holl ddigwyddiadau yn 2023 - sy’n debyg i flynyddoedd blaenorol, er ein bod wedi delio gyda dros 1,000 yn rhagor o ddigwyddiadau.
  • Roedd 39% o'r holl ddigwyddiadau a adroddwyd (3,318) yn gysylltiedig â dŵr (llygredd, cronfeydd dŵr, tynnu dŵr, rhwystrau neu newid cwrs dŵr) – 8% yn fwy na 2022.
  • Fe wnaeth gwiriadau cydymffurfio ar gyfer gollwng dŵr gynyddu i 649 - 37% yn fwy na 2022
  • Roedd cynnydd o 48% yn nifer y gwiriadau cydymffurfio ar gyfer ffermio dwys yn 2023
  • Roedd 831 o achosion gorfodi newydd yn 2023, sy'n cynnwys 799 o droseddwyr, gyda 1,267 o gyhuddiadau gorfodi ar wahân
  • Yn 2023, bu gostyngiad o 10% a 5% yn nifer yr ymweliadau cydymffurfio ar gyfer gwastraff a gosodiadau yn y drefn honno, o gymharu â 2022.

Mae’r ffigurau sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad yn dangos bod mynd ar drywydd y rhai sy'n llygru ein hamgylchedd naturiol, a sefydliadau ac unigolion sy'n ceisio elwa o weithgarwch anghyfreithlon yn parhau i fod yn flaenoriaeth i CNC.

Roedd tua 46% o'r 831 o achosion gorfodi a agorwyd yn 2023 yn deillio o'n gweithgarwch ymateb i ddigwyddiadau, gyda 45% yn deillio o'n hymdrechion cydymffurfio. Roedd y 9% sy'n weddill yn deillio o ddigwyddiadau pysgodfeydd.

Yn ystod 2023 daethom â 442 o achosion gorfodi i ben, gyda 389 arall yn parhau. Arweiniodd ein gwaith gorfodi hefyd at 85 o erlyniadau llwyddiannus, yn cynnwys 126 o gyhuddiadau, ac at ddirwyon o gyfanswm o £648,320.

Roedd digwyddiadau sy'n gysylltiedig â dŵr ar frig y tabl o ddigwyddiadau a adroddwyd dros y cyfnod adrodd hwn (3,318), ac yna 3,051 o adroddiadau o ddigwyddiadau cysylltiedig â gwastraff - cynnydd o'r 2,454 a adroddwyd yn 2022.

Rydym yn ymdrechu'n gyson i wella sut rydym yn gweithio gyda busnesau a sectorau i reoli a lleihau llygredd a gwastraff gan ddefnyddio ein pwerau a'n dyletswyddau statudol.

Y llynedd, cyhoeddwyd ein cynllun corfforaethol hyd at 2030 sy'n nodi sut y byddwn yn blaenoriaethu camau gweithredu fel y bydd natur a phobl yn cael eu hamddiffyn rhag effeithiau llygredd.

Dywedodd Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu CNC:

O'r cynnydd sylweddol yn nifer yr arolygiadau cydymffurfio dŵr ac amaethyddol, i ddelio â nifer cynyddol o ddigwyddiadau a adroddir i ni, mae'r adroddiad hwn yn dangos nid yn unig lle mae ein hymdrechion rheoleiddiol yn gwneud gwahaniaeth, ond lle mae'r heriau sy'n wynebu rheoleiddwyr fel CNC yn cynyddu.
Ni fu disgwyliad y cyhoedd i ni amddiffyn ein hamgylchedd erioed yn fwy, ond rydym hefyd wedi ymrwymo i reoleiddio i safonau uchel. Dyma pam rydym wedi rhoi lleihau llygredd wrth wraidd ein cynllun corfforaethol, gan dynnu sylw at yr hyn y gallwn ei wneud ein hunain, ond hefyd lle bydd angen i ni weithio gydag eraill i sicrhau bod natur a phobl yn cael eu hamddiffyn rhag risgiau ac effeithiau llygredd a digwyddiadau amgylcheddol nawr, ac yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad rheoleiddio yn tynnu sylw at sut y bydd angen i ni, mewn byd sy'n newid yn gyflym, ymateb i'r her o reoleiddio diwydiannau presennol a diwydiannau sy'n dod i'r amlwg ar y llwybr tuag at sero net. Mae twf y boblogaeth, ac argyfyngau’r hinsawdd a byd natur hefyd yn dod â’u heriau eu hunain, gan dynnu sylw at yr angen am ddulliau rheoleiddio mwy hyblyg i fodloni'r newid amgylcheddol cyflym hwn.

Ychwanegodd Nadia De Longhi:
Nid yw rheoleiddio effeithiol yn ymwneud â dileu'r holl risgiau; mae'n ymwneud â'u rheoli a'u lleihau er mwyn lleihau niwed i bobl a'r amgylchedd.
Mae ein cydweithwyr ymroddedig, y manylir ar eu hymdrechion rheoleiddiol yn yr adroddiad hwn, yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni hyn. Ond mae angen i ni hefyd sicrhau bod yr offer deddfwriaethol sydd ar gael inni yn addas ar gyfer y dyfodol.
Fel rheoleiddwyr, byddwn yn parhau i yrru'r gwelliannau y gallwn eu gwneud gyda'r adnoddau sydd gennym. Ond, fel llawer o gyrff cyhoeddus, bydd angen i ni hefyd fod yn arloesol o ran sut a ble rydym yn canolbwyntio ein hadnoddau a'n hymdrechion. Mae hefyd yn golygu sicrhau ein bod ni'n blaenoriaethu'r camau rydyn ni'n eu cymryd fel eu bod yn arwain at y canlyniadau gorau i bobl ac i fyd natur, a'u bod nhw'n cyflawni'r gwelliannau i'n hamgylchedd rydyn ni i gyd eisiau eu gweld.