Effeithiau llifogydd difrifol posibl yn sgil Storm Claudia
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio pobl am berygl llifogydd sylweddol o afonydd a dŵr wyneb heddiw wrth i Storm Claudia daro Cymru (14 Tachwedd), gyda phryder arbennig am Dde-ddwyrain Cymru a Phowys, ble gallai effeithiau’r llifogydd fod yn ddifrifol.
Bydd rhybudd glaw oren gan y Swyddfa Dywydd mewn grym o ganol dydd heddiw tan hanner nos, ar gyfer Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Sir Fynwy. Mae rhybudd melyn am law wedi bod mewn grym dros y rhan fwyaf o Gymru ers 6am y bore, a bydd yn parhau mewn grym tan 6am fore Sadwrn.
Mae’n bosib y bydd y glaw trwm a pharhaus, sy’n symud yn araf, yn arwain at lifogydd difrifol yn Ne-ddwyrain Cymru a Phowys. Gyda’r glaw trymaf i’w ddisgwyl yn gynnar gyda’r nos, rydym yn erfyn ar bobl i gadw’n ddiogel.
Mae glaw sy’n gysylltiedig â system dywydd heddiw yn symud i mewn o’r De-ddwyrain. Mae hyn yn golygu bod y glaw trymaf yn debygol o ddisgyn yn is mewn dalgylchoedd ar draws de-ddwyrain Cymru a Phowys. O ganlyniad, cyrsiau dŵr llai yn yr ardaloedd hyn sy’n wynebu’r perygl llifogydd uniongyrchol mwyaf heddiw a thros nos. Gallai’r afonydd mwy ymateb dros y dyddiau nesaf wrth i’r dŵr lifo i lawr y dalgylch.
Gyda lefelau afonydd yn uchel a’r tir yn ddirlawn yn dilyn y glaw diweddar, disgwylir llawer o Rybuddion Llifogydd heddiw a thros nos.
Er bod y glaw gwaethaf yn debygol o fod dros Dde-ddwyrain Cymru a Phowys, dylai pobl mewn rhannau eraill o Gymru hefyd fod yn barod am yr effeithiau a gwirio’r rhagolygon tywydd lleol.
Mae timau Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio’n ddiflino i helpu cymunedau i fod yn barod – gan fonitro lefelau afonydd, cyhoeddi rhybuddion, gwirio amddiffynfeydd a’u rhoi mewn lle, a sicrhau bod gridiau a sgriniau draeniau yn glir.
Dywedodd Sally Davies, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd ar gyfer Cymru yn CNC:
“Disgwylir i Storm Claudia ddod â glaw parhaus a fydd yn symud yn araf ar draws Cymru gyfan, ond bydd yn eithriadol o drwm mewn rhannau o Dde-ddwyrain Cymru a Phowys. Gallai hyn arwain at lifogydd difrifol yn yr ardaloedd hyn.
“Rydym yn disgwyl i’r glaw trymaf ddisgyn yn is i lawr mewn dalgylchoedd dros yr ardaloedd hyn. O ganlyniad, nentydd a chyrsiau dŵr llai yn yr ardaloedd hyn sy’n wynebu’r perygl llifogydd uniongyrchol mwyaf heddiw a thros nos.
“Mae yna berygl llifogydd hefyd o afonydd sy’n ymateb yn arafach wrth i law ddisgyn yn uwch i fyny yn y dalgylch. O ganlyniad, mae’n bosib y byddwn yn dal i weld yr effeithiau dros y dyddiau nesaf ac rydym yn erfyn ar bawb i gymryd y rhybuddion wirioneddol o ddifri.
“Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod cymunedau mor barod â phosibl ac yn erfyn ar bobl i gymryd gofal a gwneud trefniadau i fod yn ddiogel.
“Bydd amodau gyrru wrth i bobl deithio adref o’r gwaith heddiw yn arbennig o beryglus. Os ydych chi allan, cymerwch ofal arbennig a pheidiwch byth â gyrru na cherdded trwy lifddwr.
“Cadwch lygad ar y rhagolygon ac ewch i’n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion llifogydd. Gallwch ddod o hyd i gyngor ymarferol ar lifogydd ar ein gwefan hefyd.”
Nid yw CNC yn darparu rhybuddion llifogydd ar gyfer llifogydd dŵr wyneb, lle nad yw dŵr glaw yn draenio drwy’r systemau draenio arferol nac yn ymdreiddio i’r ddaear, felly mae’n bwysig bod pobl yn gwybod beth yw’r perygl iddyn nhw o’r ffynhonnell hon.
Bydd rhybudd melyn am wynt hefyd mewn grym o hanner dydd tan hanner nos, dros Geredigion, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn a Phowys.
Mae negeseuon llifogydd: byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd ar gyfer afonydd a’r arfordir yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud ac maent ar gael yma www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd
Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188.
Yn ogystal â gwirio perygl llifogydd a chofrestru ar gyfer rhybuddion, gall pobl hefyd wirio ein rhagolygon llifogydd 5 diwrnod ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru, a dod o hyd i gyngor ymarferol ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd.