DATGANIAD | Cyfoeth Naturiol Cymru yn cytuno ar fwy o Ddarpariaeth Ariannol gyda gweithredwr Tirlenwi Llwynhedge

Logo CNC

Yn 2024, gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i weithredwr Tirlenwi Withyhedge, Resources Management (UK) Limited (RML), adolygu'r Ddarpariaeth Ariannol sydd ar waith ar gyfer y safle.

Mae'r ddarpariaeth ariannol hon yn gronfa ddiogel sy'n sicrhau y gall y safle barhau i gael ei fonitro a'i gynnal cyhyd ag y gall fod yn risg i'r amgylchedd, gan gynnwys yn ystod y cyfnod ôl-ofal. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bob safle tirlenwi yng Nghymru gael y math hwn o gronfa, ac mae'n rhaid ei hadolygu'n rheolaidd i wneud yn siŵr bod y swm sydd wedi'i neilltuo yn parhau i fod yn ddigonol.

Dangosodd adolygiad RML fod angen cynyddu'r gronfa ar gyfer safle Tirlenwi Withyhedge. Mae CNC wedi asesu cynnig RML ac yn cytuno â'r ffigur diwygiedig.

Er mwyn gwneud y newid hwn yn swyddogol, rhaid diweddaru'r drwydded ar gyfer y safle. Felly, mae CNC yn cynnal amrywiad i'r drwydded dan arweiniad rheoleiddiwr i gynnwys y cytundeb ariannol diwygiedig. Nid oes unrhyw rannau eraill o'r drwydded yn cael eu newid.

Mae'r penderfyniad hwn yn hanfodol i sicrhau bod digon o adnoddau yn cael eu neilltuo i ddiogelu'r amgylchedd dros ddyfodol hirdymor y safle.

Nid yw hyn yn effeithio ar y cais amrywio trwydded sylweddol ar wahân a gyflwynwyd ddiweddar, y byddwn yn ymgynghori â’r cyhoedd yn ei gylch yn fuan.