Gwaith cynaeafu coed yn mynd rhagddo mewn Goedwig Gwydir
Bydd pedwar hectar o goed yn cael eu cynaeafu mewn coedwig ger Blaenau Ffestiniog.
Bydd coed sy'n rhan o Goedwig Gwydir yn cael eu llwyrgwympo yn ystod pedwar mis o waith a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a ddechreuodd ar 28 Tachwedd.
Mae difrod helaeth yn yr ardal dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn sgil stormydd wedi difrodi nifer o goed, a byddant yn cael eu symud i atal perygl i'r cyhoedd a'r A470 gerllaw.
Bydd goleuadau traffig dros dro ar waith ar ran o'r A470 sy'n arwain at Fwlch y Gorddinan, rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog, am gyfnod o dair wythnos. Mae hyn er mwyn gallu cwympo'r coed sydd agosaf at y brif ffordd yn ddiogel.
Meddai Kath McNulty, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru:
"Mae'r coed bellach yn aeddfed ac fe fyddan nhw'n cael eu cwympo a’u symud. Bydd pren o'r coed a gwympwyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adeiladu, deunyddiau ffensio, pren paledi a biomas.
"Bydd cael gwared ar y coed hefyd yn gwella diogelwch i'r rhai sy'n defnyddio'r goedwig a'r A470, gan fod rhai coed wedi cael eu difrodi gan stormydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Bydd yr ardal yn cael ei hailblannu gyda rhywogaethau coed sy'n fwy gwydn yn erbyn newid yn yr hinsawdd, gan helpu i gadw Coedwig Gwydir yn iach am genedlaethau i ddod.
“Er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar fywyd gwyllt, mae ecolegwyr wedi arolygu'r ardal sydd i'w chwympo ac ni ddaethant ar draws unrhyw broblemau.
"Gofynnwn i ymwelwyr â’r goedwig gadw at lwybrau sydd wedi'u marcio, cymryd sylw o holl arwyddion y safle, a chadw cŵn ar dennyn yn ystod y gwaith.
“Hoffem hefyd ddiolch i aelodau'r gymuned leol am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth.”
Bydd y gwaith yn tarfu ar draffig yn achlysurol er mwyn sicrhau y gellir gwneud cwympo’r coed yn ddiogel.
Bydd mynedfeydd i breswylwyr yn parhau i fod ar agor bob amser ond efallai y bydd rhywfaint o oedi tra bydd pren yn cael ei lwytho ar lorïau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Thîm Gweithrediadau Coedwig Gogledd-orllewin Cymru ar 0300 065 3735 neu e-bostiwch GweithrediadauCoedwigoeddGogleddOrllewin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk