Wythnos Natur Cymru yn dathlu bywyd gwyllt brodorol a gweithredu dros fyd natur – 5 i 13 Gorffennaf

Gwahoddir pobl ar hyd a lled Cymru i ymuno â digwyddiadau sy'n eu cysylltu â byd natur ac yn ysbrydoli gweithredu dros adferiad byd natur.
Mae Wythnos Natur Cymru, 5 i 13 Gorffennaf, yn ddathliad o fywyd gwyllt a chynefinoedd sy’n canolbwyntio ar fwynhau, gwerthfawrogi a helpu byd natur yng Nghymru. Mae hefyd yn dathlu'r bobl sy'n gwneud gwaith anhygoel dros natur yn eu hardal.
Mae digwyddiadau eleni yn cynnwys dyddiau gŵyl i bobl o bob oed, teithiau tywys a gweithdai bywyd gwyllt a gynhelir gan Bartneriaethau Natur Lleol a sefydliadau eraill sy'n natur-gyfeillgar. Mae llawer o'r digwyddiadau am ddim i’w mynychu ac maent yn gyfle gwych i ddathlu byd natur a bod yn rhan o gymuned.
Gall pobl hefyd ymuno â'r wythnos yn yr ysgol, yn y gwaith neu gartref drwy gymryd amser i sylwi ar fyd natur yn eu hardal leol a rhannu eu profiad ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #WythnosNaturCymru.
Dywedodd Sean McHugh, o Dîm Cefnogi Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae Wythnos Natur Cymru yn gyfle gwych i bobl o bob oed gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth i fyd natur. Gan ein bod mewn argyfwng natur a hinsawdd, ni fu erioed yn bwysicach gofalu am fyd natur. Bydd diogelu a gwella bioamrywiaeth yn cefnogi'r ecosystemau ry’n ni i gyd yn dibynnu arnynt bob dydd ar gyfer ein bwyd, ein hiechyd a'n heconomi.
“Mae byd natur i bawb, felly dathlwch Wythnos Natur Cymru mewn unrhyw ffordd y gallwch, boed hynny drwy fynychu digwyddiad, codi ymwybyddiaeth gyda’ch teulu a’ch ffrindiau neu fwynhau mynd am dro ganol yr haf. Peidiwch ag anghofio rhannu eich lluniau gyda ni gan ddefnyddio #WythnosNaturCymru.
“Gobeithio y bydd yr wythnos yn annog pobl i gymryd camau syml i helpu natur, fel gwneud lle i fywyd gwyllt drwy arddio mewn modd sy’n ffafrio bywyd gwyllt. Mae camau hawdd eraill yn cynnwys cysylltu â Phartneriaethau Natur Lleol, cefnogi elusennau cadwraeth, neu wirfoddoli gyda phrosiectau natur lleol.”
Dywedodd Evelyn Gruchala, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Adfer Natur, Cyngor Abertawe a Thirwedd Genedlaethol y Gŵyr:
“Mae Wythnos Natur Cymru yn gyfle ysbrydoledig i gymunedau ar draws Abertawe a’r Gŵyr gysylltu â byd natur a chymryd camau ystyrlon i’w diogelu a’i gwella. Wrth i’r argyfyngau natur a hinsawdd fynd rhagddynt, ni fu erioed yn fwy pwysig cefnogi bywyd gwyllt yn lleol a diogelu'r mannau gwyrdd a glas sy'n sylfaen i wydnwch ecosystemau a'n lles ni yn y dyfodol.
“I nodi’r achlysur, mae Abertawe yn cynnal digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio i ddenu pobl o bob oed a diddordeb. Ymysg yr uchafbwyntiau mae digwyddiadau cymunedol i arolygu’r wennol ddu i ddathlu Wythnos Ymwybyddiaeth y Wennol Ddu, gweithdy adeiladu waliau cerrig sychion traddodiadol, taith dywys ar infertebratau mewn safle gwastraff glo o bwysigrwydd ecolegol ac archwiliad o'r rhyfeddodau cudd ar hyd ein glannau arfordirol.
“P’un a ydych chi’n cymryd rhan mewn digwyddiad wedi’i drefnu, yn cymryd camau cyfeillgar i natur gartref, neu’n rhoi amser i fwynhau eich man gwyrdd lleol, mae eich cyfraniad chi yn gwneud gwahaniaeth.”
Mae Wythnos Natur Cymru yn ddathliad blynyddol sy’n cael ei gydlynu gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ac sy’n bosibl diolch i gyfraniad Partneriaethau Natur Lleol, sefydliadau amgylcheddol, cymunedau, ysgolion, busnesau ac unigolion. Mae'r wythnos yn dod â miloedd o bobl ynghyd bob blwyddyn i dynnu sylw at bwysigrwydd bioamrywiaeth a'r rôl y gall pawb ei chwarae yn adferiad byd natur.
Dysgwch am ddigwyddiadau Wythnos Natur Cymru ar wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a dilynwch @WalesNatureWeek ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rhestr o Ddigwyddiadau
2 Gorffennaf
- Fferm Pentwyn, Llanbister – Arolwg Ystlumod Gyda’r Nos
3 Gorffennaf
- Clydach – Gwenoliaid Duon ar Fachlud Haul
- Y Gelli Gandryll – Dangos y Ffilm ‘Balancing the Scales’
- Trefynwy – Sgwrs a Thaith Gerdded Gwenoliaid Duon
4 Gorffennaf
- Treforys – Gwenoliaid Duon ar Fachlud Haul
5 Gorffennaf
- Diwrnod Natur Llangors
- Aberystwyth - Gŵyl Natur Ceredigion
- Cefn Sidan – Saffari ar Lan y Mordraeth
- Cwm Blaensychan – Digwyddiad Caru Natur
- Llanelli Hill – Diwrnod Chwarae Natur
- Brynbuga – Diwrnod Alfred Russel Wallace
- Graean Llandinam – Gwylio Blodau Gwyllt
- Aberduna – Taith Dywys Gloÿnnod Byw
- Castell Ffŵl-y-mwn – Taith Gerdded Ystlumod
6 Gorffennaf
- Llyn Llech Owain – Gweithgareddau Natur
- Cyffordd Llandudno – Casglu Sbwriel
- Fferm Fforest, Caerdydd – Taith Gerdded Lesol
- Llanberis – 'Swifft Hâff'
- Llyn Llech Owain – Gweithgareddau Natur
- Llanilltud Fawr – Braslunio Byd Natur ym Mynwent Eglwys Sant Illtud
- Pontardawe - Green Gathering
7 Gorffennaf
- Pontyberem – Creadigrwydd Ystyriol yn y Coed
- Gilfach – Taith Fotaneg
- Pwll Du, Abertawe – Gweithdy Deuddydd Codi Waliau Sych
- Parc Pont-y-pŵl – Taith Sylwi ar Fyd Natur
8 Gorffennaf
- Llanelli Hill – Gwehyddu Helyg
9 Gorffennaf
- Cefn Sidan - Saffari ar Lan y Mordraeth
- Glyn Ebwy – Therapi’r Goedwig
- Llwyncelyn – Taith Gwenyn a Gloÿnnod Byw
- Y Fenni – Saffari Pryfed Tywysedig
- Dwyrain Aberddawan – Adfer Tirwedd y Ddawan: Hel Sbwriel
- Y Barri – Digwyddiad Celf Natur: Gwenoliaid Duon a Gwenoliaid
- Pyllau a Choetiroedd Beaufort Hill - Digwyddiad Gwas y Neidr
10 Gorffennaf
- Taith Gerdded Natur Morfa Berwig
- Parc y Mynydd Bychan – Monitro Draenogod
- Llwyncelyn – Blodau Gwyllt Dyfrlliw
- RSPB Ynys Lawd – Taith Gerdded Palod
11 Gorffennaf
- Melin Mynach – Bywyd Cudd Sborion Pwll Go: Taith Dywys Bioamrywiaeth
- Bynie – Darlunio gyda Siarcol
- Llwyncelyn – Blodau Gwyllt Dyfrlliw
12 Gorffennaf
- Sain Ffagan – Dathlu Natur
- Parc Bute – Gwylio Gwyfynod
- Cors Burfa – Taith Fotanegol
- Parc Bryn Bach, Tredegar – Ewch yn Wyllt! Digwyddiad Am Ddim i’r Teulu
- Parc y Mynydd Bychan – Cyflwyniad i Arolygon Glaswelltir a Blodau Gwyllt
- Blackpill – Cyfrinachau'r Lan
- Y Gogarth – Planhigion allan o Le: Sgwrs a Thaith Gerdded
- RSPB Ynys Lawd – Taith Gerdded Palod
- Gwlyptiroedd Casnewydd - Cwrs Adnabod Cacwn a Thaith Gerdded Dywysedig
13 Gorffennaf
- Parc Gwledig Margam – Dadorchuddio Byd Natur
- Clwb Golff y Trallwng – Taith Dywys Gweision y Neidr a Mursennod
- Coed Pengelli – Adnabod Coed yn yr Haf
- Tir-Phil – Gwehyddu Helyg
- Gwlyptiroedd Casnewydd - Cwrs Adnabod Gweision Neidr a Thaith Gerdded Dywysedig
19 Gorffennaf
- Llynnoedd Cosmeston - Gŵyl Natur y Fro
- Parc Gwepra – Gŵyl y Ddôl Sir y Fflint
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – Gŵyl BioBlitz
20 Gorffennaf
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – Gŵyl BioBlitz
Digwyddiadau parhaus
- Tan 13 Gorffennaf: Gwarchodfa Natur Cemlyn – Darganfod Cemlyn gyda’r Wardeiniaid
- Tan 1 Hydref: Canolfan Ymwelwyr y Gogarth – Arddangosfa Tu Hwnt i’r Ffin
Mae holl fanylion y digwyddiadau hyn, gan gynnwys amser, lleoliad a gwybodaeth archebu, ar gael ar-lein yn www.biodiversitywales.org.uk/cy/digwyddiadau/digwyddiadau-wythnos-natur-cymru/