Man dall dŵr y Cymry: Y cyhoedd yn tanamcangyfrif eu defnydd o ddŵr bob dydd o fwy na 100 litr
- Gwyddonwyr ac arbenigwyr blaenllaw yn cefnogi ymgyrch newid ymddygiad newydd fawr i Gymru er mwyn herio sut mae cymdeithas yn meddwl am ddŵr ac yn ei ddefnyddio
- Mae bron pob oedolyn yng Nghymru (92%) naill ai’n tanamcangyfrif eu defnydd o ddŵr neu ddim yn gwybod faint o ddŵr maen nhw’n ei ddefnyddio
- Mae mwy na hanner (56%) yn credu mai dim ond problem tymor byr yw prinder dŵr, er enghraifft yn ystod tywydd poeth.
Mae 92% o oedolion Cymru naill ai’n tanamcangyfrif eu defnydd o ddŵr neu ddim yn gwybod faint o ddŵr maen nhw’n ei ddefnyddio yn ôl ymchwil newydd, wrth i fenter fawr newydd gael ei lansio i newid y ffordd mae cymdeithas yn meddwl am ddŵr ac yn ei ddefnyddio.
Daw ymgyrch Dewch i Arbed Dŵr wrth i wyddonwyr, arbenigwyr amgylcheddol ac arweinwyr y diwydiant rybuddio am bwysau cynyddol ar adnoddau dŵr Cymru oherwydd newid hinsawdd, twf yn y boblogaeth a chynnydd yn y galw. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o natur werthfawr a chyfyngedig dŵr wrth annog newidiadau ymddygiad syml – o gymryd cawodydd byrrach i drwsio tapiau sy’n diferu – er mwyn lleihau’r defnydd o ddŵr heddiw a helpu i ddiogelu cyflenwad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Er bod Cymru’n adnabyddus am ei glaw, mae newid hinsawdd yn peri risg o hafau cynhesach a sychach, a gaeafau gwlypach, sy’n effeithio ar faint o ddŵr sydd ar gael yn ddibynadwy i gartrefi, busnesau a’r amgylchedd naturiol. Mae’r pwysau ar gyflenwadau’n cynyddu yn ystod tywydd eithriadol o gynnes, cyfnodau sych hir a chyfnodau pan fo’r galw’n uchel, ac yn y dyfodol bydd angen i ni adael mwy o ddŵr mewn afonydd ac ecosystemau er mwyn amddiffyn bywyd gwyllt.
Mae’r data newydd, sy’n seiliedig ar arolwg YouGov o 1,040 o oedolion ledled Cymru, yn tynnu sylw at fwlch rhwng canfyddiad a realiti o ran defnyddio dŵr. Ar gyfartaledd, mae pobl yn credu eu bod yn defnyddio tua 30 litr o ddŵr y dydd, ond mae’r defnydd gwirioneddol tua 140 litr. Hynny yw, mae pobl yn defnyddio bron i bum gwaith yn fwy o ddŵr na maen nhw’n ei feddwl.
Mae diffyg ymwybyddiaeth o’r her gyflenwi ehangach yng Nghymru hefyd. Mae mwy na hanner (56%) yn credu mai dim ond problem tymor byr yw prinder dŵr, ac mae mwy na thraean o bobl (34%) yn teimlo nad yw eu defnydd unigol o ddŵr yn gwneud llawer o wahaniaeth ar lefel genedlaethol.
Mae arbenigwyr yn pwysleisio mai her a rennir, ar draws y system, yw hon yn hytrach na her unigol, a gall dealltwriaeth gliriach helpu pobl i chwarae eu rhan ochr yn ochr â chamau ehangach sydd eisoes ar y gweill.
Meddai Llyr Gruffydd AS, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:
“Dŵr yw un o’n hasedau naturiol mwyaf gwerthfawr, ac mae sut rydyn ni’n ei ddefnyddio bob dydd yn wirioneddol bwysig.
“Mae gan newid hinsawdd y potensial i effeithio ar ein cyflenwadau dŵr. Rydyn ni am gryfhau ein gwydnwch fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn etifeddu gwlad lle mae dŵr yn cael ei werthfawrogi a’i ddefnyddio’n ddoeth.
“Gall newidiadau bach, gyda’i gilydd, wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol.”
Mary Lewis, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n egluro’r her benodol i Gymru:
“Er bod Cymru’n adnabyddus am ei glaw, mae newid hinsawdd a phatrymau tywydd newidiol yn golygu na fydd dŵr bod amser ar gael yn ddibynadwy drwy gydol y flwyddyn yn y dyfodol.
Rydyn ni wedi gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf y straen mae hyn wedi’i roi ar ein hamgylchedd naturiol gyda phwysau ar fywyd gwyllt, cynefinoedd a dyfrffyrdd, yn ogystal â chymunedau.
“Mae pob diferyn rydyn ni’n ei wastraffu gartref neu yn y gwaith yn golygu llai o ddŵr i gadw ein hafonydd a’n bywyd gwyllt yn iach. Drwy ddefnyddio dŵr yn ddoeth, gall pawb ohonon ni chwarae ein rhan wrth ddiogelu’r adnoddau hanfodol yma ar gyfer y dyfodol.”
Meddai’r Athro Lizzie Kendon, Pennaeth Strategol Prosesau a Rhagamcanion Hinsawdd yn y Swyddfa Dywydd:
“Nid yw mwy o law yn golygu mwy o ddŵr i ni ei ddefnyddio o reidrwydd. Mae newid hinsawdd yn achosi patrymau tywydd sy’n mynd yn fwyfwy eithafol, gyda gaeafau gwlypach, hafau sychach, a chyfnodau mwy dwys o law. Pan fydd glaw yn disgyn ar dir sych a chaled, nid yw llawer ohono’n gallu treiddio lawr i’r pridd lle mae fwyaf o’i angen, yn lle hynny mae’n rhedeg ar yr wyneb ac yn cael ei golli. Mae’r anghydbwysedd cynyddol yma’n rhoi mwy a mwy o bwysau ar ein hadnoddau dŵr, ac mae angen gweithredu ar frys. Drwy weithredu nawr a gwneud newidiadau bach, bob dydd, gallwn helpu i ddiogelu’r adnodd gwerthfawr yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Mae’r diwydiant dŵr yng Nghymru yn buddsoddi’n helaeth i uwchraddio seilwaith, gan gynnwys trwsio gollyngiadau. Fodd bynnag, fydd y mesurau yma ar eu pen eu hunain ddim yn cau’r bwlch yn llwyr rhwng y cyflenwad a’r galw am ddŵr a ragwelir, ac mae arbenigwyr yn cytuno y bydd angen gweithredu ar draws cymdeithas hefyd.
Meddai Chris Walters, Prif Weithredwr Ofwat:
“Mae buddsoddi mewn seilwaith newydd a lleihau gollyngiadau yn hanfodol, ond mae gwydnwch parhaol hefyd yn dibynnu ar newid ein perthynas â dŵr a dod yn stiwardiaid ar gyfer ein hamgylchedd naturiol. Mae’r ymgyrch yma’n ymwneud â helpu pobl i ddeall bod dŵr yn adnodd cyfyngedig a bydd ei werthfawrogi’n well heddiw yn helpu i sicrhau cyflenwadau dibynadwy ac amddiffyn yr amgylchedd yn yr hirdymor.”
I ddysgu mwy, chwiliwch am Dewch i Arbed Dŵr neu ewch i www.dewchiarbeddwr.cymru / www.letssavewater.wales