Parhau â’r frwydr yn erbyn tipio anghyfreithlon yn ystod y pandemig

Ers i’r pandemig ein cyrraedd ddiwedd mis Mawrth, rydym wedi gorfod addasu’r ffordd rydym yn gweithio er mwyn cadw ein cwsmeriaid a’n timau’n ddiogel.

I nifer o’n timau rheng flaen, mae eu cysylltiad â chwsmeriaid wedi gorfod newid oherwydd Covid-19, heb leihau’r safonau. Yma, mae aelodau tîm Taclo Tipio Cymru yn rhannu gyda chi’r heriau y maent wedi’u hwynebu a’r modd y maent wedi addasu yn ystod er mwyn sicrhau bod y frwydr yn erbyn tipio anghyfreithlon yn parhau.

Menter a noddir gan Lywodraeth Cymru yw Taclo Tipio Cymru, a chaiff ei chydlynu trwy CNC. Rydym yn gweithio gyda mwy na 50 o bartneriaid gan fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yng Nghymru. Mae’r partneriaid yn cynnwys y 22 Awdurdod Lleol, y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu a Network Rail, i enwi dim ond rhai. Mae’r effeithiau negyddol a ddaw yn sgil tipio anghyfreithlon yn rhai difrifol, yn enwedig mewn perthynas â llesiant pobl ac ansawdd eu hamgylchedd lleol.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar bedair prif thema:

  • Tystiolaeth – gweithio gyda’n partneriaid i gasglu tystiolaeth yn ymwneud â graddfa’r broblem, fel y gellir targedu adnoddau yn y mannau hyn.
  • Gorfodi – gweithio gydag asiantaethau gorfodi, fel yr heddlu ac Awdurdodau Lleol, i gymryd camau yn erbyn tipwyr anghyfreithlon.
  • Addysg – datblygu ymgyrchoedd cyhoeddus penodol, fel y neges Dyletswydd Gofal i annog ein cwsmeriaid i ysgwyddo cyfrifoldeb dros yr eitemau gwastraff y maent yn eu trosglwyddo i ddwylo gweithredwyr gwastraff.
  • Ymgysylltu – rydym yn cydlynu gweithgorau sy’n dwyn ynghyd bartneriaid ledled Cymru i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon trwy ddefnyddio dull partneriaeth.

Rydym yn dîm prysur dros ben. Y llynedd rhoddwyd gwybod am fwy na 35,000 achos o dipio anghyfreithlon yng Nghymru – mae hyn yn cyfateb i 4 achos bob awr! Awdurdodau Lleol sy’n mynd i’r afael â’r rhan helaeth o achosion o dipio anghyfreithlon, ac mae’n costio bron i £2 miliwn iddynt gael gwared â’r gwastraff – arian y byddai’n well ei wario ar wasanaethau rheng flaen eraill. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol sy’n fygythiad uniongyrchol i’r amgylchedd, i anifeiliaid, i gymunedau lleol ac i dirweddau hardd Cymru.

Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau’n gynharach eleni a’r cyfnod atal byr sy’n digwydd ar hyn o bryd, mae hi wedi bod yn bwysig inni barhau â’n gwaith gwyliadwrus gyda chwsmeriaid a’r cyhoedd i helpu i daclo tipio anghyfreithlon yng Nghymru, er mwyn i bobl allu rheoli eu gwastraff tra’r oedd y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ar gau ac osgoi defnyddio masnachwyr twyllodrus i fynd â’u gwastraff ymaith a’i dipio’n anghyfreithlon.

Mae’n her fawr inni feithrin dealltwriaeth o raddfa tipio anghyfreithlon yn ystod y cyfnod hwn tra bod y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ar gau. Hefyd, mae nifer o’n partneriaid mewn Awdurdodau Lleol wedi gorfod rhoi cyfyngiadau neu drefniadau gweithio gwahanol ar waith oherwydd yr argyfwng Covid-19, felly tasg anodd fu cael darlun cyflawn o faint y broblem tipio anghyfreithlon yng Nghymru. Fel tîm, bu’n rhaid inni benderfynu’n ddi-oed pa effeithiau y gallai’r argyfwng Covid-19 arwain atynt, a pha feysydd y gallem wneud y gwahaniaeth mwyaf effeithiol ynddynt. Aethom ati i baratoi ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol dros yr haf, gan ragweld y byddai mwy o bobl yn gwneud gwaith ar eu tai yn ystod y cyfnod clo, ac felly’n debygol o fod ag eisiau cael gwared â gwastraff swmpus o’r cartref. Roedd y negeseuon yn annog pobl i fod yn wyliadwrus rhag cludwyr didrwydded yn cynnig mynd â gwastraff o’u tai.

Mae llawer o’r dihirod hyn wedi dod i’r amlwg, yn cymryd mantais ar y pandemig a’r ffaith bod y Canolfannau Ailgylchu wedi cau, ac yn aml maent yn hysbysebu eu gwasanaethau casglu gwastraff drwy gyfryngau fel Facebook. A hwythau heb drwydded i gasglu gwastraff na chyfleusterau priodol i’w waredu, yn amlach na pheidio maent yn gollwng y gwastraff ar ochr y ffordd yn rhywle, wedi iddynt bocedu’r arian.

Diolch i ymchwilio dygn un o’n swyddogion, daethpwyd ag un drwgweithredwr o flaen ei well dros yr haf, a chael rhyddhad amodol am ddwy flynedd a gorchymyn i dalu costau o £750. Bu James Osbourne o Gaerdydd yn hysbysebu ei wasanaethau casglu gwastraff ar Facebook, gan honni’n dwyllodrus ei fod yn meddu ar drwydded cludo gwastraff.

Fly-tipped rubbish in Peterstone, Cardiff

Ar un achlysur cafodd dâl gan rywun lleol i gasglu gwastraff o dŷ, ac fe aeth â’r gwastraff i lôn wledig ger Llanbedr a’i dipio’n anghyfreithlon, gan adael deugain o sachau duon blith draphlith dros 300 metr o’r llain wrth ymyl y ffordd.

Roedd un o swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gerllaw pan ddigwyddodd sylwi ar y gwastraff. Daethpwyd o hyd i gyfeiriad ar waith papur ymysg y sbwriel, a gyda chymorth y preswylydd llwyddodd y swyddog i olrhain y drwgweithredwr – sydd bellach yn meddu ar gofnod troseddol o dipio anghyfreithlon a thwyll.

Mae Gwastadeddau Gwent yn un ardal sy’n peri pryder inni, ac mewn blynyddoedd diweddar rydym wedi bod yn rhan o brosiect o’r enw ‘Troi Llanast yn Llwyni’ i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yn yr ardal – dan nawdd y Bartneriaeth Tirwedd Lefelau Byw. Fel rhan o’r prosiect rydym wedi erlyn chwe unigolyn am dipio anghyfreithlon a throseddau cysylltiedig, a chyflwyno dau hysbysiad cosb benodedig i dalu dirwy o £400 i Gyngor Dinas Casnewydd.

Ar sail data a gasglwyd gan Awdurdodau Lleol, gwyddom fod mwy na 70% o’r gwastraff a gaiff ei dipio’n anghyfreithlon yng Nghymru yn cynnwys sbwriel ac eitemau cartref nad oes ar neb eu heisiau. Yn amlach na dim, mae hyn yn digwydd gan fod deiliaid tai yn rhoi eu gwastraff dros ben yn nwylo tipwyr anghyfreithlon.

Rydym yn annog pobl i fynd ati bob amser i wirio trwyddedau cludwyr gwastraff ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn talu rhywun i gael gwared â gwastraff dros ben o’u cartrefi, a gofyn i ble mae’r gwastraff yn mynd. Drwy wneud y ddau beth hynny byddant yn cyflawni eu dyletswydd gofal yn ôl y gyfraith.

Ar ôl i’r cyfyngiadau cenedlaethol gael eu llacio, aethom ati i lansio ymgyrch genedlaethol y bu’n rhaid inni ei gohirio o’r blaen, sef ‘Eich Dyletswydd Chi yw Gofalu’. Nod yr ymgyrch hon yw addysgu deiliaid tai a busnesau ynglŷn â’u cyfrifoldebau o ran y gwastraff a gynhyrchant.

I gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch, ewch i ein wefan.  beth am gymryd cipolwg ar ein sianeli cymdeithasol facebook.com/FtAWales / twitter.com/ftaw i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru