Ymgynghoriad yn dechrau ar gynigion cynllun llifogydd Casnewydd

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Gofynnir i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Llyswyry, Casnewydd, roi adborth ar gynigion ar gyfer cynllun llifogydd newydd ar hyd Afon Wysg.

Diben yr amddiffynfeydd llifogydd arfaethedig a ddatblygwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a chwmni ymgynghori Arup, yw lleihau’r risg o lifogydd i fwy na 2000 o gartrefi ac eiddo amhreswyl, gan ystyried rhagfynegiadau newid hinsawdd yn y dyfodol.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys codi rhannau o’r arglawdd llifogydd sydd rhwng Stryd Stephenson a Corporation Road ac adeiladu muriau llifogydd newydd i wella amddiffynfeydd mewn mannau eraill.

Mae llifddor newydd hefyd yn cael ei gynnig ar gyfer Corporation Road, yn ogystal â darn newydd o ffordd fawr i wella mynediad i’r ystad ddiwydiannol pan fydd y llifddor ar gau cyn llifogydd.

Gall pobl ddarllen mwy am y cynigion a gadael eu hadborth ar-lein. Mae’r ymgynghoriad yn agored tan 18 Hydref 2020.

Bydd y tîm prosiect hefyd yn cynnal sesiynau un-i-un ar Zoom i unrhyw un sy’n dymuno trafod y cynigion mewn mwy o fanylder.

Meddai Tim England, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae lleihau’r risg o lifogydd a’r canlyniadau niweidiol i’n cymunedau yn flaenoriaeth inni. Mae ein tystiolaeth a’n gwybodaeth o’r ardal yn dweud wrthym os nad ydym yn gweithredu yn Llyswyry, fod risg gwirioneddol y gallai llifogydd sylweddol effeithio ar ran sylweddol o’r gymuned.
“Rydym eisoes wedi ymgynghori’n helaeth â’r busnesau yn yr ystad ddiwydiannol y bydd y gwaith adeiladu’n effeithio arnynt, ond byddwn hefyd eisiau rhoi cyfle i eraill ddweud eu dweud.
“Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gennych os ydych yn byw yn un o’r tai cyfagos a fydd yn elwa ar y cynllun, neu os ydych yn ddefnyddiwr rheolaidd o Coronation Park neu Lwybr Arfordir Cymru yn yr ardal hon.”

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: 

“Yn Gorffenaf, cyflwynais ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Perygl llifogydd ac Erydiad Arfordirol gerbron y Senedd. Unwaith y bydd yn cael ei mabwysiadu, mae'r strategaeth yn amlinellu dull uchelgeisiol o fynd ati i leihau'r perygl o lifogydd ac erydiad arfordirol, ac mae'n dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod cymunedau fel Casnewydd yn parhau i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. 
"Mae lleihau'r risg i gymunedau yn flaenoriaeth i ni, ond mae’n rhaid hefyd inni weld cynlluniau sy'n cynnig manteision ehangach. Rwy'n falch y bydd y cynllun hwn hefyd yn diogelu cannoedd o fusnesau ac yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth, gan sicrhau manteision economaidd pellach i'r economi leol.  Bydd cynllun yn Llyswyry yn adeiladu ar y buddsoddiad blaenorol yng Nghasnewydd ac ar draws yr afon, lle rydym eisoes wedi buddsoddi £ 14m i ddiogelu mwy na 500 o gartrefi a 100 o fusnesau yng Nghrindai."

Y cam nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad fydd i CNC wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y cynllun.

Amcangyfrifir y bydd y gost yn £10m, a bydd y gwaith yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mewn rhannau eraill o Gasnewydd, mae gwaith yn parhau ar gynllun llifogydd Crindau, a fydd yn rhoi mwy o ddiogelwch i 660 o gartrefi a busnesau yn yr ardal. Disgwylir y bydd y prosiect hwn yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.