Coedwigwyr ddoe a heddiw yn dathlu canmlwyddiant

Mae coeden dderw wedi ei phlannu yng nghoedwig Cwm Rhaeadr, Sir Gaerfyrddin, i ddathlu canmlwyddiant y Ddeddf Coedwigaeth a chreu’r Comisiwn Coedwigaeth.

Mynychwyd y digwyddiad, a oedd yn rhan o daith gerdded a drefnwyd (ddydd Gwener 27 Medi), gan gynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn ogystal â chyn-goedwigwyr, a oedd gyda’i gilydd yn cynrychioli 400 mlynedd o wasanaeth.

Plannodd yr aelodau o staff CNC a oedd wedi gwasanaethu am y cyfnod hiraf a’r cyfnod byrraf sef Terry Davis (48 mlynedd) a Caroline Riches (10 mlynedd), y goeden dderw frodorol gyda chymorth Alfie Riches sy’n 2 oed. 

Sefydlwyd y Comisiwn Coedwigaeth er mwyn ailgyflwyno coedwigoedd yn y DU ar ôl y gostyngiad mewn pren yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bellach, mae’n rhan o CNC a’i gylch gorchwyl yw cynnal coedwigoedd Cymru, hyrwyddo ymchwil mewn coedwigaeth gynaliadwy, helpu i sicrhau bod coetiroedd yn fwy cynhyrchiol, yn addas i fywyd gwyllt ac yn gallu addasu i ymdopi â heriau hinsawdd sy’n newid.

Meddai arweinydd y digwyddiad Brian Hanwell, Uwch Swyddog Rheoli Tir CNC ar gyfer Rhanbarth Coedwig Llanymddyfri, a gymerodd ran yn y digwyddiad:

“Ers y blagur bach hynny ym 1919, mae’r Ystâd Goetir yr ydym yn ei rheoli ar gyfer Llywodraeth Cymru bellach yn gorchuddio ardal o 126,000 hectar, sef 6% o Gymru – ac mae’n darparu dros 50% o holl bren Cymru. 
“Roedd y daith gerdded goffa a’r seremoni plannu coed yn deyrnged addas i nodi 100 mlynedd o’r goedwig gyhoeddus a dathlu ei dyfodol.
“Rydym ni i gyd yn gwybod bod coed yn amsugno carbon, sy’n golygu bod eu plannu’n ffordd wych o fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae ymgynghorwyr newid hinsawdd y llywodraeth ei hun yn dweud bod cynnal poblogaeth fawr o goed yn ffordd hanfodol o gyrraedd ein targedau hinsawdd.
“Ymysg manteision eraill mae ein coetiroedd cynaliadwy ac adnewyddadwy hefyd yn helpu i leihau llygredd sŵn, gwella ansawdd yr aer, pridd a dŵr, darparu lloches i dda byw a lleihau’r perygl o lifogydd. Yn ogystal â hyn, mae’n hysbys eu bod yn gwella ein hiechyd a’n lles drwy ddarparu cyfleoedd o ran gweithgareddau hamdden ac maent yn hafan i bob math o fioamrywiaeth. 
“Yn dilyn y daith gerdded, cynhaliwyd digwyddiad cymdeithasol ynghyd â bwffe ac rydym yn ddiolchgar iawn i Sgowtiaid Caerfyrddin am gael defnyddio eu siediau”.