Camera Gweilch y Pysgod Llyn Clywedog yn cael ei gadw dros y gaeaf ar ôl blwyddyn gyntaf lwyddiannus o ffrydio byw

Llun o'r ffrwd fyw o dri cyw sydd newydd ddeor yn y nyth sy'n cael eu bwydo gan riant

Mae'r offer camera a fu’n gyfrifol am y ffrydio byw eleni o nyth Gweilch y Pysgod Llyn Clywedog, a hynny am y tro cyntaf, wedi cael eu cadw dros y gaeaf.

Cafodd y camera ei osod yno cyn i'r gweilch gyrraedd yn flynyddol ym mis Mawrth a ffilmiodd pob carreg filltir bwysig yn ystod y tymor, o'r adeg pan gyrhaeddodd yr adar i’w hamser ffarwelio.

Roedd y camera, a osodwyd gan gontractwyr ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn rhoi llun agos byw o’r nyth, a hynny am y tro cyntaf.

Meddai Rhys Jenkins, Arweinydd Tîm Rheoli Tir CNC: "Allem ni ddim fod wedi dewis gwell amser i ddechrau'r ffrydio byw. Roeddem ni wedi amseru gosod yr offer er mwyn iddo fod yn weithredol cyn i'r gwalch cyntaf gyrraedd, ond yn ystod y misoedd o gynllunio ymlaen llaw, allem ni erioed fod wedi dychmygu y byddai'r ffrydio byw yn cyd-daro â phandemig byd-eang a chyfnod clo cenedlaethol.
"Roedd hon yn ffordd bwysig i bobl gysylltu â natur yn ystod y cyfnod clo a chafodd groeso brwd, yn enwedig gan grŵp ymroddedig o adaregwyr a oedd yn cadw llygad yn gyson ar y ffilm.
"Rhoddodd y camera luniau agos i ni o flwyddyn hynod lwyddiannus ar y nyth - yr adeg pan gyrhaeddodd iâr newydd a bondio â’r ceiliog preswyl, yna’r cywion yn deor, yn ffynnu ac yn magu plu.
"Roedd pob wy a gafodd ei ddodwy, pob cyw a oedd yn deor ac yn magu plu yn achos dathlu, ac rydym yn obeithiol iawn y gwelwn ni fwy o'r un peth y flwyddyn nesaf gan yr adar prin ac arbennig hyn."

Roedd y ffrydio byw yn gyfle i bawb gael y fraint o wylio gweilch y pysgod yn magu tri o geiliogod bach iach. Dangosodd y ffilm yr amrywiaeth o bysgod a ddaliwyd ganddynt i fwydo'r cywion, gan gynnwys hyrddyn a ddaliwyd ar yr arfordir, 13 milltir i ffwrdd.

Nawr bydd swyddogion CNC yn trafod perfformiad y camera â'r contractwr ac yn ystyried unrhyw welliannau y gellir eu gwneud cyn ail-osod y camera yn y gwanwyn.