Mae'r dyfodol yn edrych yn llewyrchus i wyfyn prin yng nghanolbarth Cymru

Mae'n debyg bod un o wyfynod prinnaf y DU yr oedd pobl yn tybio ei fod wedi diflannu yn gwneud adferiad rhyfeddol mewn gwarchodfa natur yng nghanolbarth Cymru.

Cofnododd arolwg lindys blynyddol eleni gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr ail nifer uchaf o gwrid y gors ers dechrau'r gwaith monitro ym 1988.

Cofnododd y cyfrif yn Nghors Fochno ger Aberystwyth 123 o lindys, y cofnod uchaf oedd 155 yn 2009.

Ond dim ond rhan fach iawn o'r safle y mae'r arolwg blynyddol yn ei arolygu sy'n golygu y gellid dod o hyd i ragor.

Cynhelir yr arolwg gyda'r nos gan fod y lindys yn nosol ac yn treulio'r diwrnod o dan y ddaear.

Unwaith bydd hi'n dywyll, byddant yn dringo coesyn eu planhigyn bwyd ac yn dod allan i fwydo. Maen nhw'n gwneud hyn gyda'r nos pan fo llai o risg y bydd adar yn eu bwyta.

Dywedodd Jack Simpson, Swyddog Prosiect a Monitro Cyforgorsydd Cymru LIFE:

“Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae hwn yn ganlyniad gwych sy'n profi gwerth y ffordd rydym yn rheoli'r cynefin yng Nghors Fochno.
“Fel cyforgors iseldirol, mae Cors Fochno yn gadarnle i'r rhywogaeth hon oherwydd ei gyflenwad helaeth o fwyd a'i bridd mawnog.
“Prif blanhigyn bwyd lindys Cors Fochno yw helygen fair, sy’n tyfu’n helaeth, ac maen nhw hefyd yn bwydo ar greiglus, ac weithiau andromeda’r gors.
“O ystyried bod yr arolwg blynyddol yn cofnodi 45 o lindys ar gyfartaledd, mae canlyniadau eleni yn eithriadol o uchel, o gymharu â blynyddoedd blaenorol fel 2017 lle na welwyd ond 19 o lindys.”

Ar ôl cael ei weld ddiwethaf yn Swydd Gaergrawnt yn y 1850au, ni welwyd y rhywogaeth hyd nes y gwelwyd un gwyfyn ym Mhenrhyndeudraeth ym 1965. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, daethpwyd o hyd i gytref yng Nghors Fochno. (gweler “gwybodaeth ychwanegol, isod”)

Bydd y gwaith a wneir gan prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yn helpu i wneud Cors Fochno yn gynefin gwell i'r gwyfyn.

Bydd yn lleihau nifer y coed a glaswellt y gweunydd (Molinia), gan helpu i hybu a chynnal andromeda’r gors a’r planhigion cors arbenigol eraill mae gwrid y gors yn dibynnu arnyn nhw

Gwybodaeth Ychwanegol: Dirgelwch y gwyfyn unig

Cyn ei ddarganfod ar Gors Fochno yn y 1960au, yr ardal diwethaf ar gyfer y rhywogaeth oedd gwlyptir yn Swydd Gaergrawnt yn 1850.

Ond mae'r rhan fwyaf o'r gwlyptir sy'n addas ar gyfer gwrid y gors yn yr ardal honno bellach wedi'i golli.

Cafodd un unigolyn o'r rhywogaeth ei ailddarganfod gan wyddonydd ar wyliau ym Mhenrhyndeudraeth ym 1965.

Yn dilyn y darganfyddiad dramatig, treuliodd llawer o arbenigwyr ddwy flynedd wedyn yn chwilio am gynefin addas gerllaw i’r gwyfyn prin hwn.

Ar ôl llawer o grafu pen a fawr ddim cynefin addas yng nghyffiniau Penrhyndeudraeth, ehangwyd yr ardal chwilio.

O’r diwedd, ym 1967, darganfuwyd 192 o wyfynod aeddfed 60 milltir i ffwrdd ar Gors Fochno ger y Borth.

Daethpwyd i'r casgliad bod y gwyfyn a ddarganfuwyd ym Mhenrhyndeudraeth wedi'i gludo'n ddamweiniol o'r Borth trwy garedigrwydd y rheilffordd arfordirol.

Ers ei ddarganfod yng Nghors Fochno, darganfuwyd ar un neu ddwy o gorsydd eraill yng Ngheredigion, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, a safle arall yn ne Cymbria.