Lansio ymgynghoriad ar benderfyniad ddrafft i gymeradwyo cais am gyfleuster swmpio Aber-miwl

Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar benderfyniad ddrafft i gymeradwyo cais am drwydded amgylcheddol i weithredu cyfleuster swmpio ar gyfer gwastraff nad yw'n beryglus yn Aber-miwl.

Ail-ymgeisiodd Cyngor Sir Powys i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am drwydded  amgylcheddol ym mis Mehefin 2022 ar ôl i'r rheoleiddiwr amgylcheddol wrthod cais blaenorol ym mis Mawrth 2022.

Os dyroddir y drwydded, bydd y safle'n gallu derbyn a phrosesu hyd at 22,500 tunnell y flwyddyn o wastraff nad yw'n beryglus. Byddai uchafswm o 425 tunnell yn cael ei gadw ar y safle ar unrhyw un adeg.

Yr unig weithgaredd triniaeth o’r gwastraff fyddai swmpio deunyddiau a fyddai'n cyrraedd eisoes wedi ei ddidoli, felly ni fydd gwastraff yn cael ei wahanu ar y safle.  Mae swmpio yn golygu casglu cyfeintiau llai o ddefnydd i gyfaint mwy, sydd yn haws i’w gludo a’i brosesu.

Mae CNC wedi cwblhau asesiad technegol manwl ac mae wedi dod i benderfyniad drafft i gyhoeddi'r drwydded.

Cyn gwneud penderfyniad terfynol, mae CNC yn ymgynghori ar y penderfyniad drafft a'r drwydded ddrafft. Mae hyn er mwyn esbonio'r penderfyniad i'r cyhoedd ac eraill sydd â diddordeb a rhoi'r cyfle iddynt wneud sylwadau perthnasol ar y penderfyniad drafft.

Dywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Canolbarth Cymru:

"Rydym wedi cynnal asesiad technegol llawn o'r cais a'r dogfennau ategol ac wedi ystyried y sylwadau a gawsom o'r ymgynghoriad blaenorol a gynhaliwyd gennym ar y cais hwn.

"Credwn ein bod wedi ystyried yr holl faterion perthnasol ac wedi dod i gasgliad rhesymol, ond gallai unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i'r materion y mae'n rhaid i ni eu hystyried effeithio ar ein penderfyniad terfynol. "

Oni bai y derbynnir gwybodaeth sy'n arwain CNC i newid yr amodau yn y drwydded ddrafft, neu wrthod y cais yn gyfan gwbl, bydd y drwydded yn cael ei chyhoeddi yn ei ffurf bresennol.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ddydd Gwener 2 Mehefin 2023 ac yn rhedeg am gyfnod o bedwar wythnosau, yn cau ddydd Gwener 30 Mehefin 2023. Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn fuan ar ôl i'r adborth i'r ymgynghoriad gael ei ystyried yn llawn.

Gall bobl ymateb i’r ymgynghoriad yma.