Y gwaith adfer mawndir cyntaf erioed yn Nhrawsfynydd wedi ei ffilmio gan ddrôn

Gwaith byndio yng Nghors Goch Trawsfynydd - Dinsdale Moorland Specialist Ltd

Mae lluniau drôn newydd yn dangos bod gwaith adfer mawndiroedd yn gwella lefelau dŵr naturiol.

Mae Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gosod byndiau cyfuchlinol isel am y tro cyntaf ar safle Gors Goch, Trawsfynydd.

Dyma'r tro cyntaf i unrhyw waith tir i adfer mawndir gael ei gynnal i adfer lefelau dŵr ar y safle pwysig hwn, sydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r lluniau drôn newydd yn dangos bod dulliau adfer yn cael gwahaniaeth uniongyrchol a rhyfeddol ar lefelau dŵr naturiol ar y safle.

Bu’r prosiect yn gweithio gyda chontractwyr ym mis Chwefror a mis Mawrth a bellach mae’r gwaith adfer wedi’i gwblhau. Bydd y gwaith yn dechrau unwaith eto yn yr hydref a'r gaeaf.

Mae'r prosiect wedi gosod mwy na 5400 metr o fyndiau cyfuchlinol isel ac wedi torri 25 hectar o laswellt Molinia trech a thrwchus.

Bydd y dulliau hyn i gyd yn gwella lefelau dŵr naturiol y gors ac yn sicrhau ei bod yn parhau'n wlyb ac yn sbyngaidd - amodau delfrydol ar gyfer planhigion pwysig fel migwyn, ac ar gyfer bywyd gwyllt.

Mae CNC yn gweithio’n galed i ddiogelu storfeydd carbon ar y safleoedd mae’n eu rheoli. Drwy adfer cynefinoedd a mawndiroedd sydd wedi’u difrodi, gobeithir cynyddu’r carbon sy’n cael ei storio a lleihau allyriadau o’i dir er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Meddai Jake White o brosiect Adfer Cyforgorsydd Cymru LIFE: “Rydym wrth ein bodd gyda'r gwaith hyd yma ac mae mor dda gweld effaith mor uniongyrchol gan fod y byndiau'n dal cymaint o ddŵr rai dyddiau yn unig ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.”
“Rydym yn ddiolchgar iawn i'r tirfeddianwyr ac i'r ffermwyr am ganiatáu i ni wneud y gwaith hwn, a hefyd i'r contractwyr Dinsdale Moorland Specialists am eu cefnogaeth.”

Mae'r safle wedi dioddef oherwydd torri mawn a draenio yn y gorffennol.

Cyn i'r gwaith ddigwydd eleni, roedd lefelau'r dŵr yn y gyforgors yn gostwng mor isel â 35cm o dan wyneb y mawndir yn ystod yr haf — oedd yn golygu fod y cynefin pwysig yn sychu ac yn rhyddhau CO2 i'r atmosffer.

Dywedodd Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth, Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae’n wych gweld yr holl waith adfer mawn yn cael ei gyflawni yn Eryri gan wahanol asiantaethau, ac yn arbennig y gwahanol dechnegau sy’n cael eu defnyddio. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld effaith y gwaith adfer ar safle Cors Goch.”

Dylai lefel trwythiad cyforgorsydd iach fod rhwng 5-10cm i'r wyneb yn ystod y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Mae'r data hwn yn dangos bod gwaith i adfer lefelau dŵr naturiol ar fawndir yn hanfodol er mwyn sicrhau gwytnwch hirdymor y cynefin prin hwn.

Cloddiau isel o fawn yw byndiau ac maen nhw’n helpu i blygio tyllau a chraciau sy'n ymddangos ar rai rhannau o'r gors sydd wedi mynd yn sychach. Mae'r byndiau'n gweithredu fel argaeau ac yn atal dŵr rhag llifo oddi ar y gors.

Mae Cors Goch Trawsfynydd yn cynnwys tua wyth metr o fawn a gellir dod o hyd iddo drws nesaf i lyn Gorsaf Bŵer Trawsfynydd, sy'n perthyn i Magnox.

Er mwyn cael gwybod mwy am brosiectau adfer mawndiroedd yng Nghymru, ewch i wefan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.