Rhybuddio ymwelwyr am algâu gwyrddlas yn Llynnoedd Bosherston

Llynnoedd Llanfihangel Clogwyn Gofan

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi canfod algâu gwyrddlas yn Llynnoedd Bosherston yn Sir Benfro.

Maent wedi hysbysu’r perchnogion tir, sef yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae arwyddion wedi’u gosod yn y llyn sydd wedi’i effeithio yn rhybuddio pobl i sicrhau nad ydyn nhw na’u hanifeiliaid anwes yn dod i gyswllt â’r algâu na’r dŵr, a’u bod yn cadw eu dwylo’n lân. Mae Cyngor Sir Penfro hefyd wedi cael gwybod.

Mae algâu gwyrddlas yn digwydd yn naturiol mewn dyfroedd mewndirol, mewn aberoedd ac yn y môr. Gall gordyfiant ffurfio pan fydd gormod ohonynt. Ar hyn o bryd nid oes gordyfiant, ond mae matiau o algâu wedi’u canfod yn arnofio.

Mae’n ychwanegu ocsigen at y dŵr yn ystod y dydd ond mae’n ei ddefnyddio yn y nos. Gall hyn arwain at lefelau ocsigen peryglus o isel sy’n gallu mygu pysgod a chreaduriaid eraill.

Gall algâu gwyrddlas sy’n ffurfio gordyfiant a llysnafedd gynhyrchu tocsinau. Gall y tocsinau hyn fod yn beryglus iawn i anifeiliaid. Mewn pobl, gallant achosi brech ar ôl dod i gyswllt â’r croen, a salwch os cânt eu llyncu. 

Meddai Rod Thomas, Uwch-swyddog Amgylchedd i CNC:

“Mae ein swyddogion yn Sir Benfro wedi ymweld â’r llynnoedd a’u profi, ac wedi canfod bod algâu gwyrddlas yn bresennol mewn rhai mannau yn llynnoedd Bosherston.
“Nid oes gordyfiant ar hyn o bryd, ond mae amgylchiadau’r tywydd a’r safle ar hyn o bryd yn ddelfrydol i ordyfiant ddatblygu.
“Nid yw pob achos o ordyfiant a llysnafedd algâu gwyrddlas yn docsig, ond nid oes modd gwybod o edrych arnyn nhw, felly mae’n well cymryd yn ganiataol eu bod yn docsig a dilyn y cyngor i osgoi dod i gyswllt â nhw a’r dŵr.”

I gael rhagor o wybodaeth am algâu gwyrddlas, ewch i wefan CNC. https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/farming/blue-green-algae/?lang=cy  

Dylech ffonio CNC i adrodd unrhyw achosion o ordyfiant neu lysnafedd algâu gwyrddlas drwy ein llinell gyswllt: 0300 065 3000 (24 awr).