Ein dull gweithredu o ran cyngor morol

Dull gweithredu o ran cyngor morol yn nyfroedd Cymru

Mae awdurdodau trwyddedu a datblygwyr yn ymgynghori â ni er mwyn cael ein cyngor arbenigol ynghylch effeithiau amgylcheddol morol ac arfordirol tebygol cynigion datblygu. Rydym hefyd yn cynghori'r llywodraeth a sefydliadau sy'n paratoi polisïau a chynlluniau.

Ein nod yw darparu cyngor sy'n helpu i sicrhau bod amgylchedd morol ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu rheoli, eu gwella a'u defnyddio mewn modd cynaliadwy nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ein nod yw darparu cyngor sy'n gymesur â risg cynllun, datblygiad neu weithgaredd.

Rydym yn chwilio am gyfleoedd i wella'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein cyngor morol trwy ein gwaith ac mewn cydweithrediad ag eraill.

Gwaith diweddar

Ar gyfer yr adroddiad diweddar ar forlun a sensitifrwydd gweledol i ffermydd gwynt ar y môr yng Nghymru, gwnaethom amlinellu sut y gellir defnyddio dull cymesur ar gyfer effeithiau gweledol ar Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gwnaethom geisio cynhyrchu a gwella'r dystiolaeth sy'n adlewyrchu sensitifrwydd y derbynyddion hyn a graddfa'r effaith mewn modd rhagweithiol.

Gwnaethom gydweithio â Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Strategaeth Tystiolaeth Forol Cymru 2019 - 2025 – ein menter strategol i wella'r sylfaen dystiolaeth forol.

Ymwneud â Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. Mae'n darparu'r fframwaith ar gyfer rheoli'r ardal forol mewn modd cydgysylltiedig, fel y gall pawb ei defnyddio. Mae rheolaeth gynaliadwy wrth wraidd y cynllun fel bod “moroedd Cymru yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol.”

Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cefnogi penderfyniadau integredig, gan ystyried ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Mae'n allweddol ar gyfer cyflawni amcanion Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol  ym moroedd Cymru.

Gwnaethom weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu cyngor a thystiolaeth er mwyn helpu i ddatblygu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Mae gennym rôl allweddol bellach wrth weithredu polisïau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru trwy ein swyddogaethau rheoleiddio, tystiolaeth a chynghorol.

Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr cynllunio morol Llywodraeth Cymru i gael y newyddion diweddaraf.

Canllawiau, cyngor, tystiolaeth a data

Rydym yn sicrhau bod materion a chyfleoedd amgylcheddol allweddol yn cael eu hystyried yn ystod camau cynnar datblygiad eich polisïau, eich cynlluniau a'ch prosiectau.

Rydym yn ceisio sicrhau bod ein cyngor yn gyson, yn glir ac yn seiliedig ar wyddoniaeth gadarn a'r dystiolaeth orau sydd ar gael er mwyn helpu cyrff sy'n penderfynu a datblygwyr i wneud penderfyniadau sy'n wybodus o ran yr amgylchedd.

Darllenwch ein canllawiau ar gyfer datblygwyr morol.

Rhagor o fanylion ynglŷn â'n Gwasanaethau Cynllunio Datblygu a Morol.

Archwiliwch ein hadroddiadau tystiolaeth forol ac arfordirol.

Cysylltu â ni

Os ydych yn ystyried gwaith datblygu morol yn nyfroedd Cymru neu'n agos atynt, cysylltwch â ni yn gynnar yn y broses marine.area.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd angen trwydded forol gan ein  Gwasanaeth Trwyddedu ar brosiectau yn nyfroedd Cymru.

Diweddarwyd ddiwethaf