Asesu gweithgareddau pysgota Cymru
Ynglŷn â’r prosiect
Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar brosiect i werthuso effaith pysgota ar nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru.
Mae'r Prosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru yn:
- Helpu diogelu ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru
- Cyfrannu at ddefnyddio pysgod môr yn gynaliadwy, ac yn
- Sicrhau bod yr amgylchedd morol yn fwy sefydlog
Bydd allbynnau’r Prosiect hwn yn cefnogi amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a’r Rheoliadau Cynefinoedd drwy gyfrannu at y broses o reoli’r amgylchedd morol yn gynaliadwy.
Cewch wybod mwy o fanylion yn y dogfennau eu defnyddir i lywio’r gwaith asesu:
- Adroddiad Egwyddorion a Blaenoriaethu (Saesneg yn unig)
- Matrics
- Cronfa Ddata Tystiolaeth
Canlyniadau'r prosiect
Roedd Prosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru yn archwilio sut y gallai gweithgareddau pysgota ryngweithio â chynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig yn nyfroedd Cymru.
Nododd y prosiect 552 o ryngweithiadau posibl rhwng nodweddion pysgota, a chwblhaodd asesiadau ar gyfer 374 o'r rhyngweithiadau hyn.
Roedd yr asesiadau'n cynnwys:
- 318 o ryngweithiadau pysgota-cynefin, a
- 56 o ryngweithiadau pysgota-rhywogaethau symudol, gan gynnwys pysgod, mamaliaid ac adar
Ni chafodd y rhyngweithiadau sy'n weddill, sydd ar gael yn y Matrics, eu hasesu oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth is yn seiliedig ar ffactorau megis tebygolrwydd y digwyddiad, effaith bosibl, tystiolaeth sydd ar gael a pherthnasedd rheoli.
Mae'r holl asesiadau a gwblhawyd wedi'u darparu i Lywodraeth Cymru. Mae asesiadau a gyhoeddwyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (LLYW.CYMRU).