Rhwydweithiau Natur - gwybodaeth ar brosiectau morol

Mae Rhwydweithiau Natur yn rhaglen aml-flwyddyn a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r argyfwng natur yng Nghymru drwy gynyddu bioamrywiaeth, gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig, a gwella cydnerthedd a chysylltedd ein cynefinoedd a’n rhywogaethau.

Mae’r rhaglen, sydd wedi bod ar waith ers 2022, yn cwmpasu cynefinoedd daearol, dŵr croyw, a morol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda thirfeddianwyr, partneriaid a rhanddeiliaid eraill i roi mesurau rheoli ar waith sy’n mynd i’r afael â’n hamcanion, ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i amgylchedd Cymru.

Mae cyllideb y rhaglen yn ariannu gwaith dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â rhaglen grant Rhwydwaith Natur Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Er bod rhywfaint o’r gyllideb wedi’i dyrannu i hybu ein gwaith o reoli cadwraeth safleoedd gwarchodedig, mae prosiectau wedi’u targedu hefyd wedi’u creu i ganolbwyntio ar rywogaethau a chynefinoedd sy’n agored i niwed.

Isod mae’r prosiectau morol – darllenwch am y prosiectau natur ar dir.

Prosiectau morol

Atal sbwriel morol a llongau moelion

Mae sbwriel morol yn broblem mewn llawer o ardaloedd morol gwarchodedig, ac un ffocws yw mynd i’r afael â’r broblem sy’n ymwneud â chychod moelion a all effeithio ar yr ardaloedd hynny, drwy leihau maint cynefin, ychwanegu microplastigion, ac ychwanegu llygryddion o olew, diesel, a phaent gwrthlygru. Mae’r prosiect wedi mapio lleoliad cychod moelion i ddechrau, ac yna wedi gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid eraill yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Aber Dyfrdwy i gael gwared ar longau a chreu canllawiau ar gyfer cael gwared ar y llongau. Gan adeiladu ar lwyddiant y cam cyntaf hwn, mae gwaith pellach ar gychod moelion wedi’i gynllunio ar gyfer lleoliadau eraill yng Nghymru. Bydd y prosiect hefyd yn mynd i’r afael â phroblemau ehangach yn ymwneud â sbwriel morol drwy fynd i’r afael â ffynonellau sbwriel o’r tarddle i’r môr. Gan ddefnyddio afon Dyfi fel safle peilota, bydd y prosiect yn defnyddio technoleg fodern i fonitro sbwriel, ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid i atal sbwriel rhag cael ei gyflwyno i’r dalgylch.

Ymchwiliadau i ddirywiad rhywogaethau a chynefinoedd

O fewn ein hardaloedd morol gwarchodedig, mae rhai cynefinoedd a rhywogaethau yn dirywio. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar feysydd ffocws allweddol, gyda’r nod o helpu’r cynefinoedd a’r rhywogaethau hyn i ymadfer.

  • Maerl yn y Ddau Gleddau, ACA Sir Benfro Forol
  • Sbyngau yn ACA Y Fenai a Bae Conwy
  • Gwelyau o gregyn gleision, yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau
  • Penwaig yn y Ddau Gleddau, ACA Sir Benfro Forol

Yn dilyn cynhyrchu’r adroddiadau hyn, eir i’r afael â rhywogaethau a chynefinoedd pellach sy’n dirywio. Bydd rheoli materion sy’n deillio o’r ymchwiliadau hyn a gwaith ehangach hefyd yn rhan o’r prosiect hwn. Y pynciau cyntaf yw problemau yn ymwneud ag aflonyddu ar adar ar Draeth Lafan, ac edrych ar sut y mae awdurdodau lleol yn ymdrin â chaniatâd ar gyfer gweithgareddau a allai effeithio ar yr amgylchedd morol.

Cynllunio bioddiogelwch ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol

Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes ar gyfer cynllunio bioddiogelwch yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau, mae’r prosiect hwn wedi gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i greu a gweithredu chwe chynllun bioddiogelwch ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig canlynol: ACA Aber Dyfrdwy, ACA Y Fenai a Bae Conwy, ACA Bae Ceredigion, ACA Sir Benfro Forol, ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd, ac ACA Môr Hafren. Yn dilyn cynhyrchu’r adroddiadau hyn, bydd cam nesaf y prosiect yn cyflawni argymhellion yr adroddiadau. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid i weithredu gwaith monitro a hyfforddiant ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol, yn ogystal â chynorthwyo’r gwaith o lunio mesurau rheoli a all leihau faint o rywogaethau estron goresgynnol sy’n cael eu cyflwyno a’u hymledu, megis cyfleusterau glanhau cychod. Bydd y prosiect hwn hefyd yn edrych ar ddulliau o leihau ymlediad rhywogaethau estron goresgynnol morol ac, hyd yn hyn, mae wedi gosod trap ar brawf ar gyfer crancod manegog Tsieina yn afon Dyfrdwy.

Polderau Glanfa Fawr Rhymni

Mae’r prosiect hwn yn ceisio adfer morfa heli ar hyd Lanfa Fawr Rhymni drwy adfer ac ymestyn y polderau gwaddodi. Gyda pholderau, gosodir ffensys mewn patrwm hirsgwar i leihau symudiad dŵr, a fydd yn caniatáu i forfa heli ffurfio dros amser. Ers gosod y polderau yn haf 2024, mae’r prosiect bellach yn canolbwyntio ar fonitro llwyddiant y cynllun trwy arolygon llystyfiant a mesurau eraill i asesu a oes morfa heli yn datblygu, yn ogystal ag atgyweirio ffensys a ddifrodwyd mewn stormydd yn ystod y gaeaf. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio deall lleoliadau eraill yng Nghymru lle byddai gosod polderau yn fuddiol.

Gwasgfa arfordirol

Rhagwelir y bydd lefelau’r môr yn codi ar gyfraddau cynyddol oherwydd effeithiau newid yn yr hinsawdd. Yn anochel, bydd hyn yn cael effaith ar y cynefinoedd hynny sydd agosaf at y môr, a fyddai fel arfer yn ymaddasu’n naturiol. Fodd bynnag, mae amddiffynfeydd môr, rheilffyrdd a ffyrdd weithiau’n atal y cynefin rhag ymddwyn mewn ffordd naturiol; a chyda mwy o lifogydd o’r môr, bydd dirywiad a cholled, sef proses a elwir yn wasgfa arfordirol. Nod y prosiect hwn yw deall sut y mae ‘gwasgfa arfordirol’ yn debygol o effeithio ar yr ardaloedd morol gwarchodedig, a bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio rheolaeth ein harfordiroedd a’n cynefinoedd yn y dyfodol. Yng ngham cyntaf y prosiect, cynhaliwyd gwaith mapio helaeth i ddeall sut y byddai lefelau môr sy’n codi yn effeithio ar gynefinoedd rhynglanwol yng Nghymru. Yng ngham nesaf y prosiect, bydd y canlyniadau hyn yn cael eu dadansoddi a’u mireinio i lywio mesurau rheoli posibl i fynd i’r afael â gwasgfa arfordirol yn y dyfodol.

Gwella cyngor cadwraeth forol

Cyngor cyfreithiol sy’n dylanwadu ar y ffordd rydym yn rheoli ein hardaloedd morol gwarchodedig yw cyngor cadwraeth forol. Mae amcanion cadwraeth yn y cyngor yn egluro’r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni ar gyfer pob nodwedd mewn safle, a bydd y prosiect hwn yn ein helpu i wella ein gwybodaeth am gyflwr ein nodweddion, a sicrhau ein bod yn gosod amcanion cadwraeth cywir ar gyfer safleoedd i’w rheoli’n gynaliadwy. Yng ngham cyntaf y prosiect, cynhyrchwyd asesiadau cyflwr ar gyfer pob ACA sydd yn gyfan gwbl yng Nghymru, a chynhyrchwyd pecynnau cyngor cadwraeth newydd. Yn ail gam y prosiect, bydd asesiadau cyflwr a phecynnau cyngor cadwraeth yn cael eu creu ar gyfer safleoedd trawsffiniol ACA Môr Hafren ac ACA Aber Dyfrdwy ac ardaloedd gwarchodaeth arbennig, yn ogystal â rhai asesiadau o gyflwr safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Effeithiau tirlenwi ar ardaloedd morol gwarchodedig

Mae dros 1,500 o safleoedd tirlenwi unigol wedi’u cofnodi yng Nghymru. Mae llawer o’r rhain wedi’u lleoli ar yr arfordir ac yn eistedd o fewn neu’n gyfagos i ardaloedd morol gwarchodedig. Gallai llifogydd ac erydu safleoedd tirlenwi arfordirol arwain at halogiad ffisegol a chemegol yn mynd i mewn i’r amgylchedd, a allai effeithio ar gyflwr nodweddion ardaloedd morol gwarchodedig. Gallai mwy o wastraff tirlenwi gael ei ryddhau gan effeithiau newid yn yr hinsawdd, megis codiad yn lefel y môr a chynnydd yn nifer y digwyddiadau tywydd eithafol. Yn ogystal, mae gan newidiadau i bolisïau y Cynllun Rheoli Traethlin dros amser y potensial i effeithio ar ba mor agored yw safleoedd tirlenwi i lifogydd ac erydu arfordirol. Bydd y prosiect arfaethedig hwn, gan ddefnyddio afon Dyfrdwy fel ardal beilota, yn archwilio’n fanylach effeithiau posibl safleoedd tirlenwi arfordirol, gan ehangu i gynnwys safleoedd gwastraff a safleoedd halogedig ar ardaloedd morol gwarchodedig.

Adfer poblogaethau adar y môr ar ynysoedd Cymru

Mae poblogaethau adar y môr yng Nghymru, y DU, ac yn fyd-eang dan bwysau o sawl ffynhonnell yn cynnwys clefydau megis ffliw adar, newid yn yr hinsawdd, gwasgfa arfordirol, ac ymlediad llygod mawr. Bydd y prosiect hwn yn targedu ynysoedd addas yng Nghymru y canfyddir eu bod yn rhydd o lygod mawr, ac a fydd yn hyfyw o ran cefnogi ail-boblogi cytrefi adar y môr yn yr hirdymor, drwy ddefnyddio dulliau rheoli amrywiol yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb. Gallai’r rhywogaethau targed gynnwys palod, adar drycin Manaw, pedrynnod drycin, môr-wenoliaid cyffredin, môr-wenoliaid y gogledd, môr-wenoliaid gwridog, a môr-wenoliaid pigddu. Bydd y prosiect yn treialu mesurau sydd wedi profi eu bod yn llwyddiannus mewn mannau eraill, er mwyn cynyddu niferoedd a chynyddu cydnerthedd poblogaethau adar y môr yng Nghymru.

Afon Llwchwr a Chilfach Tywyn

Bydd y prosiect hwn yn mynd i’r afael â phroblemau ansawdd dŵr cyrff dŵr o fewn dalgylch afon Llwchwr a Chilfach Tywyn, tra hefyd yn ymdrin â phroblemau safleoedd gwarchodedig cysylltiedig sy’n ymwneud â gorbori morfeydd heli. Mae nifer o faterion yn effeithio ar ansawdd dŵr yn yr ardal, gan gynnwys carthffosiaeth a llygredd gwasgaredig, ond hefyd cyfrifiadau bacteria uchel sy’n achosi i’r bysgodfa gocos gau o bryd i’w gilydd. Ynghyd â’r mater olaf o ran ansawdd dŵr, mae yna’r mater sy’n ymwneud â gorbori ar forfa heli gogledd Gŵyr. Mae’r prosiect hwn yn ceisio mynd i’r afael â materion ansawdd dŵr drwy roi mesurau rheoli ar waith mewn ffermydd o fewn y dalgylch, yn ogystal â gweithio gyda chominwyr ar forfa heli gogledd Gŵyr i reoli nifer y defaid sydd ar y forfa heli.

Casglu abwyd

Y dulliau casglu abwyd sy’n peri’r pryder mwyaf yw cloddio am fwydod, troi clogfeini, a photio crancod. Ymchwiliodd y prosiect i effeithiau’r gweithgareddau hyn ar ardaloedd morol gwarchodedig drwy waith arolygu helaeth mewn safleoedd lle roedd lefelau uchel o’r dulliau casglu hyn. Adolygodd y prosiect fesurau rheoli posibl hefyd, a bydd yn edrych i weithredu’r rhain lle bo modd ar gyfer ardaloedd sydd wedi dangos effeithiau. Mae arwyddion wedi’u creu ar gyfer y safleoedd hyn, yn hysbysu casglwyr abwyd am fesurau i leihau effeithiau. Mae cod ymddygiad hefyd wedi’i ddatblygu gyda rhanddeiliaid, ac mae taflenni’n cael eu stocio mewn siopau offer pysgota yng Nghymru. Ymchwiliwyd i’r defnydd o abwyd a ffermir fel rhan o’r prosiect hwn, ac roedd argymhellion yn cael eu darparu ar sut i hyrwyddo mwydod a ffermir i leihau’r angen am abwyd sy’n cael ei ddal yn y gwyllt.

Arolwg Mamaliaid Morol Acwstig Cymru

Mae mamaliaid morol, megis llamidyddion a dolffiniaid trwyn potel, yn defnyddio sain i gyfathrebu a lleoli eu hunain. Nodau’r prosiect oedd gwella ein dealltwriaeth o sut y gall lefelau sŵn cefndir effeithio ar y mamaliaid hyn drwy ddefnyddio offer recordio acwstig arbenigol. Cynhaliwyd y prosiect yn ACA Gogledd Môn Forol lle casglodd offer recordio ddata dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae’r adroddiad dilynol yn disgrifio amseriad a natur dymhorol sŵn o waith dyn a mamaliaid morol. Bydd y canlyniadau hyn yn helpu i reoli poblogaethau yn y dyfodol a gwella ein cyngor a’n tystiolaeth mewn perthynas â gwaith achos a phenderfyniadau cynllunio.

Diweddarwyd ddiwethaf