Adroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2019: Cyflwyniad
Rydym yn defnyddio pedwar mesur i asesu pa mor dda rydym ni'n defnyddio ac yn rheoli adnoddau naturiol yng Nghymru.
Maen nhw'n ein helpu ni i ystyried pa mor effeithiol yw ein hadnoddau naturiol ac a yw'r amgylchedd yn gallu addasu i newid.
Rydym yn eu defnyddio hefyd i edrych ar a yw'r gwasanaethau a ddarperir ar ein cyfer gan adnoddau naturiol Cymru – fel amddiffyniad rhag llifogydd ac aer glân – yn ein helpu i fyw bywydau iach.
Mae'r pedwar mesur yn cynnwys ystyriaeth o'r canlynol:
Darllenwch fwy am yr hyn y mae ein pedwar mesur yn ei olygu.
Mae ein mesurau wedi'u gosod o fewn Fframwaith Ysgogwr-Pwysau-Sefyllfa-Effaith-Ymateb y Cenhedloedd Unedig.
Mae hyn yn ein helpu i ystyried yr hyn sy'n ysgogi newid amgylcheddol, ei effaith, a datrysiadau posibl.
O fewn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, rydym yn defnyddio'r fframwaith hwn i wneud y canlynol:
Drwy'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, rydym yn edrych ar sut mae'r amgylchedd, cymdeithas a'r economi'n gysylltiedig fel y gallwn roi sylw i saith nod llesiant Cymru.
Mae dull pum cam yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn cynnwys fframwaith Ysgogwr-Pwysau-Sefyllfa-Effaith-Ymateb y Cenhedloedd Unedig a'r pedwar mesur ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Darllenwch fwy am ein dull pum cam o asesu sefyllfa adnoddau naturiol yng Nghymru.
Ein fframwaith deddfwriaethol yw Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru).
Mae'n gosod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol o fewn Cyfraith Gymru.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn adlewyrchu dull gweithredu'r Cenhedloedd Unedig.
Maen nhw'n gysylltiedig â deddfwriaethau eraill, fel y Ddeddf Cynllunio a'r Ddeddf Treftadaeth.
Mae'r ddeddfwriaeth yn seiliedig ar arfer gorau rhyngwladol mewn perthynas â’r dull rheoli ar lefel yr ecosystem.
Mae'n ein galluogi i sicrhau bod adnoddau naturiol ac ecosystemau'n gydnerth ac yn gallu darparu buddion nawr, ac ar gyfer y dyfodol, drwy reolaeth gynaliadwy.
Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, a defnydd tir a ffermio yn cyfrannu at y cynllun hwn.