Adroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2019: SoNaRR 2020

Darllenwch yr Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2020, wedi’u gyhoeddi ym Mis Rhagfyr 2020

dynes a phlentyn bach ar sleid mewn parc coetir

Sut byddwn yn cyflwyno'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn 2020

Bydd yr ail adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn gyfres o dudalennau gwe yn hytrach nag un ddogfen.

Byddwn yn ei gyflwyno ar dair lefel wahanol.

Lefel 1

Byddwn yn canolbwyntio ar negeseuon, penawdau, casgliadau a datganiadau lefel uchel sy'n seiliedig ar ein gwaith adolygu a dadansoddi. Byddwn yn defnyddio ffeithluniau ac offer gweledol i helpu i gyflwyno negeseuon allweddol.

Lefel 2

Byddwn yn cynnwys naratif ynghylch y dadansoddiad o'r dystiolaeth, gan arwain at y casgliadau yn Lefel 1.

Bydd yn cael ei strwythuro o amgylch wyth ecosystem:

  • morol
  • ffiniau arfordirol
  • dŵr croyw
  • glaswelltiroedd lled-naturiol
  • mynyddoedd, gweunydd a rhostiroedd
  • coetiroedd
  • ffermdir caeedig
  • trefol

 a saith thema drawsbynciol:

  • ansawdd aer
  • ansawdd dŵr
  • priddoedd a'r defnydd o dir
  • effeithlonrwydd adnoddau
  • newid yn yr hinsawdd
  • rhywogaethau estron goresgynnol
  • bioamrywiaeth

Byddwn yn gosod y naratif o gwmpas y dull pum cam ar gyfer asesu'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Byddwn yn cynnwys yr hyder sydd gennym yn yr asesiadau a disgrifiad o'r prosesau sicrhau ansawdd rydym yn eu defnyddio. 

Lefel 3

Byddwn yn rhoi mynediad i ffynonellau data penodol, prif lenyddiaeth berthnasol neu adroddiadau synthesis tystiolaeth. Gall y rhain fod yn adolygiadau cyflym neu systemaidd. Byddwn yn darparu unrhyw ragdybiaethau a saif oddi tanynt.

Byddwn yn darparu Lefel 3 drwy borth gwybodaeth ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Bydd yn dangos mapiau ac adroddiadau a adeiladwyd o'n data.

Bydd y porth yn darparu barn ar y dystiolaeth sydd wedi'i dehongli a'i defnyddio i greu Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020. Bydd y mapiau a'r adroddiadau ar gael fel ffynonellau annibynnol o wybodaeth i ddechrau. Mewn amser, bydd y rhain yn cael eu cysylltu fel y gellir edrych arnynt gyda'i gilydd a'u hidlo yn ôl cyfres o themâu.

Bydd tudalennau gwe yn dod â'r asesiadau ynghyd er mwyn mesur y cynnydd ar y pedwar mesur ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Bydd yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn cloi gydag awgrymiadau ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru'n gynaliadwy a'r rhagolygon ar gyfer gwneud hyn.

Ein gweledigaeth

Rydym am i'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol ddangos cyflwr a thueddiadau adnoddau naturiol yng Nghymru a'r pwysau sy’n gweithredu ar y rhain.

Dylid defnyddio'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol i wneud y canlynol:

  • Edrych ymlaen drwy nodi'r cyfleoedd a gwella dealltwriaeth o'r heriau, gan gynnwys y bylchau mewn tystiolaeth, ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Ysgogi newid drwy nodi'r materion blaenoriaethol ar gyfer adnoddau naturiol yng Nghymru yn glir a darparu gwybodaeth ar gyfer y rhai hynny sy'n gwneud penderfyniadau y gallant ei defnyddio i ddysgu o lwyddiannau a methiannau. 
  • Darparu cysylltiad di-dor rhwng data lleol a chenedlaethol sy'n llywio ac yn arwain sut mae pawb yng Nghymru'n gofalu am ein hadnoddau naturiol.
  • Bod yn agored, yn hygyrch, yn berthnasol ac yn hawdd ei ddeall i bawb er mwyn caniatáu iddynt wneud eu cyfraniad at y gwaith o reoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.

Caiff yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol ei lunio trwy gydweithredu a chydgynhyrchu a chan ddefnyddio'r dystiolaeth orau sy'n bodoli.

Bydd yn helpu cymdeithas i ddeall y buddion y mae ein hadnoddau naturiol yn eu darparu a sut mae eu camau gweithredu yn effeithio ar y gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. 

Gweithio gyda chi

Mae angen eich help arnom.

Rydym am weithio gydag eraill i gadarnhau pa wybodaeth sydd ar gael.

Rydym yn cydnabod bod rhai o'n hanghenion tystiolaeth wedi'u diwallu, ond mae'n bosibl nad ydym yn ymwybodol o'r gwaith sydd wedi'i wneud.

Efallai bod rhai ohonoch eisiau cymryd mwy o ran yn y prosesau asesu neu adolygu. 

Os ydych chi'n credu y gallwch chi ein helpu ni, cysylltwch â ni yn sonarr@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf