Adroddiad Dŵr Ymdrochi yng Nghymru 2020

Crynodeb Gweithredol

Mae’n bwysig i gymunedau glan môr, ymwelwyr a’r economi fod gennym ddyfroedd ymdrochi da yng Nghymru. Yn 2020 fe wnaeth pob un o’r 105 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru fodloni’r safonau a bennir yn y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi. O blith y 105 o ddyfroedd ymdrochi a aseswyd yng Nghymru, roedd 84 ohonynt o safon ragorol, 14 yn dda a 7 yn cyflawni’r safon ofynnol isaf. Am y trydydd tymor yn olynol ni chanfuwyd bod yr un ohonynt yn wael.

Mae’r Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi’n cyflwyno trefn ddosbarthu sy’n gosod safonau llym ar ansawdd dŵr ac yn rhoi pwyslais ar ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd. Rhaid i aelod-wladwriaethau hysbysu aelodau o’r cyhoedd ynglŷn â dulliau rheoli dyfroedd ymdrochi, ansawdd dyfroedd ymdrochi ac unrhyw fygythiadau posib i ansawdd dŵr ymdrochi ac iechyd y cyhoedd. Dosberthir dyfroedd ar sail y samplau a gymerwyd yn y pedair blynedd diwethaf fel nad yw sefyllfaoedd eithafol yn gogwyddo’r canlyniadau.

Roedd un safle ychwanegol yng Nghymru yn y dosbarth rhagorol yn 2020 o gymharu â chanlyniadau 2019. Dengys data’r Swyddfa Dywydd y bu 2020 yn flwyddyn wleb gan ystyried faint o law sy’n disgyn ar gyfartaledd yn y tymor hir. Fel arfer gellir disgwyl i ansawdd dŵr ddirywio wrth i ddŵr glaw olchi llygredd i i gyrsiau dŵr o ardaloedd trefol ac amaethyddol, gan beri i safleoedd gorlif carthion weithio mwy gan eu bod wedi’u dylunio i atal carthion rhag llifo’n ôl i gartrefi pobl a safleoedd busnes.

Mae cyflawni’r gwelliant cyffredinol hwn, a hynny mewn blwyddyn wleb, yn dyst i’r camau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’u cymryd i wella ansawdd dŵr ar y cyd â Dŵr Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau amaethyddol a pherchnogion tir. Mae gwelliannau’n digwydd yn lleol, gan gynnwys gwella carthffosiaeth ac arllwysfeydd, a hefyd yn fwy cyffredinol drwy atal llygredd o dir amaeth rhag cymysgu yn y dŵr yng nghefn gwlad.

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am fonitro cyflawniad y safonau yn y Gyfarwyddeb ac adrodd ar hynny. Dadansoddir samplau ar gyfer dau fath o facteria sy’n dynodi llygredd o garthffosiaeth neu dda byw. Gall dŵr llygredig effeithio ar iechyd pobl, gan achosi poen yn y bol a dolur rhydd o’i lyncu.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau’r rhaglen monitro dŵr ymdrochi yn 2020. Yr her i ni yw diogelu a gwella ein hadnoddau naturiol, a thrwy hynny, gynnal y safonau uchel a gyflawnodd ein dyfroedd ymdrochi eleni.

Dyfroedd ymdrochi yng Nghymru

Mae dyfroedd ymdrochi Cymru yn bwysig iawn i'r economi, i gymunedau, ac i dwristiaeth. Fel y nododd yr astudiaeth ‘Valuing Wales’ seas and coasts’, a gafodd ei chomisiynu gan WWF Cymru yn 2012, “Mae'r amgylchedd arfordirol a morol yn ased naturiol anhygoel sy'n cyfrannu £6.8 biliwn i’r economi ac sy'n cynnal mwy na 92,000 o swyddi.

Mae dros 60 y cant o'r boblogaeth yng Nghymru'n byw ac yn gweithio yn y parth arfordirol, ac mae pob un o'n dinasoedd mawr a llawer o drefi pwysig wedi'u lleoli ar yr arfordir. Mae'r arfordir trawiadol ac amrywiol a geir o gwmpas Cymru hefyd yn helpu i esbonio pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth, sy'n cyfrannu dros £700 miliwn y flwyddyn i economi Cymru.”

Mae sawl traeth yng Nghymru, fel traeth Barafundle a thraeth Dinbych-y-pysgod, yn cael eu pleidleisio'n rheolaidd fel rhai gorau Prydain. Mae nofio, syrffio, genweirio ac archwilio pyllau glan môr yn weithgareddau poblogaidd ar hyd pob rhan o'r arfordir. Pan agorodd Llwybr Arfordir Cymru yn 2012, enwodd Lonely Planet arfordir Cymru fel yr ardal orau yn y byd i ymweld â hi.

Mae cystadleurwydd y diwydiant twristiaeth yng Nghymru'n ddibynnol ar safon cyrchfannau twristiaeth, gan gynnwys safon dŵr ymdrochi. Mae polisi dŵr Ewrop wedi chwarae rhan bwysig mewn gwarchod adnoddau dŵr, ac mae safon safleoedd ymdrochi yng Nghymru'n enghraifft dda o hyn.

Daeth y ddeddfwriaeth dŵr ymdrochi Ewropeaidd gyntaf i rym yn 1976, ar ffurf y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi. Cafodd y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi ddiwygiedig ei mabwysiadu yn 2006, a 2015 oedd y flwyddyn gyntaf y cafodd ei gweithredu'n llawn yn y DU. Newidiwyd y dulliau o reoli a goruchwylio dyfroedd ymdrochi a chafodd safonau microbiolegol tynnach newydd eu cyflwyno. Ceir mwy o fanylion am y gwahaniaethau rhwng y cyfarwyddebau dŵr ymdrochi gwreiddiol a diwygiedig yn Adroddiad Dyfroedd Ymdrochi Cymru 2014.

Mae darparu gwybodaeth i'r cyhoedd yn rhan allweddol o'r gyfarwyddeb. Mae'n rhaid paratoi a chyhoeddi proffiliau ar gyfer pob corff dŵr ymdrochi a sicrhau eu bod ar gael i bawb. Mae'r proffiliau hyn yn disgrifio'r amodau ffisegol a hydrolegol a geir mewn ardaloedd ymdrochi ac yn dadansoddi effeithiau posibl ar ansawdd y dŵr ynddynt (a bygythiadau posibl iddo). Mae'r proffiliau dŵr ymdrochi'n gweithredu fel ffynhonnell o wybodaeth ac fel offeryn rheoli.

Yng Nghymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am fonitro dyfroedd ymdrochi ac am rannu'r canlyniadau â'r cyhoedd. Caiff pob math o wybodaeth, gan gynnwys y proffiliau, ei gyfleu i'r cyhoedd drwy'r Archwiliwr Data Dŵr Ymdrochi.

Mae'r tymor ymdrochi'n dechrau ym mis Mai ac yn parhau hyd nes diwedd mis Medi. Yn ystod y tymor ymdrochi, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro ansawdd dyfroedd ymdrochi ac yn darparu gwybodaeth am risgiau posibl i iechyd yn sgil problemau fel digwyddiadau o lygredd tymor byr. Ar ddiwedd pob blwyddyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn anfon data am ansawdd dyfroedd ymdrochi, a gwybodaeth am fesurau rheoli, i'r Comisiwn Ewropeaidd ac Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop.

Ansawdd dyfroedd ymdrochi yn 2020

Yng Nghymru, cafodd 105 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig eu samplu a'u dosbarthu yn ystod tymor ymdrochi 2020.

Cyflawnodd pob un o'r dyfroedd ymdrochi dynodedig y safonau ansawdd dŵr ofynnol isaf fel a ganlyn:

  • Cyflawnodd 84 ohonynt ddosbarthiad rhagorol, sef yr uchaf un
  • Cyflawnodd 14 ddosbarthiad da
  • Cyflawnodd 7 ddosbarthiad digonol

Mae'r canlyniadau hyn yn dangos bod yr ansawdd dŵr wedi aros yn gymharol gyson, yn gyffredinol, â'r dosbarthiadau a bennwyd ar ddiwedd tymor 2019.

Mae dosbarthiadau'r Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi yn 2020 yn seiliedig ar ddau baramedr microbiolegol: Escherichia coli (E. coli) ac enterococci coluddol. Maent yn cael eu cyfrifo ar sail data o samplau a gasglwyd dros gyfnod o bedair blynedd (2017-2020). 

Dyfroedd ymdrochi nad ydynt yn cydymffurfio

Nid oedd unrhyw ddyfroedd ymdrochi nad oeddent yn cydymffurfio yn ystod tymor ymdrochi 2020.

Gwaith monitro a dosbarthu yn 2020

Gwaith monitro

Yng Nghymru, fel arfer, mae'r tymor ymdrochi yn para o 15 Mai i 30 Medi. Fel arfer, mae gwaith monitro'n dechrau ar 1 Mai pan gymerir sampl cyn y tymor o bob corff dŵr ymdrochi. Mae'n bosibl hefyd y bydd archwiliad cyn y tymor i nodi unrhyw broblemau. Fodd bynnag, oherwydd pandemig y coronafeirws bu oedi i dymor dŵr ymdrochi 2020, a digwyddodd gwaith monitro rhwng 22 Mehefin a 30 Medi (yn unol â Rheoliadau Dŵr Ymdrochi (Diwygiad) (Cymru) (Coronafeirws) 2020). Cymerwyd y sampl cyn y tymor ar 1 Mehefin. Bu gostyngiad hefyd yn nifer y samplau a gymerwyd ym mhob corff dŵr ymdrochi, ond parhaodd i fod yn unol â'r gyfarwyddeb.

Drwy gydol y tymor ymdrochi, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn casglu samplau dŵr ar safleoedd ymdrochi dynodedig. Mae'r samplau'n cael eu dadansoddi am ddau fath o facteria, sef Escherichia coli (E. coli) ac enterococci coluddol.

Mae samplau'n cael eu casglu yn unol â chalendr monitro a drefnir cyn y tymor. Rhaid casglu pob sampl ar y dyddiad a bennir neu o fewn pedwar diwrnod wedyn, neu bydd y cyfle samplu'n cael ei golli oherwydd nad yw samplau sy'n cael eu casglu y tu allan i'r cyfnod pum diwrnod hwnnw'n cyfrif ar gyfer y set ddata sy’n dangos cydymffurfiaeth.

Gall y calendr hwn gael ei atal os digwydd sefyllfa anarferol a allai gael effaith ar ansawdd dyfroedd ymdrochi.

Ni ddigwyddodd unrhyw sefyllfaoedd anarferol yn ystod tymor 2020.

Gwaith dosbarthu

Mae dosbarthiadau'n seiliedig ar werth pedair blynedd o ddata. Gellir dosbarthu dyfroedd ymdrochi newydd neu ddiweddar ar sail data o lai na phedair blynedd, ond mae'n rhaid i'r dosbarthiad a bennir fod yn seiliedig ar 16 sampl o leiaf. Mae safonau'r gyfarwyddeb yn defnyddio dau baramedr, sef E. coli ac enterococci coluddol, ac maent yn seiliedig ar y 95ain a'r 90ain canradd.

Dosberthir samplau yn ôl pedwar categori: rhagorol, da, digonol a gwael.

Un o'r amcanion a bennwyd yn y gyfarwyddeb oedd bod pob corff dŵr ymdrochi yn cyflawni statws digonol erbyn 2015, a dyna ddigwyddodd. Caiff y dosbarthiadau eu defnyddio hefyd yn yr adolygiadau cyfnodol o'r proffiliau dŵr ymdrochi, y mae'n ofynnol eu cynnal o dan y gyfarwyddeb, fel a ganlyn:

  • bob dwy flynedd ar gyfer dyfroedd ymdrochi gwael
  • bob tair blynedd ar gyfer dyfroedd ymdrochi digonol
  • bob pedair blynedd ar gyfer dyfroedd ymdrochi da

Digwyddiadau o lygredd tymor byr, a'r gwaith o'u rhagweld a'u diystyru

Gellir defnyddio modelau i ragweld digwyddiadau o lygredd tymor byr ar gyfer rhai dyfroedd ymdrochi.
Mae gweithredwyr traethau yna'n diweddaru arwydd ger y corff dŵr ymdrochi i rybuddio'r cyhoedd ar ddyddiau y rhagwelir ansawdd dŵr gwael. Caiff gwybodaeth y rhagolwg ei rhannu ar-lein yn ogystal.

Gellir diystyru sampl o ddŵr ymdrochi a amserlennir a gymerwyd ar y diwrnod o'r set ddata pedair blynedd os yw'r model wedi rhagweld ansawdd gwael, os yw aelodau'r cyhoedd wedi'u hysbysu, ac os cymerwyd sampl gadarnhau i ddangos a oedd y digwyddiad o lygredd hwnnw wedi parhau am 72 awr neu lai.

Mae'n bosibl gwneud hyn ar gyfer hyd at 15 y cant o'r samplau y darparwyd ar eu cyfer yn yr amserlenni monitro a sefydlwyd ar gyfer y cyfnod hwnnw, neu dim mwy nag un sampl fesul tymor ymdrochi, yn ôl pa un bynnag yw'r mwyaf.

Yn opsiynol, gellir disodli sampl â sampl a gymerwyd saith diwrnod ar ôl diwedd y digwyddiad o lygredd tymor byr. Ni ellir dynodi dosbarthiad safon ddigonol, dda neu ragorol i ddyfroedd ymdrochi lle rhagwelwyd y byddai llygredd tymor byr yn digwydd ynddynt yn ystod y tymor oni bai fod mesurau rheoli digonol yn cael eu harfer.

Ar ddiwedd tymor 2020, penderfynodd Llywodraeth Cymru ddiystyru a disodli'r samplau canlynol:

Corff dŵr ymdrochi 2020 Dyddiad y sampl a ddiystyriwyd Dyddiad y sampl a ddisodlwyd

Bae Abertawe

27/7/2020

4/8/2020

Bae Abertawe

8/9/2020

16/9/2020

Aberdyfi

8/7/2020

17/7/2020

Y Rhyl

17/8/2020

Amherthnasol

Dwyrain y Rhyl

17/8/2020

Amherthnasol

Newidiadau sylweddol

Efallai y bydd newidiadau mawr a wnaed ger dyfroedd ymdrochi, megis gwelliannau i seilwaith carthffosiaeth, yn golygu na fydd y data a gasglwyd cyn y newidiadau bellach yn gynrychiadol o'r ansawdd dŵr ymdrochi cyfredol. O dan ddarpariaeth a adwaenir yn gyffredinol yn newidiadau sylweddol, gellir eithrio data a gasglwyd cyn newidiadau o'r fath o'r cyfrifiadau dosbarthu.

Ni chafodd newidiadau sylweddol effaith ar unrhyw gorff dŵr ymdrochi yng Nghymru yn ystod tymor 2020.

Canlyniadau gwaith samplu a dadansoddi ansawdd dŵr ar safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig yng Nghymru yn 2020 yn erbyn y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi ddiwygiedig

Corff dŵr ymdrochi 2020 2019 er cymhariaeth

Aberdaron

Rhagorol

Rhagorol

Aberdyfi

Rhagorol

Da

Aberdyfi Gwledig

Rhagorol

Rhagorol

Abereiddi

Rhagorol

Rhagorol

Aberffraw

Rhagorol

Rhagorol

Aberllydan (Canol)

Rhagorol

Rhagorol

Aberllydan (De)

Rhagorol

Rhagorol

Aber Mawr

Rhagorol

Rhagorol

Abermo

Rhagorol

Rhagorol

Aber-soch

Rhagorol

Rhagorol

Aberystwyth, Traeth y Gogledd

Rhagorol

Da

Aberystwyth, Traeth y De

Rhagorol

Da

Amroth (Canol)

Rhagorol

Rhagorol

Bae Bracelet

Rhagorol

Rhagorol

Bae Caswell

Rhagorol

Rhagorol

Bae Colwyn

Rhagorol

Rhagorol

Bae Colwyn, Porth Eirias

Rhagorol

Rhagorol

Bae Langland

Rhagorol

Rhagorol

Bae Limeslade

Rhagorol

Rhagorol

Bae Oxwich

Rhagorol

Rhagorol

Bae Port Einon

Rhagorol

Rhagorol

Bae Trearddur

Rhagorol

Rhagorol

Barafundle

Rhagorol

Rhagorol

Benllech

Rhagorol

Rhagorol

Caerfai

Rhagorol

Rhagorol

Ceinewydd (Harbwr)

Rhagorol

Rhagorol

Cilborth

Rhagorol

Rhagorol

Coppet Hall

Rhagorol

Rhagorol

Traeth Craig Ddu (Canol)

Rhagorol

Rhagorol

Dale

Rhagorol

Rhagorol

Dinbych-y-pysgod (Traeth y Castell)

Rhagorol

Rhagorol

Dinbych-y-pysgod (Traeth y De)

Rhagorol

Rhagorol

Dinbych-y-pysgod (Traeth y Gogledd)

Rhagorol

Rhagorol

Druidston Haven

Rhagorol

Rhagorol

Dyffryn (Llanenddwyn)

Rhagorol

Rhagorol

Freshwater East

Rhagorol

Rhagorol

Freshwater West

Rhagorol

Rhagorol

Traeth Glan Don

Rhagorol

Rhagorol

Harlech

Rhagorol

Rhagorol

Little Haven

Rhagorol

Rhagorol

Lydstep

Rhagorol

Rhagorol

Llandanwg

Rhagorol

Rhagorol

Llandudno (Traeth y Gorllewin)

Rhagorol

Rhagorol

Llanddona

Rhagorol

Rhagorol

Llanddwyn

Rhagorol

Rhagorol

Llanfairfechan

Rhagorol

Rhagorol

Llangrannog

Rhagorol

Rhagorol

Llanrhystud

Rhagorol

Rhagorol

Traeth Lligwy

Rhagorol

Rhagorol

Llyn Padarn

Rhagorol

Rhagorol

Maenorbŷr

Rhagorol

Rhagorol

Traeth Marloes

Rhagorol

Rhagorol

Morfa Dinlle

Rhagorol

Rhagorol

Morfa Nefyn

Rhagorol

Rhagorol

Mwnt

Rhagorol

Rhagorol

Niwgwl

Rhagorol

Rhagorol

Penalun

Rhagorol

Rhagorol

Pen-bre

Rhagorol

Rhagorol

Pentywyn

Rhagorol

Rhagorol

Poppit  (Traeth y Gorllewin)

Rhagorol

Rhagorol

Porthcawl (Bae Treco)

Rhagorol

Rhagorol

Porthcawl (Rest Bay)

Rhagorol

Rhagorol

Porthcawl (Sandy Bay)

Rhagorol

Rhagorol

Porth Dafarch

Rhagorol

Rhagorol

Porth Neigwl

Rhagorol

Rhagorol

Porth Swtan (Church Bay)

Rhagorol

Rhagorol

Prestatyn

Rhagorol

Rhagorol

Pwllheli

Rhagorol

Rhagorol

Rhoscolyn (Traeth Llydan)

Rhagorol

Rhagorol

Rhosneigr

Rhagorol

Rhagorol

Rhosili

Rhagorol

Rhagorol

Sandy Haven

Rhagorol

Da

Saundersfoot

Rhagorol

Rhagorol

Southerndown

Rhagorol

Rhagorol

Tal-y-bont

Rhagorol

Rhagorol

Tre-saith

Rhagorol

Rhagorol

Tyddewi – Benllech

Rhagorol

Rhagorol

West Angle

Rhagorol

Rhagorol

Whitesands

Rhagorol

Rhagorol

Wiseman's Bridge

Rhagorol

Rhagorol

Y Borth

Rhagorol

Rhagorol

Y Borth Wen

Rhagorol

Rhagorol

Y Friog

Rhagorol

Rhagorol

Ynys y Barri (Cold Knap)

Rhagorol

Rhagorol

Bae Abertawe

Da

Da

Ceinewydd (Traeth Gwyn)

Da

Da

Ceinewydd (Traeth y Gogledd)

Da

Da

Cemaes

Da

Digonol

Clarach (Traeth y De)

Da

Da

Cricieth

Da

Da

Nolton Haven

Da

Da

Penbryn

Da

Rhagorol

Penmaenmawr

Da

Rhagorol

Trefdraeth (Traeth y Gogledd)

Da

Da

Tywyn

Da

Da

Ynys y Barri (Bae Whitmore)

Da

Rhagorol

Y Rhyl

Da

Digonol

Y Rhyl (Dwyrain)

Da

Da

Aberafan

Digonol

Da

Abergele (Pensarn)

Digonol

Digonol

Aber-porth

Digonol

Da

Bae Cinmel (Sandy Cove)

Digonol

Da

Llandudno (Traeth y Gogledd)

Digonol

Digonol

Y Rhyl (Marine Lake)

Digonol

Digonol

Ynys y Barri (Bae Jackson)

Digonol

Da

Paramedrau a ddefnyddiwyd ar gyfer dosbarthu dyfroedd arfordirol a dyfroedd aberol y gellir ymdrochi ynddynt o dan y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi ddiwygiedig

E. coli ac enterococci coluddol yw'r paramedrau a fesurir. Mae canraddau'n werthoedd y dylid cydymffurfio â nhw 90 neu 95 y cant o'r amser, yn ddamcaniaethol (ar sail dosbarthiad y data). Nid ydynt yn cyfeirio at werthoedd y mae 90 neu 95 y cant o'r samplau'n cydymffurfio â nhw.

Rhagorol

250 95ain canradd o ran E. coli (unedau ffurfio cytref/100 ml)
100 95ain canradd o ran enterococci coluddol (unedau ffurfio cytref/100 ml)

Da

500 95ain canradd o ran E. coli (unedau ffurfio cytref/100 ml)
200 95ain canradd o ran enterococci coluddol (unedau ffurfio cytref/100 ml)

Digonol

500 90ain canradd o ran E. coli (unedau ffurfio cytref/100 ml)
185 90ain canradd o ran enterococci coluddo (unedau ffurfio cytref/100 ml)

Gwael

Yn methu cyflawni unrhyw un o'r safonau uchod.

Diddosbarth

Nid oes digon o samplau wedi'u casglu ar ei gyfer o fewn y cyfnod cyfrifo o bedair blynedd.

Paramedrau a ddefnyddiwyd ar gyfer dosbarthu dyfroedd mewndirol o dan y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi ddiwygiedig

E. coli ac enterococci coluddol yw'r paramedrau a fesurir. Mae canraddau'n werthoedd y dylid cydymffurfio â nhw 90 neu 95 y cant o'r amser, yn ddamcaniaethol (ar sail dosbarthiad y data). Nid ydynt yn cyfeirio at werthoedd y mae 90 neu 95 y cant o'r samplau'n cydymffurfio â nhw.

Rhagorol

500 95ain canradd o ran E. coli (unedau ffurfio cytref/100 ml)
200 95ain canradd o ran enterococci coluddol (unedau ffurfio cytref/100 ml)

Da

1000 95ain canradd o ran E. coli (unedau ffurfio cytref/100 ml)
400 95ain canradd o ran enterococci coluddol (unedau ffurfio cytref/100 ml)

Digonol

900 90ain canradd o ran E. coli (unedau ffurfio cytref/100 ml)
330 90ain canradd o ran enterococci coluddo (unedau ffurfio cytref/100 ml)

Gwael

Yn methu cyflawni unrhyw un o'r safonau uchod.

Diddosbarth

Nid oes digon o samplau wedi'u casglu ar ei gyfer o fewn y cyfnod cyfrifo o bedair blynedd.

Diweddarwyd ddiwethaf