Beth yw rhanbarth draenio
Beth yw rhanbarth draenio?
Mae rhanbarthau draenio ar dir isel fel arfer, ac mae eu ffiniau wedi’u pennu gan nodweddion ffisegol, yn hytrach na gwleidyddol. Mae’r rhanbarthau’n amrywio o ran natur a maint. Mae rhai’n rhanbarthau amaethyddol gan mwyaf (fel Conwy, Llanfrothen a Thywyn) a rhai’n lled drefol (fel Gwastadeddau Gwent).
Rhanbarthau Draenio
- Afon Ganol
- Cors Ardudwy
- Cors Borth
- Lefelau Cil-y-Coed a Gwynllŵg a Gwy Isaf (Lefelau Gwent)
- Dyffryn Dysynni
- Glaslyn - Pensyflog
- Harlech a Maentwrog
- Llanfrothen
- Cors Malltraeth
- Mawddach ac Wnion
- Powysland
- Afon Conwy
- Towyn
Perygl llifogydd
Mae rhanbarthau draenio yn wynebu perygl llifogydd o ffynonellau amrywiol. Heb weithgareddau i reoli lefel y dŵr a pherygl llifogydd, ni fyddai rhanbarthau draenio yn lleoedd addas i fyw ynddyn nhw. Ni fydden nhw chwaith yn diogelu nac yn darparu ar gyfer y tir amaethyddol, y cyfleustodau a’r rhwydweithiau trafnidiaeth amrywiol sydd wedi datblygu o fewn eu ffiniau.
Eich hawl i arolygu cyfrifon ardaloedd draenio mewnol
Diweddarwyd ddiwethaf