Pixabay

Dysgu yn ein hamgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer.

Bydd yr adnoddau ar y wefan hon yn cefnogi eich dysgwyr i ymchwilio i’r achosion a deall effaith tanau gwyllt ar yr amgylchedd, bywyd gwyllt, cymunedau a’r economi leol.

Bydd ein gweithgareddau a’n hadnoddau tanau gwyllt yn helpu eich dysgwyr i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus, ac yn unigolion iach a hyderus sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Bydd yr holl weithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn eich helpu i alluogi eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedair diben y Cwricwlwm i Gymru. Cynhwysir dolenni i’r cwricwlwm yn y dogfennau a bydd pob gweithgaredd yn gymorth i chi gyflawni sawl agwedd o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (LRC) a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. 

Beth yw tân?

Mae ein nodyn gwybodaeth yn egluro beth yw tân, sut y gall nodweddion tanwydd effeithio ar ymddygiad a phatrwm tân, a sut mae pobl wedi defnyddio tân dros amser.

Nodyn gwybodaeth - Tân

Beth yw tanau gwyllt?

Oeddech chi’n gwybod bod gwahanol fathau o danau gwyllt? Mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn archwilio sut mae tanau gwyllt yn dechrau, eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol, eiddo a bywyd dynol, a sut maent yn cael eu rheoli.

Nodyn gwybodaeth - Tanau gwyllt

Tanio’r dychymyg

Gan ganolbwyntio ar ddefnydd o dân yn y gorffennol ac effaith tanau gwyllt ar bobl a’r amgylchedd, gellir defnyddio’r gweithgaredd hwn fel gêm cwis ‘cywir neu anghywir’, mewn parau i wirio gwybodaeth a dealltwriaeth neu i gasglu barn.

Cynllun gweithgaredd - Tanio'r dychymyg

Taflen datganiadau ac atebion - Tanio'r dychymyg

Cardiau adnoddau - Tanio'r dychymyg

Pynciau llosg yn y cyfryngau

Mae’r gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar sut y gall tanau gwyllt effeithio ar ein bywydau a’r amgylchedd naturiol, a’r sylw a roddir iddynt yn y cyfryngau. Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd chwarae rôl, yn archwilio ac yn trafod penawdau am danau gwyllt ledled y byd.

Cynllun gweithgaredd - Pynciau llosg yn y cyfryngau

Cardiau adnoddau - Pynciau llosg yn y cyfryngau

ABC tanau gwyllt

Her ar gyfer grwpiau sy’n edrych ar achosion a chanlyniadau tanau gwyllt, a sut y gallwn drechu’r effaith ar iechyd dynol a’r amgylchedd.

Cynllun gweithgaredd – ABC tanau gwyllt

Cardiau adnoddau – ABC tanau gwyllt (Saesneg yn unig)

Effeithiau tanau gwyllt

Senario – Mae tân gwyllt wedi ymledu drwy’r ardal leol. Mae’r gweithgaredd hwn yn galluogi dysgwyr i archwilio effeithiau uniongyrchol a pharhaus y tân gwyllt ar y gymuned leol.

Cynllun gweithgaredd – Effeithiau tanau gwyllt

Cardiau adnoddau - Effeithiau tanau gwyllt

Cynllun cilio rhag tanau gwyllt

Beth fyddai eich dysgwyr yn ei wneud er mwyn dianc rhag tanau gwyllt? Gan ddefnyddio senario o drychineb tân gwyllt, gofynnwch i’ch dysgwyr greu eu cynllun gwacau penodol i helpu i’w diogelu nhw ac eraill mewn achosion o dân gwyllt.

Cynllun gweithgaredd – Cynllun cilio rhag tanau gwyllt

Dihangfa o danau gwyllt

Bydd y gweithgaredd hwn yn annog dysgwyr i weithio fel tîm, datrys problemau a meddwl yn feirniadol er mwyn tywys ‘creaduriaid’ drwy gynefin sydd dan fygythiad gan danau gwyllt.

Cynllun gweithgaredd – Dihangfa o danau gwyllt

Ffawd yn y fflamau

Mae’r cynllun gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar yr effaith emosiynol sy’n cael ei deimlo gan aelodau cymuned yn ystod ac ar ôl profi achos o dân gwyllt.  Bydd dysgwyr yn ystyried eu teimladau eu hunain ynglŷn â’r mater ac yn cydymdeimlo gydag unigolion a grwpiau eraill yn y gymuned leol.

Cynllun gweithgaredd – Ffawd yn y fflamau

Cardiau adnoddau – Ffawd yn y fflamau

Taclo’r taniwr

Gadewch i’ch dysgwyr gymryd rôl ymchwiliwr tanau gwyllt i weld os allant ddilyn y cliwiau i ganfod y person sy’n gyfrifol!  Mae’r cynllun gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar pam bod tanau gwyllt yn cael eu cynnau’n fwriadol a’r canlyniadau i unigolion, cymunedau a’r amgylchedd naturiol.

Nodyn gwybodaeth – Ymchwilio i achosion tanau gwyllt

Cynllun gweithgaredd – Taclo’r taniwr

Cardiau adnoddau – Scenario: Taclo’r taniwr

Cardiau adnoddau – Pwy yw pwy

Y Cod Cefn Gwlad

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu ein cefn gwlad a'n mannau agored ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.  Dilynwch y cyngor hwn o’r Cod Cefn Gwlad i osgoi cynnau tanau gwyllt.

Ffilm - Byddwch yn ofalus gyda barbeciws, tanau a sigaréts

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Teulu’r Cod Cefn Gwlad.

Ydych chi’n chwilio am adnoddau’n ymwneud â thanau gwersyll diogel a defnyddio offer gyda’ch dysgwyr?

Cymerwch olwg ar ein gwefan am weithgareddau ac adnoddau sy’n cefnogi addysgu sgiliau ar gyfer tanio, rheoli a diffodd tân gwersyll yn ddiogel.

Cysylltwch â ni 

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i beth rydych yn chwilio amdano, neu os hoffech help neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni yn:

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf