Unedau rheoli mamaliaid morol mewn asesiadau rheoliadau cynefinoedd
Mae'r datganiad safbwynt hwn yn amlinellu pam mae CNC o'r farn mai unedau rheoli mamaliaid morol yw'r raddfa ofodol fwyaf perthnasol i'w defnyddio wrth sgrinio a chynnal asesiadau rheoliadau cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau mamaliaid morol symudol iawn mewn ardaloedd cadwraeth arbennig (ACA) ledled Cymru.
Fel datblygwr neu ymgynghorydd, gallwch ddefnyddio'r datganiad safbwynt i helpu i gyflwyno ceisiadau gyda digon o wybodaeth i ganiatáu i'r awdurdod cymwys asesu safleoedd sydd â nodweddion mamaliaid morol.
Mae’r datganiad safbwynt yn cynnwys:
- ein proses ar gyfer ystyried unedau rheoli mamaliaid morol mewn asesiadau rheoliadau cynefinoedd
- amcanion cadwraeth
- y sylfaen wybodaeth ar gyfer unedau rheoli mamaliaid morol
Diweddarwyd ddiwethaf