Marwolaethau posibl ymysg mamaliaid morol yn sgil datblygiadau morol mewn ardaloedd cadwraeth arbennig

Mae'r datganiad safbwynt hwn yn diffinio'r hyn a ystyriwn yn lefelau a ganiateir o ran marwolaethau ymysg mamaliaid morol neu symud mamaliaid morol heb achosi effaith niweidiol ar integredd safleoedd fel rhan o asesiad rheoliadau cynefinoedd.

Fel datblygwr neu ymgynghorydd, gallwch ddefnyddio'r datganiad safbwynt i helpu i gyflwyno ceisiadau gyda digon o wybodaeth i ganiatáu i'r awdurdod cymwys asesu safleoedd sydd â nodweddion mamaliaid morol.

Mae CNC o'r farn mai dim ond nifer fach o achosion o symud mamaliaid morol y gellir eu caniatáu mewn unrhyw flwyddyn cyn gorfod ystyried a oes effaith niweidiol ar integredd y safle. Diffinnir y rhain yn y datganiad safbwynt.

Safbwynt CNC ar bennu effaith niweidiol ar integredd safleoedd ar gyfer nodweddion mamaliaid morol ar safleoedd yng Nghymru mewn perthynas â symudiadau (marwolaethau) anthropogenig posibl yn sgil datblygiadau morol (saesneg yn unig)

Diweddarwyd ddiwethaf