Hysbysiad ABER DYRFDWY: Gwaith Arolwg Bathymetrig ar wely’r aber A494

RHIF RHYBUDD LLEOL: Rhif 2 o 2026
YN DDILYS O: 4 Chwefror 2026
YN DOD I BEN: Hunan-ddiddymu

Cynghorir morwyr y bydd gweithrediadau arolwg bathymetreg yn cael eu cynnal yn yr ardal uchod wedi’i hamlinellu’n goch ar bont yr A494 gan ddefnyddio’r llong ALHS MCA CAT III ‘COASTAL SENSOR’.

Yn ystod y gweithrediadau arolygu, bydd y llong yn teithio ar gyflymder araf ac yn gyfyngedig o ran ei gallu i symud a throi. Cynghorir morwyr i basio ar y cyflymder isaf posibl, gan roi gymaint o le ag sy’n ymarferol i’r arolwg. Mae cyfarpar CHF ar y llong a bydd modd cysylltu â hi ar CH16.

Disgwylir i’r gwaith ddechrau ddydd Iau 5 Chwefror 2026, a rhagwelir y bydd yn para tua 2 awr, yn dibynnu ar y tywydd, y llanw ac ystyriaethau technegol.

Mae’r hysbysiad hwn yn hunan-ddiddymu.

Capten R Jackson
Harbwrfeistr
3 Chwefror 2026
d/o Strategic Marine Services Ltd.
12 Chapel Court, Wervin Road, Wervin, Caer. CH2 4BP
Ffôn: +44 (0) 1244 371428
E-bost: harbourmaster@deeconservancy.org

Diweddarwyd ddiwethaf