Bydd yr ymgynghoriad 12 wythnos hwn yn dod i ben ar 26 Tachwedd 2015 a defnyddir y canlyniadau wrth lunio ein cynllun terfynol, a gyflwynir o 1 Ebrill 2016.

Ynglyn a’r ymgynghoriad hwn

Mae ein cylch gwaith yn eang ac mae’n cynnwys darparu amrywiaeth o wasanaethau rheoleiddio.

Yn unol â gofynion y Llywodraeth, mae'n rhaid i ni adennill costau ein gwasanaethau rheoleiddio oddi wrth y rhai sy’n cael eu rheoleiddio gennym, yn hytrach na chael ein hariannu trwy drethu cyffredinol.

Y costau hyn sy’n gyfrifol am tua 20% o gyfanswm cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru o £180m.

Rydym yn agored a thryloyw ynglŷn â’r ffordd y mae ein ffioedd a’n taliadau’n cael eu strwythuro, yn ogystal â sut mae’r arian a gesglir yn cael ei ddefnyddio wedyn.

Mae ein Cynllun Ffioedd a Thaliadau’n cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau bod ein costau’n cael eu talu a’n gofynion technegol yn cael eu cwrdd. O ganlyniad i’n hadolygiad diweddaraf rydym yn cynnig cynnal lefelau cyfredol ein taliadau sylfaenol a gwneud mân newidiadau technegol o fewn trefniadau taliadau penodol. 

Weld y ddogfen ymgynghori

Sut i ymateb

Dylech anfon eich sylwadau erbyn 4pm ar 26 Tachwedd 2015.

Gallwch ymateb yn y ffyrdd canlynol:

Ebost -

feesandchargesconsultation@naturalresourceswales.gov.uk

Post -

Ymateb i Ymgynghoriad Taliadau Cyfoeth Naturiol Cymru

Tŷ Cambria

29 Heol Casnewydd

Caerdydd

CF24 0TP

Rhif ffôn -

0300 065 3000

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ffurflen Ymateb Ymgynghoriad ar Ffioedd a Thaliadau 2016-17 WORD [114.2 KB]