Ymgynghoriad ar Gynllun Marchnata Pren ar gyfer y cyfnod 2016-2021

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Trwy gyfrwng yr ymgynghoriad hwn rydym yn ceisio eich barn a’ch sylwadau ynghylch cynigion i ddatblygu ein Cynllun Marchnata Pren ar gyfer y cyfnod 2016-2021.

Mae’r Cynllun Marchnata Pren yn ymwneud â chynaeafu a marchnata pren ar Ystâd Coetiroedd Llywodraeth Cymru, yr ydym ni’n gyfrifol am ei rheoli.

Mae’r pren a gynhyrchwn yn cyfrannu miliynau o bunnoedd at economi Cymru, gan gynnal miloedd o swyddi’n uniongyrchol; ond rydym angen sicrhau mwy nag enillion masnachol gan ein gweithgareddau rheoli coedwigoedd. Caiff Ystad Coetiroedd Llywodraeth Cymru ei rheoli’n unol â’r egwyddor rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, a hefyd rydym yn gweithio’n galed i wella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau coetir, gwella ansawdd dŵr dalgylchoedd coediog, a darparu lleoedd deniadol ar gyfer hamdden a chyfranogiad cymunedol. Mae ein gweithrediadau cynaeafu a marchnata pren yn dylanwadu ar ein gallu i gyflawni’r amcanion ehangach hyn.

Hoffem glywed eich barn ynghylch pa un a yw ein cynigion yn pennu’r cyfeiriad priodol ar gyfer ein gweithrediadau cynaeafu a marchnata dros y pum mlynedd nesaf. Rydym eisiau clywed eich barn ynghylch y cynllun presennol, y meysydd sy’n bwysig i chi, a sut y dylem fwrw ymlaen.

Sut i ymateb

Defnyddiwch y ffurflen ymateb ar ein gwefan i roi gwybod inni beth yw eich barn. Gallwch anfon y ffurflen ymateb atom i’r cyfeiriadau canlynol:

E-bost

sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk   neu
sfmt@naturalresourceswales.gov.uk 

Post

Michelle van-Velzen
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad Llywodraeth Cymru
Rhodfa Padarn
Aberystwyth
Ceredigion

Cyhoeddi canlyniadau ein hymgynghoriad

Rydym wedi cynhyrchu Adroddiad Cryno o Ymatebion i’r Ymgynghoriad Cyhoeddus. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ymatebion i’r ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol a sut yr ydym yn ymateb i’r sylwadau a’r adborth a dderbyniwyd. Bellach mae’n debygol y byddwn yn cyhoeddi Datganiad Marchnata Pren Interim blwyddyn ar gyfer 2016-17, ac yna Cynllun Marchnata Pren pum mlynedd ar gyfer y cyfnod 2017-22.  Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd amser i ymateb i’r ymgynghoriad. 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Cynllun Marchnata Pren Adroddiad cryno ar ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus PDF [388.8 KB]
Gwybodaeth amdanoch chi WORD [49.5 KB]