Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ar gyfer gweithgaredd coedwigaeth

Beth yw asesiadau effeithiau amgylcheddol?

Bwriad asesiad effaith amgylcheddol yw diogelu’r amgylchedd. Mae ymgeiswyr yn paratoi’r asesiad ac yn nodi unrhyw effeithiau arwyddocaol, tebygol y gallai eu gweithgaredd gael ar yr amgylchedd.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth yn yr asesiad effaith amgylcheddol i’n cynorthwyo i benderfynu os oes angen i ymgeiswyr gael caniatâd gennym ar gyfer eu gweithgaredd arfaethedig. Gelwir hyn yn benderfyniad asesiad ‘cychwynnol’ neu’n ‘sgrinio.’

Am wybodaeth ar y broses asesu llawn, edrychwch ar ein canllaw cyflym ar asesiadau effeithiau amgylcheddol.

Penderfyniadau cychwynnol ar asesiadau effeithiau amgylcheddol.

Mae’n rhaid i ni eich hysbysu o’n penderfyniad os tybiwn y bydd cynigion ar gyfer ambell brosiect coedwigaeth yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd.

Beth fydd yn digwydd os byddwn yn penderfynu bod angen caniatâd?

Os mai penderfyniad ein hasesiad cychwynnol yw bod angen ein caniatâd ar ymgeisydd cyn y gall barhau gyda’i weithgaredd, mae’n rhaid iddo:

  • wneud cais ar gyfer y caniatâd perthnasol

  • anfon y wybodaeth gefnogol sydd ei angen arnom er mwyn gwneud penderfyniad ar y cais

Mae’r wybodaeth gefnogol yn cynnwys datganiad amgylcheddol. Mae’r datganiad hwn yn nodi’r hyn fyddant yn eu gwneud er mwyn diogelu’r amgylchedd wrth barhau gyda’r gweithgaredd.

Gwneud sylwadau ar ddatganiadau amgylcheddol

Mae’n rhaid i ymgeiswyr hysbysebu eu ceisiadau caniatâd mewn papurau lleol. Byddwn yn ystyried pob sylw perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad

Datganiad Amgylcheddol a’n Penderfyniad

Lle bo cais am ganiatâd wedi ei benderfynu gennym, mae’n rhaid inni gyhoeddi ein penderfyniad.

Rheoliadau AEA

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod cymwys ar gyfer asesu'r pedwar math o brosiect coedwigaeth a nodir yn Rheoliadau Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) 1999 (Cymru a Lloegr) yng Nghymru.

Rydym yn annog yr holl gwsmeriaid a chanddynt brosiectau sy’n gysylltiedig ag Asesiad Effeithiau Amgylcheddol adolygu’r rheoliadau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys meysydd lle mae CNC yn awdurdod penderfynu ar gyfer EIA, megis y cyfundrefnau Trwyddedu Morol a Choedwigaeth dan Reoliadau Gwaith Morol (EIA) a’r Rheoliadau EIA (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) yn eu trefn.

Mae’r rheoliadau diwygiedig yn ad-drefnu Cyfarwyddeb 2014/52/EU Senedd Ewrop a Chyngor 16 Ebrill 2014 gan ddiwygio Cyfarwyddeb 2011/92/EU ac yn dilyn ymgynghoriadau gan adrannau Llywodraeth Cymru a’r DU yr ydym wedi ymateb iddynt.

Rydym yn y broses o ddiweddaru gwe-dudalennau perthnasol CNC. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r rheoliadau EIA lle mae CNC yn awdurdod penderfynu cysylltwch â:

Rheoliadau Asesiad Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth): forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

O dan y rheoliadau hyn, mae'n rhaid i ni ystyried a fydd y gwaith arfaethedig ar gyfer unrhyw un o'r prosiectau hyn yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Os felly, mae'n rhaid i'r ymgeisydd wneud cais am ganiatâd i gwblhau'r gwaith. Mae'n rhaid i geisiadau am ganiatâd gynnwys Datganiad Amgylcheddol.

Canllaw cyflym i broses AEA

Mae'r canllaw cyflym hwn yn crynhoi proses AEA. I gael rhagor o fanylion, ewch i dudalennau eraill yn yr adran AEA, a restrir ar waelod y dudalen hon.

Cynllun Glastir – Creu Coetir angen i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyflwyno Barn yn eu cylch er mwyn gweld a ydych angen caniatâd i fynd i’r afael â’ch gwaith plannu newydd arfaethedig. Yn y mwyafrif o achosion, bydd y farn AEA yn cael ei hasesu fel rhan o broses wirio Glastir – Creu Coetir ac ni fydd angen ffurflenni barn AEA ar wahân. Ar gyfer cynlluniau Glastir – Creu Coetir mwy, a mwy cymhleth, efallai y bydd angen caniatâd AEA – i gael mwy o wybodaeth, darllenwch Ffynonellau posibl o ganllawiau ar gyfer barn a chaniatâd AEA ar gyfer cynlluniau Creu Coetir Glastir. Os ydych yn ansicr ynghylch pa un a yw cynllun Glastir – Creu Coetir angen caniatâd AEA ai peidio, gofynnwch i’r tîm Rheoleiddio Coedwigoedd forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Cam 1 - Ai prosiect coedwigaeth yw hwn?

Cadarnhewch p'un a yw'r gwaith arfaethedig yn brosiect coedwigaeth. Mae'r pedwar gweithgaredd (a elwir yn 'brosiectau') a nodir yn y Rheoliadau AEA fel a ganlyn:

  • Coedwigo - plannu coetir a choedwigoedd newydd. Mae hyn yn cynnwys hau uniongyrchol neu aildyfu naturiol, plannu coed Nadolig neu goedlan cylchdro byr
  • Datgoedwigo - torri coetir i'w ddefnyddio fel tir at ddiben gwahanol
  • Ffyrdd coedwig - creu, newid neu gynnal ffyrdd preifat ar dir a ddefnyddir (neu sydd i'w ddefnyddio) at ddibenion coedwigaeth. Mae hyn yn cynnwys ffyrdd mewn coedwig neu ffyrdd sy'n arwain at goedwig
  • Chwareli coedwig - cloddio er mwyn cael deunyddiau ar gyfer gwaith ffyrdd coedwig ar dir sy'n cael ei ddefnyddio neu a fydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion coedwigaeth

Cam 2 - A yw'r prosiect yn uwch na throthwy'r ardal?

Cyfrifwch p'un a yw'r prosiect yn uwch na throthwy'r ardal, fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau AEA. Os cwblhawyd unrhyw waith mewn ardal sy'n gyfagos i'r prosiect yn ystod y pum mlynedd blaenorol, rhaid ystyried yr ardal hon fel rhan o'r trothwy hefyd.

Gweler y dudalen Cynllunio fy Mhrosiect Coedwigaeth i weld y trothwyon ar gyfer pob math o brosiect. Os yw ardal y prosiect yn llai na'r trothwy, nid fydd angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru, oni bai bod y gwaith yn cael effaith amgylcheddol sylweddol. Cysylltwch â ni os hoffech rhagor o wybodaeth am hyn.

Cam 3 - A oes angen caniatâd arnoch?

Os yw'r prosiect yn uwch na throthwy'r ardal, mae'n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Barn atom er mwyn canfod p'un a oes angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru arnoch. Ymhen 28 diwrnod fe fyddwch yn cael penderfyniad gennym, naill ai trwy lythyr neu trwy e-bost, yn cadarnhau a fydd angen ein caniatâd ai peidio. Peidiwch â dechrau ar unrhyw waith hyd nes y byddwch wedi cael y llythyr neu’r e-bost hwn. Cynllunio fy Mhrosiect Coedwigaeth

Dim ond hyd at gam 3 y mae'r rhan fwyaf o geisiadau yn mynd rhagddynt. Os na fydd angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru arnoch, ni fydd angen i chi ddilyn cam 4.

Cam 4 - Gwneud cais am ein caniatâd

Os bydd angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd angen i chi wneud y canlynol:

Gweler y dudalen 'Gwneud cais am ein caniatâd' am ragor o wybodaeth.

Gwaith a gwblhawyd heb ganiatâd

Os caiff gwaith ei gwblhau heb gael y caniatâd sy'n ofynnol, gallwn gyhoeddi Hysbysiad Gorfodi er mwyn unioni'r sefyllfa.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am broses AEA, cysylltwch â

Diweddarwyd ddiwethaf