Croeso Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 (SoNaRR).

 

Nôl i gynnwys adroddiad SoNaRR 2025

Beicwyr yn beicio wrth ymyl trên

Rhagair, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru

Ers rhy hir o lawer, rydym wedi ymddwyn fel pe bai dirywiad amgylcheddol yn broblem i rywun arall - rhywbeth i reoleiddwyr, rhywbeth i lywodraethau'r dyfodol, neu rywbeth i’w drafod hyd syrffed.

Mae'r amser hwnnw wedi mynd.

Nid yw'r dystiolaeth bellach yn haniaethol, yn dechnegol nac yn bell i ffwrdd. Mae’r dystiolaeth i’w gweld ar stepen ein drws: cartrefi dan ddŵr llifogydd, afonydd llygredig, priddoedd sy'n methu, bywyd gwyllt sy'n dirywio, biliau ynni anfforddiadwy, costau bwyd sy’n cynyddu o hyd, a chymunedau sy'n wynebu mwy a mwy o risg ac ansicrwydd. Nid rhybuddion o'r hyn a allai ddigwydd yw hyn. Dyma ganlyniadau'r hyn sydd eisoes wedi digwydd.

Mae Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol 2025 (SoNaRR) yn dangos hyn yn glir. Er gwaethaf peth cynnydd mewn mannau, mae Cymru'n parhau ar lwybr sy'n achosi i natur ddirywio ac sy’n tanseilio gwytnwch a chadernid ein cymunedau. Mae'r systemau sy'n sail i fywyd bob dydd yn dal i fynnu mwy gan fyd natur nag y gall gyflenwi. Os bydd hyn yn parhau, cyflymu wnaiff y difrod - a’r bobl fwyaf difreintiedig fydd yn talu’r gost fwyaf.

Gadewch i ni fod yn hollol glir: ni fydd newidiadau bach, dipyn-yn-dipyn, yn ddigon.

Ni allwn reoleiddio ein ffordd allan o’r twll hwn. Ni wnaiff ailgylchu yn unig ein hachub. Ni allwn ddibynnu ar rai enillion bach o ran effeithlonrwydd tra bod y systemau sylfaenol yn gyrru galw, yn llawn llygredd, ac yn annog anghydraddoldeb.

Ni all unrhyw lywodraeth, sefydliad, sector na pholisi unigol ddatrys hyn ar ei ben ei hun.

Mae hon yn her i’r gymdeithas gyfan. Rhaid ar ymdrech ar y cyd – gan gyrff cyhoeddus, gan fusnesau, gan gymunedau a chan y bobl. Mae’r ffeithiau’n amlwg o’r hyn sydd wedi digwydd dros y degawd diwethaf - yn ein cymdogaethau, ein caeau a'n hafonydd. Mae'r dioddefaint i’w weld wrth y drws cefn, yn llythrennol.

Mae SoNaRR yn dangos nad yw'r pwysau mwyaf ar natur, na’r niwed mwyaf, yn gysylltiedig â pholisi amgylcheddol yn unig. Mae’n ymwneud â’r ffordd rydyn ni'n gwresogi ein cartrefi, sut rydyn ni'n teithio, sut rydyn ni'n tyfu ac yn bwyta bwyd, sut rydyn ni'n defnyddio tir, a sut rydyn ni'n buddsoddi mewn lleoedd. Nid yw trin difrod amgylcheddol fel rhywbeth i'w ddatrys yn nes ymlaen bellach yn bosib.

Os yw Cymru am barhau i fod yn wlad lle y gall pobl a byd natur ffynnu, rhaid inni newid y systemau sylfaenol - nid dim ond rheoli eu heffeithiau.

Dyna pam y mae Pontydd i'r Dyfodol yn bwysig. Nid yw'r Pum Pont yn ddewisol - nid dyheadau hirdymor mohonynt. Maent yn fframwaith ymarferol ar gyfer gweithredu brys - maent yn alinio polisi, buddsoddi, gwaith rheoleiddio a gwaith partneriaeth er mwyn mynd i lygad y ffynnon i leihau'r pwysau ar fyd natur a chynyddu gwytnwch a chadernid ein cymunedau, a hynny ar raddfa fawr.

Rydym ni, yn Cyfoeth Naturiol Cymru, yn llwyr ddeall cyfyngiadau ein rôl. Ni allwn gyflawni'r trawsnewidiad hwn ar ein pen ein hunain - yn wir, ni ddylem hyd yn oed geisio gwneud hynny. Ein cyfrifoldeb ni yw dod â phobl at ei gilydd - herio, ffocysu, cyflymu dysgu drwy gyflawni, a sicrhau bod gweithredu’n digwydd lle y gall wneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae arweinyddiaeth bellach yn golygu pontio rhwng sectorau, lleoedd a buddiannau sydd wedi bod ar wahân yn rhy hir.

Mae gan Gymru sylfeini cadarn: deddfwriaeth sy'n arwain y byd, tystiolaeth glir, ac ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd. Ond nid yw deddfau yn sicrhau newid ar eu pen eu hunain. Mae gwir gyflawni yn dibynnu ar ddewisiadau ynghylch buddsoddi, defnydd tir, seilwaith, y defnydd a wnawn o bethau, a thegwch hynny - a gwneud y dewisiadau hynny yn gyson dros amser, gyda dewrder.

Mae SoNaRR yn dangos inni ble mae'r pwysau mwyaf - a ble y bydd oedi yn fwyaf trychinebus. Yr hyn sy'n parhau heb ei ateb yw a ydym yn barod i weithredu ar fyrder, fel y mae'r foment hon yn ei fynnu - a ydym yn barod i wneud penderfyniadau anodd, ac i rannu cyfrifoldeb yn onest.

Mae ein cynllun corfforaethol yn rhoi'r mandad i ni herio arferion, i roi'r gorau i wneud pethau nad ydynt yn gweithio bellach, ac i arloesi er budd y cyhoedd. Nid yw hynny'n waith hawdd, ond mae'n hanfodol.

Nid rhybudd at y dyfodol yw hyn, ond rheidrwydd - yn yr awr hon.

O weithredu nawr, ar fyrder ac ar y cyd, gall Cymru barhau i arwain - nid yn unig o ran uchelgais, ond o ran cyflawni gwirioneddol. Os na wnawn hynny, bydd y SoNaRR nesaf yn dangos dirywiad pellach - bydd y costau’n uwch, a bydd y dewisiadau’n fwy dyrys fyth.

Edrychaf ymlaen at groesi'r pontydd hyn gyda'n gilydd - nid dim ond mewn gobaith, ond yn benderfynol o sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn etifeddu Cymru gadarn, gwydn a theg. Cymru sydd â natur fyw.

Neil Sachdev

Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru

Rhagair, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Yn fy ngweledigaeth i o Gymru, yn hytrach na chael ein rhybuddio gan fyd natur, rydym yn dathlu cynnydd; rydym mor agos at gyrraedd nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y gall pawb deimlo’r gwahaniaeth. Fe ALLWN gadw’r addewidion a wnaethom i’n plant ac i blant ein plant wrth gyflwyno ein deddfwriaeth arloesol.

Ond ni ddaw’r dyfodol hwnnw trwy ddamwain, ac mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn dangos y gwir yn blaen i ni o ran ein huchelgais i adael y byd mewn cyflwr gwell. Mae’r data’n cynnig gwybodaeth hanfodol ynghylch statws ein llesiant: beth sydd ddim yn gweithio, a beth sydd raid i ni ei wneud i sicrhau rhagolygon gwell.

Fel fy adroddiad innau, Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, a lansiwyd ym mis Ebrill 2025, mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol wedi’i gynllunio i gefnogi gwleidyddion ac arweinwyr cyrff cyhoeddus i wneud bywyd yn well i bobl ac i’n planed, nawr ac yn y dyfodol. Dylai’r nod hwnnw fod o bwys i bob plaid wleidyddol wrth i Gymru bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

Bydd y genedl gyfan yn cael ei barnu, gyda chraffu cynyddol, bob dydd sy’n mynd heibio, ar yr addewid a wnaethom yn ôl yn 2015: gweithio gyda’n gilydd tuag at gydweledigaeth o Gymru iachach, fwy ffyniannus a mwy cyfartal, â diwylliant bywiog ble mae’r Gymraeg yn ffynnu, a hynny oll wedi’i gefnogi gan ecosystemau gwydn sy’n cynnal ein ffordd o fyw.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi ffordd i ni ymateb i’r problemau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn. Nid ydym yn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rydym yn eu defnyddio’n gyflymach nag y gallant ymadfer. Mae’r canlyniadau eisoes yn enbyd: llifogydd yn ein trefi, salwch sy’n gysylltiedig â gwres, afonydd llygredig, cân adar yn lleihau, a phrisiau bwyd yn codi. Nid problemau amgylcheddol ynysig yw’r rhain. Maent yn datgelu methiannau yn ein systemau sy’n niweidio ein heconomi, ein seilwaith a’n gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r pwysau hyn yn cael eu teimlo fwyaf gan y bobl sydd eisoes yn wynebu’r heriau mwyaf, a hynny’n ehangu anghydraddoldebau a chronni costau uwch ar gyfer y dyfodol. Pan fo natur wedi dirywio, mae ansawdd bywyd yn gostwng, ac mae gallu natur i glustogi ein heffeithiau negyddol a darparu’r hyn y mae ei angen arnom yn gwanhau.

Ond mae dyfodol gwell o fewn cyrraedd, ac mae’n un y mae’n rhaid i ni ei adeiladu gyda’n gilydd.

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn ddeunydd darllen hanfodol i Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun, ond hefyd i economegwyr, cynllunwyr ariannol, rheolwyr tir, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweinidogion, a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Mae’r ysgogiadau cryfaf ar gyfer newid i’w cael o fewn y penderfyniadau a wnawn ar draws meysydd polisi cyhoeddus, buddsoddi a chyflawni, nid yn unig o fewn y sector amgylcheddol.

Mae’r systemau hyn yn dylanwadu mewn ffyrdd hanfodol ar allyriadau, defnydd o adnoddau a phwysau amgylcheddol, ond mae eu dylanwad ar iechyd, fforddiadwyedd a thegwch yn aruthrol hefyd. Os cânt eu hailddylunio’n dda, gyda’r momentwm y mae ein dyfodol yn ei haeddu, gallant ddiwallu anghenion Cymru fel y gall ein pobl ffynnu.

Mae Cymru wedi cymryd camau a gydnabyddir yn fyd-eang drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru). Mae eu gwerth yn dilyn o’r modd y cânt eu cyflawni: penderfyniadau, cyllidebau a chymhellion cyson sy’n cyd-fynd â chanlyniadau. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gydweithio, gweithredu’n ataliol, a gweithio ar gyfer y tymor hir, gan ddarparu fframwaith ar y cyd ar gyfer newid ledled Cymru.

Ni allwn barhau i anwybyddu’r cysylltiadau clir rhwng byd natur, iechyd pobl a sefydlogrwydd economaidd. Mae adfer byd natur yn llythrennol yn fater o fyw neu farw, ac mae gan bawb ei ran i’w chwarae.

Mae’r briff hwn yn cynnig canllawiau ymarferol i lunwyr polisi a’r rhai sy’n creu lleoedd i gyflymu’r ddarpariaeth nawr, trwy weithredu ar frys ar y systemau sy’n siapio bywyd bob dydd, a thrwy greu’r amodau ar gyfer newid sy’n para.

Derek Walker

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Gwneud i fywyd bob dydd weithio – i bobl ac i fyd natur

Dychmygwch Gymru ble mae pob cartref yn gynnes ac yn fforddiadwy i’w gynhesu, ble mae bwyd iach yn hawdd i’w gael ac yn fforddiadwy i bawb, a ble nad yw symud o un lle i’r llall yn golygu eistedd mewn traffig nac anadlu aer llygredig.

I lawer o bobl yng Nghymru, mae’r weledigaeth hon ymhell o fod yn realiti.

Ar hyn o bryd, mae gormod o deuluoedd yn byw mewn cartrefi oer sy’n costio gormod i’w gwresogi. Mae eraill yn methu â fforddio bwyd maethlon, tra bo’r system fwyd fyd-eang yn rhoi pwysau ychwanegol ar y tir a’r dŵr ac yn cyfrannu at lygredd a phroblemau iechyd. O ran trafnidiaeth, mae ein dibyniaeth ar geir yn ein maglu mewn tagfeydd a llygredd, tra bod aelwydydd heb gar wedi’u hynysu.

Gall newid y ffordd y mae’r systemau hyn yn gweithio newid y stori – i bobl ac i fyd natur. Dychmygwch filiau is, cymunedau iachach, gwell gwydnwch, a mynediad tecach at bethau hanfodol bywyd, a hynny oll wrth leddfu’r pwysau ar fyd natur.

Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn egluro’r heriau sydd o’n blaenau sy’n ein hatal rhag cyflawni’r newid hwn, a beth mae hynny’n ei olygu o ran ein llesiant.

Mae’r Pum Pont i’r Dyfodol yn cynnig cipolwg ar yr hyn a allai fod yn bosibl yn y dyfodol.

Maen nhw’n dangos sut gallwn leddfu’r pwysau’n sylweddol ar ein hamgylchedd ar yr un pryd â gwella ansawdd bywyd a meithrin ffyniant hirdymor i’n cymunedau – Cymru ble mae ein ffordd o fyw yn gweithio’n well i ni ac i fyd natur.

Er mwyn cyflawni cynaliadwyedd go iawn, mae angen i ni feddwl y tu hwnt i ddatrysiadau brys. Mae a wnelo hyn ag ailddylunio’r systemau sy’n siapio’n bywydau, fel eu bod yn diwallu ein hanghenion heb niweidio gwe fregus bywyd, y we y mae pob un ohonom yn dibynnu arni.

Pam mae ailddylunio systemau o bwys nawr

Mae Cymru wedi cyflawni llawer yn y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi adfywio mawndiroedd, wedi glanhau hen fwyngloddiau metel, wedi cryfhau’r rheolau sy’n cadw ein haer yn lân, ac rydym ar flaen y gad yn fyd-eang o ran ailgylchu. Mae’r llwyddiannau hyn yn dangos beth sy’n bosibl pan fyddwn yn canolbwyntio ac yn gweithio gyda’n gilydd.

Ond mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn dangos y gwir yn blaen i ni: nid yw’r llwyddiannau hyn, er mor bwysig, gyda’i gilydd eto wedi arwain at gynaliadwyedd gwirioneddol. Mae ein hôl troed o ran y defnydd o adnoddau yn dal i fod yn llawer uwch na’r hyn sy’n ddiogel. Mae natur dan bwysau, ac mae gwydnwch ein hecosystemau yn dal i ddirywio.

Nid her i unrhyw un maes unigol yw hon – mae wedi’i phlethu drwy’r ffordd mae ein systemau’n gweithio. Ers degawdau, mae gweithredu dros yr amgylchedd wedi bod yn digwydd mewn meysydd digyswllt, gan fynd i’r afael â phroblemau ynni yma a phroblemau trafnidiaeth acw. Ond does dim modd stwffio’r pwysau sydd o’n blaenau i focsys twt. Maen nhw’n torri ar draws popeth: y bwyd rydym yn ei fwyta, y cartrefi rydym yn byw ynddynt, y tir rydym yn ei ddefnyddio, a’r adnoddau rydym yn eu defnyddio.

Ystyriwch lygredd afonydd, er enghraifft. Mae rheolau a gorfodaeth yn bwysig, ond nid yw’r broblem yn dechrau nac yn gorffen wrth lan yr afon. Mae’n cael ei siapio gan arferion ffermio, cadwyni cyflenwi bwyd, y cynnydd mewn tai, a degawdau o benderfyniadau buddsoddi. Gall bod yn fwy llym o ran trwyddedau gollwng dŵr heb wella dulliau rheoli’r tir wneud dim mwy na gwthio’r broblem i fyny’r afon. Mae canolbwyntio’n unig ar gydymffurfiaeth yn ein gwneud yn ddall i’r cyd-destun ehangach – y marchnadoedd, y dewisiadau caffael, a’r ymddygiadau sy’n arwain at y canlyniadau.

Mae dull systemau yn rhoi’r cyd-destun ehangach hwnnw i ni. Mae gwella iechyd afonydd yn golygu alinio meysydd polisi defnydd tir, cefnogaeth i ffermwyr, caffael bwyd, buddsoddiadau dŵr gwastraff, a chynllunio dalgylchoedd o amgylch nodau cyffredin.8 Mae’n golygu gwneud dewisiadau clir a rheoli cyfaddawdau, a hynny wedi’i gefnogi gan strategaethau integredig sy’n seiliedig ar le.

Mae’r angen am newid yn glir:

  • Mae’r defnydd o adnoddau yn fyd-eang wedi treblu yn y 50 mlynedd diwethaf ac mae disgwyl iddo gynyddu 60% eto erbyn 2060.
  • Mae’r defnydd o adnoddau yn achosi tua hanner yr allyriadau nwyon tŷ gwydr yn fyd-eang a’r rhan fwyaf o’r colledion i fioamrywiaeth.

Efallai bod ôl troed amgylcheddol Cymru dramor wedi sefydlogi mewn rhai meysydd, ond mae’r llwyddiannau hyn yn fregus. Mae effeithlonrwydd yn helpu, ond mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn dangos na fydd yn cyflawni newid i’r graddau y mae ei angen os yw’r systemau eu hunain yn dal i greu pwysau newydd.

Y casgliad? Nid yw mân newidiadau yn ddigon. Er mwyn sicrhau llesiant o fewn terfynau amgylcheddol, mae angen i ni ailddylunio’r systemau sy’n siapio ein bywydau.

Mae gan Gymru’r offer i arwain

Nid yw Cymru yn dechrau o’r dechrau. Mae gennym seiliau cadarn eisoes. Cyflwynodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) weledigaeth glir: dylai penderfyniadau ystyried y tymor hir, atal problemau cyn iddynt ddigwydd, a dod â phobl ynghyd – llywodraeth, cymunedau a dinasyddion – i greu dyfodol gwell.

Nid diffyg deddfau na phwerau yw’r her – yr her yw sut i’w defnyddio.

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn cynnig y dystiolaeth y mae ei hangen o’r cyd-destun ehangach i ni ddeall sut mae ein systemau’n gweithio a ble mae angen iddynt newid. Mae’n llywio’r Polisi Adnoddau Naturiol sy’n ffrydio llesiant amgylcheddol i bob rhan o’r llywodraeth, ac yn cysylltu dulliau seiliedig ar sector yn strategaethau ehangach sy’n mynd i’r afael â phroblemau cymhleth. Ar lefel leol, mae Datganiadau Ardal, wedi’u cysylltu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, yn rhoi llwyfan hyblyg, seiliedig ar le, i ni brofi syniadau newydd a dysgu beth sy’n gweithio.

Ble mae pwysau a chyfle’n cwrdd

Bob dydd, rydym yn dibynnu ar systemau sy’n siapio sut rydym yn byw – beth rydym yn ei fwyta, sut rydym yn pweru ein cartrefi, sut rydym yn teithio, a’r lleoedd rydym yn eu hadeiladu. Mae’r systemau hyn, ein ‘systemau llesiant’, yn gwneud bywyd yn bosibl. Ond nhw hefyd sy’n achosi’r rhan fwyaf o’r pwysau ar fyd natur: gyda’n defnydd o’r tir a’r môr yn arwain at allyriadau, llygredd a gwastraff.

Fodd bynnag, nid dim ond tarddiad y broblem yw’r systemau hyn – nhw yw’r allwedd hefyd. O’u hailddylunio, gallwn leihau’r pwysau yn y tarddle, gan wneud bywyd yn decach, yn iachach, ac yn fwy fforddiadwy i bawb.

Mae dulliau traddodiadol yn aml yn canolbwyntio ar rannau caled, ffisegol y systemau hyn – ein ffyrdd, ein gorsafoedd ynni, ein datblygiadau tai. Mae’r rhain yn bwysig, ond ar ôl eu hadeiladu, maen nhw’n araf ac yn gostus i’w newid. Mae’r pŵer go iawn yn gorwedd yn elfennau meddalach y system – y rheolau a’r cymhellion sy’n llywio ymddygiad, y prisiau a’r cymorthdaliadau sy’n llywio dewisiadau, y trefniadau mynediad sy’n pennu pwy sy’n elwa, a’r normau cymdeithasol sy’n dylanwadu ar yr hyn a ystyriwn yn “fywyd da”.

Gall yr elfennau meddalach hyn newid yn gyflymach – drwy gyfrwng polisi, rheoleiddio, caffael ac arweinyddiaeth. Drwy eu newid, gallwn leihau’r galw a’r pwysau yn y tarddle, gwella tegwch, a sicrhau canlyniadau gwell o’r seilwaith sydd gennym eisoes, ar yr un pryd â chynllunio ar gyfer newidiadau tymor hirach.

Fel dywed y Cenhedloedd Unedig: “Ni fydd gwelliannau graddol o fewn y systemau presennol yn ddigon i sicrhau cynaliadwyedd.”

Mae dull systemau, ynghyd ag arweinyddiaeth sy’n cysylltu’r cydrannau system meddalach hyn ar draws systemau bwyd, ynni, symudedd a’r amgylchedd adeiledig, yn galluogi Cymru i fynd i’r afael â’n heriau mawr, cydgysylltiedig ar y raddfa gywir.

Mae fframwaith y Pum Pont i’r Dyfodol yn darparu’r ysgogiadau ar gyfer newid y mae eu hangen arnom, ac yn fan cychwyn ar gyfer arweinyddiaeth feiddgar a chydgysylltiedig. Maent yn cynnig ffyrdd ymarferol o droi tystiolaeth yn weithredu, cau’r bwlch rhwng polisi a bywyd bob dydd, alinio blaenoriaethau cenedlaethol â chyflawni’n lleol, ac yn gwahodd pob sector i’r ford gron i chwarae ei ran.

A fo ben, bid bont


Bendigeidfran gan Margaret Jones – Llyfrgell Genedlaethol Cymru ©

Yn nhraddodiad Cymru, mae Bendigeidfran yn rhoi ei hun i orwedd fel pont er mwyn i eraill gael croesi. Mae’n ddelwedd bwerus – ac yn un sy’n dal i atseinio drwy ein hoes ni.

Mae arweinyddiaeth fodern yn golygu mwy na rhoi gorchmynion; mae’n golygu creu llwybrau ble na fu rhai gynt, sefyll yn gadarn mewn ansicrwydd, a helpu pawb i symud ymlaen gyda’i gilydd.

Y cysyniad hwn sy’n sail i’r Pum Pont i’r Dyfodol.

Gyda’i gilydd maent yn system ddysgu – yn cynnig arweiniad i weithredu, profi syniadau’n ymarferol, a defnyddio tystiolaeth a phrofiad i addasu a gwella. Mae pob ‘Pont’ yn annog llunwyr polisi a llunwyr lle i feddwl yn gyfannol a dylunio datrysiadau sy’n cefnogi nodau llesiant lluosog.

Y Pum Pont i’r Dyfodol

Sut gall y Pum Pont helpu llunwyr penderfyniadau i gyflawni ar raddfa fawr?

Nid yw’r ysgogiadau pwerus ar gyfer newid bob amser y rhai mwyaf gweladwy. Ar wahân i’r rhai amlwg yn ymwneud â’r seilwaith a thechnoleg, yr elfennau meddalach – y rheolau, y cymhellion, y safonau a’r normau cymdeithasol – sy’n dylanwadu’n dawel ar sut caiff anghenion bob dydd eu diwallu.

Mae tystiolaeth yn dangos nad oes rhaid i lesiant fod ar draul y blaned. Mae rhai gwledydd yn llwyddo i sicrhau ansawdd bywyd tebyg gan ddefnyddio un rhan o bump o’r adnoddau. Mae hyn yn profi nad yw pwysau amgylcheddol yn anorfod, ond yn hytrach eu bod yn cael eu siapio gan ddewisiadau o ran dyluniad y system. Drwy ailystyried sut rydym yn cynllunio, yn rheoleiddio ac yn buddsoddi, gallwn greu systemau llesiant sy’n cyflawni’r un canlyniadau gyda llawer llai o ofynion ar fyd natur.

Mae’r Pum Pont yn darparu’r fframwaith i wneud y newid hwn, gan ein helpu i ddylunio dyfodol ble mae cymunedau ffyniannus ac ecosystemau iach yn mynd law yn llaw.

Pont 1 – Ailddylunio systemau dydd-i-ddydd

Pont 1 yw dechrau’r daith: lleihau’r galw yn y systemau rydyn ni’n eu defnyddio o ddydd i ddydd.

Yn aml, bydd y newidiadau mwyaf pwerus yn dechrau gyda chwestiynau syml – sut i ddylunio ein trefi, ein cartrefi, ein trafnidiaeth a’n systemau bwyd fel eu bod yn gweithio’n well i bobl a byd natur?

Mewn lleoedd cryno, â chysylltiadau da, mae llai o ddibyniaeth ar geir a llai o ddefnydd ar ynni. Mae ôl-osod ar raddfa fawr yn gostwng tlodi tanwydd ac allyriadau. Mae systemau bwyd cynaliadwy yn adfer y pridd ac yn lleihau llygredd.

Mae’r cynnydd yn dibynnu ar alinio meysydd cynllunio, buddsoddi a rheoleiddio o amgylch canlyniadau cyffredin, a gwneud dewisiadau dydd-i-ddydd yn haws i bawb.

Sylfeini i adeiladu arnynt:

  • Rhaglen Ôl-osod wedi’i Hoptimeiddio: darparu cartrefi cynnes carbon isel gan gefnogi cadwyni cyflenwi lleol.
  • Deddf Teithio Llesol: gwneud cerdded a beicio yn ddewis diofyn ar gyfer teithiau byr, gan wella iechyd ac ansawdd yr aer.

Pont 2 – Adfer byd natur fel seilwaith

Mae lleihau’r pwysau yn y tarddle yn hanfodol, ond nid yw’n ddigon. Mae angen i ni hefyd ailadeiladu’r ecosystemau sy’n hanfodol i’n gwydnwch a’n llesiant.

Mae Pont 2 yn trin natur fel seilwaith hanfodol. Mae hynny’n golygu ei chynllunio, ei hariannu a’i rheoli gyda’r un bwriad hirdymor â ffyrdd neu systemau ynni, gan flaenoriaethu atal, cydlynu ar draws sectorau, a chefnogi stiwardiaeth trwy gyfrwng cymhellion a phartneriaethau.

Mae adfer ecosystemau yn cryfhau sicrwydd dŵr, iechyd y pridd, bioamrywiaeth, a gwydnwch yn wyneb newid hinsawdd. Mae Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn yn ailgysylltu cynefinoedd fel eu bod yn gweithio fel systemau, nid fel safleoedd ynysig, gan ymgorffori adferiad byd natur mewn gwaith cynllunio, amaethyddiaeth, rheoli perygl llifogydd a buddsoddi. Mae tystiolaeth yn dangos bod y dull hwn yn lleihau costau yn y dyfodol ac yn sicrhau buddion cyhoeddus lluosog, gan ei wneud yn un o’r buddsoddiadau mwyaf cost-effeithiol y gallwn eu gwneud.

Sylfeini i adeiladu arnynt:

  • Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn: symud y tu hwnt i safleoedd ynysig i ddylunio ar raddfa system ar gyfer buddion i fioamrywiaeth, llifogydd a’r hinsawdd.
  • Coedwig Genedlaethol Cymru: creu coetiroedd cydgysylltiedig sy’n cefnogi bioamrywiaeth, gwydnwch yn wyneb newid hinsawdd, a llesiant cymunedau.

Pont 3 – Meithrin economi adfywiol

Er mwyn lleihau pwysau amgylcheddol, mae angen mwy nag effeithlonrwydd – mae angen economi sy’n adfer wrth iddi dyfu. Heddiw, mae economi Cymru yn dibynnu’n helaeth ar ddefnydd uchel o ddeunyddiau, gan ein gadael yn fregus yn wyneb costau uwch a sioc yn y gadwyn gyflenwi.

Mae economi adfywiol yn troi’r model hwn ar ei ben. Mae’n trin asedau naturiol, deunyddiau a sgiliau fel adnoddau i’w cynnal, i’w hailddefnyddio ac i’w hadfywio. Mae caffael cyhoeddus, buddsoddi, a rheolau’r farchnad yn ysgogiadau pwerus – oherwydd mae’r hyn rydym yn ei adeiladu, yn ei brynu, ac yn buddsoddi ynddo heddiw yn siapio’r galw am ddegawdau i ddod.

Gall dylunio cylchol, atgyweirio, ailddefnyddio, a deunyddiau carbon isel fel pren leihau ein hôl troed o ran deunyddiau yn sylweddol ar yr un pryd â chadw gwerth mewn cymunedau lleol. Mae alinio sgiliau a chadwyni cyflenwi â’r blaenoriaethau hyn yn sicrhau bod y trawsnewidiad yn cyflawni manteision amgylcheddol ac economaidd.

Sylfeini i adeiladu arnynt:

  • Cartrefi o Bren Lleol: yn defnyddio pren o Gymru a chadwyni cyflenwi lleol i greu cartrefi carbon isel a storio carbon yn yr amgylchedd adeiledig.
  • Rhaglen Gaffael Gylchol Amsterdam: yn ymgorffori egwyddorion cylchol mewn penderfyniadau prynu sylweddol, gan leihau gwastraff ac ysgogi marchnadoedd lleol.

Pont 4 – Ailalinio llywodraethu ar gyfer y tymor hir

Mae newid hirhoedlog yn fwy na mater o beth rydym yn ei adeiladu neu ei adfer – mae’n fater o sut caiff penderfyniadau eu gwneud a’u cynnal dros amser. Pan fydd llywodraethu’n dameidiog, cyllidebau’n fyrdymor a pholisïau’n ddigyswllt, gall hyd yn oed gweithredoedd da eu bwriad weithio yn erbyn ei gilydd.

Mae Pont 4 yn canolbwyntio ar alinio rheolau, cymhellion a gwneud penderfyniadau ar draws systemau. Mae’n golygu cysylltu blaenoriaethau cenedlaethol â chyflawni’n lleol, rheoli cyfaddawdau’n dryloyw, ac ymgorffori meddwl hirdymor mewn prosesau dydd-i-ddydd. Heb alinio, gall gweithredoedd da eu bwriad wrthdaro; er enghraifft, gall datblygu ynni adnewyddadwy beryglu adferiad mawndiroedd, er bod y ddau yn anelu at nodau hinsawdd.

Mae gan Gymru fframwaith statudol cryf eisoes ar gyfer meddwl hirdymor. Yr her yw ei roi ar waith yn gyson ar draws meysydd polisi, cynllunio a buddsoddi. Gall defnyddio cylchoedd dysgu fel yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, Polisi Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal helpu i alinio blaenoriaethau ac atal penderfyniadau mewn un sector rhag tanseilio’r rhai mewn un arall.

Sylfeini i adeiladu arnynt:

  • Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi’u hategu gan Ddatganiadau Ardal: alinio blaenoriaethau ar gyfer yr amgylchedd, iechyd, tai a’r economi drwy lwyfannau ar y cyd.
  • Bil yr Amgylchedd: ymgorffori egwyddorion amgylcheddol mewn llunio polisi a chryfhau llywodraethu ar gyfer adfer byd natur.

Pont 5 – Cyflawni trawsnewidiad teg

Mae newid system yn fwy na mater o beth rydym yn ei adeiladu neu’n ei adfer – mae’n fater o bwy sy’n elwa, pwy sy’n cymryd rhan, a phwy sy’n dwyn y costau. Pan na chaiff tegwch sylw teg, caiff trawsnewidiadau cynaliadwyedd eu llesteirio, maen nhw’n achosi gwrthwynebiad, neu’n dyfnhau anghydraddoldeb. Yn yr ystyr hwn, mae tegwch yn fath o seilwaith cymdeithasol – yr ymddiriedaeth, y gallu, a’r berchnogaeth ar y cyd sy’n gwneud i newid bara.

Nid yw risgiau amgylcheddol wedi’u rhannu’n gyfartal. Mae rhai cymunedau’n wynebu mwy o lygredd, llifogydd a thai gwael tra bo’u dylanwad ar benderfyniadau yn llai. Mae trawsnewidiad teg yn golygu buddsoddiadau pwrpasol mewn cyfranogiad, sgiliau a galluoedd lleol fel bod pobl yn bartneriaid gweithredol mewn newid.

Mae’r gallu i ragfynegi a chyd-ddylunio yn arbennig o hanfodol mewn ardaloedd gwledig, ble mae cysylltiad agos rhwng y tir ar y naill law a bywoliaeth a hunaniaeth ddiwylliannol ar y llaw arall. Mae ymgorffori cyfiawnder mewn polisi, sicrhau mynediad at fuddion fel cartrefi cynnes, aer glân a swyddi da, a galluogi perchnogaeth gan gymunedau yn meithrin ymddiriedaeth ac yn lleihau gwrthdaro. Pan gaiff cyfranogiad a gwerth ar y cyd eu hymgorffori o’r cychwyn cyntaf, mae trawsnewidiadau’n dod yn fwy hirhoedlog, dilys ac effeithiol.

Sylfeini i adeiladu arnynt:

  • Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol: meithrin sgiliau arwain ar gyfer meddwl yn yr hirdymor a chydweithio ar draws sectorau.
  • Mentrau dan arweiniad y gymuned fel Awel Aman Tawe a GwyrddNi: yn dangos sut mae perchnogaeth leol dros ynni, bwyd a gweithredu ar yr hinsawdd yn cryfhau ymddiriedaeth a gwydnwch ar yr un pryd â chadw gwerth mewn cymunedau.

Croesi’r pontydd gyda’n gilydd

Ni all Cymru gyflawni ei hamcanion llesiant drwy gyfrwng prosiectau digyswllt na datrysiadau tymor byr. Daw’r pwysau ar fyd natur a chymdeithas o’r systemau sy’n siapio ein bywydau beunyddiol – ac o’r dewisiadau, y rheolau a’r buddsoddiadau sy’n eu llywio.

Mae’r Pum Pont yn cynnig mwy na fframwaith; maent yn llwybr i drawsnewidiad. Gyda’i gilydd, maen nhw’n dangos sut gallwn leihau’r pwysau yn y tarddle, adfer natur fel seilwaith hanfodol, adfywio’r economi, ailalinio llywodraethu ar gyfer y tymor hir, a sicrhau bod y newid yn deg ac yn gynhwysol. Fe’u dyluniwyd fel system ddysgu – gan helpu Cymru i brofi syniadau, rhannu gwersi, a rhoi’r hyn sy’n gweithio ar waith yn ehangach.

Nawr yw’r amser i droi uchelgais yn realiti. Mae hynny’n golygu alinio strategaethau, cyllidebau a chyflawniad o amgylch nodau ar y cyd, gwneud cyfaddawdau’n dryloyw, a gweithredu’n feiddgar ar bob graddfa – o gymunedau lleol i gadwyni cyflenwi cenedlaethol.

Helpodd Cymru yn natblygiad y chwyldro diwydiannol cyntaf. Heddiw, gallwn helpu i arwain y nesaf: chwyldro o adfywiad – model o ffyniant ble mae cymunedau ffyniannus ac ecosystemau iach yn mynd law yn llaw. Mae’r Pontydd yn dangos y ffordd ymlaen.

Dyma amser Cymru i arwain. Nid drwy adeiladu waliau, ond drwy godi pontydd tuag at ddyfodol ble mae byd natur a phobl yn ffynnu law yn llaw.

Awduron: Russell Elliott a Fen Turner

Dull cyfeirio:
Cyfoeth Naturiol Cymru, Adroddiad ar Sefyllfa Adnodddau Naturiol (SoNaRR 2025), Rhagfyr 2025, CNC, Caerdydd

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Diweddarwyd ddiwethaf