Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon
Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am fynd i’r afael ag achosion o dipio anghyfreithlon ar raddfa fach ar dir cyhoeddus, gan gynnwys ffyrdd a chilfannau.
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu drwy wefan Taclo Tipio Cymru.
Rhoi gwybod am achos difrifol o dipio anghyfreithlon
Rydym ni’n ymchwilio i achosion o dipio anghyfreithlon ar raddfa fawr (hynny yw, rhai sy’n golygu mwy na llwyth lori yn unig), achosion o daflu gwastraff peryglus a gangiau sy’n tipio’n anghyfreithlon – a all fod yn beryglus i iechyd pobl a niweidio’r amgylchedd.
Os gwelwch chi achos llawer mwy difrifol o dipio anghyfreithlon, ewch i'n tudalen Rhowch Wybod i ddarganfod sut.
Taclo Tipio Cymru
I wybod sut i gael gwared ar sbwriel yn ddiogel, yn gyfreithlon a chyfrifol, ewch i wefan Taclo Tipio Cymru.
Mae Taclo Tipio Cymru, menter wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chydlynu gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.
Mae’n cynnwys hanner cant o bartneriaid gan gynnwys y 22 awdurdod lleol, yr heddlu a’r gwasanaethau tân cenedlaethol, undeb yr NFU a llawer mwy.