Diben y Parth Cadwraeth Forol, sy’n rhan o rwydwaith o amryw fathau o Ardaloedd Morol Gwarchodedig, yw diogelu holl amrywiaeth y bywyd morol.

Seal on Skomer

Sefydlwyd Sgomer, PCF cyntaf Cymru, yn 2014, ac fe’i ceir yng nghyffiniau Ynys Sgomer a Phenrhyn Marloes yn Sir Benfro. Cyn 2014 bu’r ardal yn unig Warchodfa Natur Forol Cymru am 24 blynedd.

Mae gan PCF Sgomer rywogaethau a chynefinoedd o bwys rhyngwladol. Mae’r rhain yn cynnwys y morlo llwyd, y môr-wyntyll pinc, cymunedau sbyngau, gwellt y gamlas a chymunedau algaidd.

Is-ddeddfau PCF Sgomer

Mae gan PCF Sgomer is-ddeddfau dan ddeddfwriaeth gwarchod natur. Mae’r rhain yn cyfyngu ar weithgareddau megis gadael sbwriel a chymryd, lladd neu darfu ar fywyd gwyllt.

Mae cyfyngiad cyflymder o 5 milltir forol yr awr o fewn 100 metr o’r lan. Mae’r Warchodfa hefyd yn elwa o is-ddeddfau penodol yn gwahardd defnyddio gêr pysgota symudol (tynrwydau a threillrwydau), a chymryd rhai rhywogaethau penodol o gregyn bylchog mewn unrhyw fodd.

Ymweld â Pharth Cadwraeth Morol Sgomer

Gallwch gyrraedd y Parth Cadwraeth Morol ar gwch neu dros y tir i Martins Haven.

Ceir yno ganolfan arddangos forol, a gaiff ei rhedeg gan CNC, ynghyd â thoiledau a maes parcio mawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Martins Haven. Bydd cychod rheolaidd yn gadael y fan hon i ynysoedd Sgomer a Sgogwm ac yn mynd trwy’r Parth Cadwraeth Morol.

  • Gall ymwelwyr archwilio ymyl y traeth ar droed (ceir hawl mynediad ar droed at ymyl y traeth rhwng marc penllanw a marc distyll y Parth Cadwraeth Morol ar y tir mawr ac o amgylch Sgomer)
  • Gall cychod preifat fynd i ddyfroedd y Parth Cadwraeth Morol (ni chaniateir angori ond yn South Haven ac mewn rhannau arbennig o North Haven ar Ynys Sgomer)
  • Mae deifio yn y Parth Cadwraeth Morol yn cael ei ganiatáu

Mae’r holl weithgareddau’n amodol ar godau ymddygiad gwirfoddol yn ogystal â’r is-ddeddfau a grybwyllir uchod.

Beth am ddarganfod mwy am ymweld â Pharth Cadwraeth Morol Sgomer.

Rheoli cadwraeth

Mae yna gynllun rheoli ar gyfer y safle ynghyd â map parthau cysylltiedig, sy’n dangos y mannau hynny lle cyfyngir neu y gwaherddir gweithgareddau gan is-ddeddfau a chodau ymddygiad.

Monitro biolegol organebau gwely’r môr yw’r rhan fwyaf o’r gwaith ar y PCF, ond mae rheoli gweithgaredd pobl fel ei fod yn unol â darpariaethau’r map parthau, hefyd â rhan bwysig. Mae staff yn darparu ac yn cynnal bwiau marcio ac angorfeydd ymwelwyr sydd wedi’u lleoli’n ofalus er mwyn hwyluso hyn, yn ogystal â chysylltu’n agos â defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill.

Mae gan y PCF bwyllgor ymgynghorol sy’n cyfarfod yn flynyddol, ac yn cynnwys 40 o unigolion a chyrff sydd â diddordeb yn yr ardal.

Arolygu ac ymchwil

Mae rhaglen ymchwil ac arolygu eang sy’n amcanu ehangu ein gwybodaeth a’n hamgyffrediad o rywogaethau, cymunedau a chynefinoedd y PCF, a chynhyrchir adroddiad crynodol blynyddol ac adroddiadau gwyddonol blynyddol. Anogir a chefnogir ymchwil annistrywiol gan drydydd partïon, a chynhelir cysylltiadau â sawl sefydliad academaidd.

Diweddarwyd ddiwethaf