Prynu trwydded pysgota â gwialen
Mae’r adran hon yn egluro sut i brynu eich trwydded pysgota â gwialen

Pryd fydd angen trwydded pysgota â gwialen arnaf i?
Bydd angen trwydded pysgota â gwialen ddilys arnoch chi os ydych yn 12 oed neu’n hŷn, ac yn pysgota eog, brithyll, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod yng Nghymru, Lloegr (ac eithrio’r afon Tweed) ac ardal gororau Esk yn yr Alban.
- Mae Trwyddedau iau (13-16 oed) AM DDIM ond mae’n rhaid i chi gofrestru
- Mae consesiynau hŷn (65 oed a hŷn) ac anabl ar gael (gweler isod)
Gallwch gael trwydded anabl os oes gennych Fathodyn Glas, neu os ydych yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol.
Mae’n rhaid i chi gario eich trwydded pysgota â gwialen bob tro rydych yn pysgota neu gallwch wynebu erlyniad a chael eich dirwyo hyd at £2,500.
Sut gallaf brynu trwydded pysgota â gwialen?
- Gallwch brynu eich trwydded ar-lein www.gov.uk/get-a-fishing-licence
- Yn eich Swyddfa Bost leol
- Dros y ffôn (nid yw’r gwasanaeth yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd) – ffoniwch Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0344 800 5386 (i ddarganfod mwy am gost y galwadau)
Rydym yn ymwybodol bod rhai gwefannau yn cynnig prynu neu wirio ceisiadau am drwydded ar eich rhan. Mae cael eich trwydded yn uniongyrchol o GOV.UK yn rhatach, yn gyflymach ac yn llawer symlach. Cymerwch ofal ychwanegol wrth ddefnyddio peiriant chwilio na fyddwch chi'n mynd i safleoedd gwerthu eraill.
Llinellau ar agor:
1 Mawrth hyd at 30 Mehefin, Unrhyw ddiwrnod (gan gynnwys gwyliau’r banc), 8am tan pm 1 Gorffennaf hyd at 28 Chwefror, dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm (ddim ar agor ar wyliau’r banc).
Prisiau a chynhyrchion trwydded gwialen (1 Ebrill 2020 tan 31 Mawrth 2021)
Categori’r Drwydded |
Math o drwydded |
Toll |
Cynhyrchion |
Bras a Brithyll |
Llawn |
£30 |
Trwydded 365 diwrnod |
|
Llawn (ar gonsesiwn) hŷn ac anabl |
£20 |
|
|
Tymor byr 1 diwrnod |
£6 |
Dewis o uwchraddio i drwydded lawn 365, gan eithrio cost yr 1 neu 8 diwrnod |
|
Tymor byr 8 diwrnod |
£12 |
|
|
Iau (13-16 oed) |
Am ddim |
Trwydded iau am ddim |
|
Trwydded 3 gwialen |
£45 |
Trwydded 365 diwrnod. |
|
Trwydded 3 gwialen (ar gonsesiwn) |
£30 |
Trwydded 365 diwrnod. |
Eog a Sewin |
Llawn |
£82 |
Trwydded 365 diwrnod |
|
Llawn (ar gonsesiwn) hŷn ac anabl |
£54 |
|
|
Tymor byr 1 diwrnod |
£12 |
Dewis o uwchraddio i drwydded lawn 365, gan eithrio cost yr 1 neu 8 diwrnod |
|
Tymor byr 8 diwrnod |
£27 |
|
|
Iau (13-16 oed) |
Am ddim |
Trwydded iau am ddim |
Cwsmeriaid o dramor
Gallwch brynu trwydded ar-lein cyn i chi ymweld â Chymru. Rhaid i chi gadw eich e-bost cadarnhad a’i gadw gyda chi pan fyddwch yn pysgota. Fel arall, bydd angen i chi brynu trwydded pan fyddwch yn cyrraedd Cymru. Dylai’r drwydded nodi’r cyfeiriad yr ydych yn aros ynddo tra ar eich ymweliad.
Mae’r incwm a gasglwyd yng Nghymru gan werthiant trwyddedau gwialen bysgota (oddeutu £1 miliwn yn 2019) yn cynorthwyo ariannu’r gwasanaeth Pysgodfeydd rydym yn ei gynnig i bysgotwyr yng Nghymru.
Is-ddeddfau genweirio (rheolau pysgota)
Wrth bysgota dŵr croyw, mae'n rhaid i chi ddilyn yr is-ddeddfau (rheolau) hyn.