Y Cynllun Masnachu Allyriadau a Chyfleoedd Arbed Ynni

Masnachu allyriadau

Dull o reoli llygredd sy'n seiliedig ar y farchnad yw masnachu allyriadau drwy ddarparu buddion economaidd ar gyfer lleihau allyriadau llygryddion.

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Gwnaeth Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ddisodli cyfranogiad y DU yn System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 2021 o ganlyniad i ymadael â’r UE. Mae'n gynllun cyfwerth â System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd, lle mae'r holl swyddogaethau a oedd yn cael eu gwneud yn wreiddiol gan yr Undeb Ewropeaidd bellach wedi cael eu trosglwyddo i adrannau'r llywodraeth yn y DU.

Mae'n berthnasol i'r holl osodiadau a oedd yn rhan o System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd.

Mynnwch fwy o wybodaeth am sut i gofrestru a chymryd rhan yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU.

Darllenwch fwy am gymryd rhan yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar GOV.UK

Y Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni

Cynllun asesu ynni gorfodol yw'r Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni ar gyfer sefydliadau mawr yn y DU ac mae'n gofyn i sefydliadau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd archwilio ac adrodd ar o leiaf 90% o'u defnydd o ynni bob pedair blynedd.

Rôl CNC yn y cynlluniau

Yn gyffredinol, dyma rôl Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: cydymffurfiaeth, gorfodi, trwyddedu (dyroddi, amrywio, trosglwyddo ac ildio trwyddedau nwyon tŷ gwydr) a darparu cyngor ac arweiniad
  • Y Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni: cydymffurfiaeth a gorfodi

Cofrestru ar y cynllun

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau i gynnal a gweinyddu’r systemau cofrestru ar gyfer yr holl gynlluniau, a dylai cyfranogwyr o Gymru barhau i ddefnyddio'r systemau hyn, sy’n cwmpasu pob rhan o’r DU, i alluogi cydymffurfiaeth.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn chwarae rhan wrth ddatblygu'r polisi sy'n cefnogi'r cynlluniau hyn, ac yn defnyddio data allyriadau i gefnogi targedau Llywodraeth Cymru.

Pam mae angen y cynlluniau hyn arnom?

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae tirwedd y polisi newid hinsawdd sy'n ymwneud â charbon deuocsid ac allyriadau nwyon tŷ gwydr eraill yn y DU ac Ewrop wedi newid yn sylweddol. Gwelodd Cytundeb Paris 2015 195 o wledydd yn cytuno i gyfyngu ar godiad yn nhymheredd cyfartalog y byd i lawer yn is na 2.0°C, gyda'r nod o gyfyngu'r newid i 1.5°C.

Cewch wybod mwy am reoli allyriadau nwyon tŷ gwydr ar GOV.UK.

Targedau allyriadau yng Nghymru

Mae Cymru wedi cryfhau ei fframwaith deddfwriaethol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r Ddeddf yn gosod targed cyfreithiol o leihau allyriadau o leiaf 80% erbyn 2050.

Yn ogystal â hyn, yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi addasu argymhelliad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd i gynyddu'r targed hwn i 95% ac wedi cyhoeddi uchelgais i gyflwyno targed sero-net erbyn 2050 fan bellaf.

Cewch fwy o wybodaeth am dargedau allyriadau yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cysylltu

Cysylltu os oes gennych fwy o gwestiynau am y cynlluniau masnachu allyriadau.

Fodd bynnag, ar gyfer ymholiadau sy'n benodol i Gymru, anfonwch e-bost at y cyfeiriad canlynol:

Cyfeiriad e-bost ar gyfer ymholiadau am System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd a Chynllun Masnachu Allyriadau’r DU, ac ymholiadau cyffredinol: ghghelp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Cyfeiriad e-bost ar gyfer ymholiadau am y Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni: esos@environment-agency.gov.uk 

Diweddarwyd ddiwethaf