Er enghraifft, sŵn, arogleuon, effeithlonrwydd ynni neu ddiogelu tir a dŵr.  Bydd y dolenni ar waelod y dudalen hon yn mynd â chi i'r canllawiau sydd ar gael.

H1 Pecyn cymorth meddalwedd a chanllawiau

Gellir defnyddio’r offeryn meddalwedd asesu risg H1 a ddatblygwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd i asesu effaith llygryddion peryglus mewn gollyngiadau a arllwyswyd i ddŵr wyneb ac i systemau ymdreiddiol bychain o ganlyniad i sefydliadau a safleoedd gwastraff, gweithgareddau arllwys dŵr ffynhonnell ac o weithgareddau arllwys dŵr unigol.

Mae’r atodiadau canllawiau trosolwg asesu risg a chanllawiau technegol sy’n cefnogi’r offeryn H1 wedi cael eu hadolygu a’u hamnewid. Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i ganllawiau perthnasol Asiantaeth yr Amgylchedd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i’w dilyn. Byddwch yn gweld manylion ar sut i gael copi o’r offeryn meddalwedd H1 a’r canllawiau a dolen at ganllawiau ar asesu risg llygredd dŵr wyneb ar gyfer eich trwydded amgylcheddol.

Mae canllawiau pellach ar gael i fodelu’r arllwysiad unwaith y bydd yr asesiad risg llygredd dŵr wyneb wedi’i gwblhau. Lle gwneir cyfeiriad yn y canllawiau i Asiantaeth yr Amgylchedd yn nhermau ceisiadau am drwydded, datrys ymholiadau ac ymgymryd â modelu, cyfeiriwch at Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer arllwysiadau yng Nghymru.

H2 Effeithlonrwydd ynni

Mae'r Canllaw H2 wedi cael ei ddisodli gan ganllawiau 'Techneg Gorau ar Gael' perthnasol. Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i ganllawiau perthnasol Asiantaeth yr Amgylcheddol yr ydym yn parhau i'w dilyn.

EA H2 Effeithlonrwydd ynni

Rheoli sŵn a dirgryniad

Ar gyfer y rhan fwyaf o asesiadau effaith sŵn diwydiannol, rydym yn disgwyl i chi ddilyn meini prawf a gofynion adrodd BS 4142:2014+A1:2019 Dull ar gyfer sgorio ac asesu sain ddiwydiannol a masnachol (BS 4142).

H4 Rheoli arogleuon

Gweler canllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar Reoli Arogleuon (H4). Sylwch bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi tynnu canllawiau H4 yn ôl. Fodd bynnag, byddwn ni’n parhau i'w defnyddio nes inni gyhoeddi ein canllawiau ein hunain.

H5 Adroddiad ar gyflwr safle

Gweler ein:

Diweddarwyd ddiwethaf