CML2147 Cynllun Amddiffyn Arfordirol Caerdydd (Hysbysiad o Benderfyniad Rheoleiddiol Asesu Effeithiau Amgylcheddol)

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009

RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007

HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD RHEOLEIDDIOL ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL

CML2147 CYNLLUN AMDDIFFYN ARFORDIROL CAERDYDD

Hysbysir trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad rheoleiddiol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”) o ran y prosiect uchod. Yn unol â Rheoliad 24 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.

Mae copi ysgrifenedig o'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol rhwng 9am a 5pm yn y Gwasanaeth Trwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.

Gallwch hefyd gael copïau o'r penderfyniad rheoleiddiol o Cyfoeth Naturiol Cymru / Penderfyniadau Trwyddedu morol (naturalresources.wales) neu drwy e-bostio marinelicensingpermittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai bydd yn rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

Diweddarwyd ddiwethaf