Penderfyniad rheoleiddio 076: Derbyn gwastraff o doiledau symudol/toiledau cemegol mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Mae'r penderfyniad rheoliadol hwn yn caniatáu: derbyn gwastraff o doiledau symudol nad yw'n beryglus (cod gwastraff 16 10 02) mewn gwaith trin dŵr gwastraff a weithredir gan gwmni dŵr pan nad yw'r drwydded briodol yn ei lle.
Storio gwastraff o doiledau symudol mewn gwaith trin dŵr gwastraff hyd nes y caiff ei ollwng i'r broses trin dŵr gwastraff.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid:
- eich bod yn defnyddio’r canllawiau technegol dosbarthu gwastraff (WM3) i ddosbarthu’r gwastraff hwn yn wastraff peryglus neu’n wastraff nad yw’n beryglus (16 10 01*/16 10 02)
- nad ydych ond yn derbyn gwastraff o doiledau symudol sy'n dwyn y cod a'r disgrifiad Catalog Gwastraff Ewropeaidd cywir ac sy’n dod ag asesiad risg priodol
- bod gan bob ardal a ddefnyddir ar gyfer derbyn gwastraff o doiledau symudol arwyneb anathraidd gyda system ddraenio sydd wedi'i selio
- bod pob contractwr gwastraff wedi ymgyfarwyddo â’r safle a bod ganddo allwedd logiwr data ar gyfer y gweithfeydd trin dŵr gwastraff
- bod nodiadau trosglwyddo gwastraff wedi’u darparu o dan y ddyletswydd gofal
- bod pob contractwr gwastraff yn gludwr gwastraff cofrestredig haen uwch
- sicrhau na dderbynnir unrhyw wastraff peryglus
- sicrhau nad ydych yn derbyn gwastraff o doiledau symudol sydd wedi'i gymysgu â mathau eraill o wastraff
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraffpan ydych yn derbyn gwastraff o doiledau symudol/cemegol i bennaeth gwaith trin dŵr gwastraff.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig