Penderfyniad rheoleiddio 026: Cadw rhannau ar gerbydau diwedd oes er mwyn eu hailddefnyddio

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol

Rhaid i gerbydau diwedd oes heb eu dadlygru gael eu storio a'u dadlygru ar wyneb anhydraidd gyda system ddraenio syddd wedi'i selio. Ar ôl dadlygru caniateir eu storio ar lawr caled cyn iddynt gael eu darnio a'u malu.

Os byddwch yn cydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, cewch storio siocleddfwyr cyfan a bagiau aer nas defnyddiwyd mewn cerbydau diwedd oes sydd fel arall wedi'u dadlygru'n llawn ac ar lawr caled nes iddynt gael eu tynnu fel rhannau ail law.

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael trwyddedau eraill o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych chi’n eu cyflawni.

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn ond yn gymwys:

  • i gerbydau diwedd oes a dderbynnir o dan ac yn unol â thrwydded amgylcheddol
  • pan fo'r cerbyd diwedd oes yn cael ei storio hyd nes y gellir ailddefnyddio'r siocleddfwyr neu'r bagiau aer
  • os nad yw'r siocleddfwyr wedi'u difrodi, nad ydynt yn gollwng olew a’u bod yn addas i'w hailddefnyddio
  • os nad yw'r bagiau aer wedi'u difrodi neu wedi’u defnyddio a'u bod yn addas i'w hailddefnyddioi gerbydau diwedd oes sydd wedi'i ddadlygru'n llawn yn unol â 'Dadlygru cerbydau diwedd oes: canllawiau ar gyfer cyfleusterau trin’, ac eithrio'r siocleddfwyr neu'r bagiau aer (neu’r ddau)

Ystyr “wedi'i ddadlygru'n llawn” yw:

  • bod batris a thanciau nwy hylifedig wedi cael eu tynnu
  • bod cydrannau sydd â’r potensial i fod yn ffrwydrol wedi cael eu tynnu neu eu niwtraleiddio
  • eich bod wedi tynnu, casglu a storio: tanwydd, olew modur, olew trawsyrru, olew blwch gêr, olew hydrolig, hylifau oeri, gwrthrewydd, hylifau brêc, hylifau a nwyon y system aerdymheru ac unrhyw hylif arall yn y cerbydau diwedd oes, oni bai bod angen yr eitemau hyn ar gyfer ailddefnyddio rhannau
  • bod yr holl gydrannau sy'n cynnwys mercwri wedi cael eu tynnu, pan fo modd

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Ni chewch wneud y canlynol:

  • anfon cerbydau diwedd oes i'w malu a'u darnio oni bai eu bod wedi'u dadlygru'n llwyr
  • difrodi neu atal bagiau aer neu siocleddfwyr rhag cael eu hailddefnyddio

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • storio cerbydau diwedd oes ar lawr caled sydd wedi’u dadlygru’n llwyr yn unig, ac eithrio’u siocleddfwyr cyfan neu eu bagiau aer nas defnyddiwyd (neu’r ddau)
  • cydymffurfio â’r holl amodau eraill yn eich trwydded amgylcheddol
  • cadw cofnodion am ddwy flynedd sy’n dangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn – rhaid i chi sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i CNC ar gais

Gorfodi

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff panydych yn cadw rhannau ar gerbydau diwedd oes i'w hailddefnyddio.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf