Pam mae angen sgriniau?

Bydd angen i chi ddefnyddio sgriniau ffisegol er mwyn atal pysgod a llyswennod, ar bob cam bywyd, rhag cael eu tynnu i mewn i'r llifddor a'r tyrbin drwy'r mewnlif. Efallai y bydd angen sgriniau arnoch ar ollyngfeydd y tyrbin er mwyn atal pysgod sy'n mudo i fyny’r afon, a mamaliaid, rhag mynd i mewn iddynt.

Math o sgrin a maint ei thyllau

Defnyddir y math o fewnlifoedd sydd â gorlif yn y rhan fwyaf o safleoedd ynni dŵr yng Nghymru. Rydym yn argymell defnyddio sgriniau mewnlif modiwlar o fath Coanda, neu blatiau tyllog. Maent yn addas, yn gyffredinol, ar gyfer y rhan fwyaf o safleoedd ar yr ucheldir, ac yn effeithiol o ran atal pysgod a gweddillion pan fo ganddynt faint tyllau sy'n bodloni gofynion sgrinio pysgod. Maent hefyd yn ei gwneud yn bosibl ymgorffori dull goddefol o weithredu'r tyniad dŵr yng nghynllun y gored.

Maint y tyllau yw maint y bwlch rhwng y bariau, neu ddiamedr mwyaf y tyllau, mewn sgrin mewnlif. Yn y mwyafrif o ddalgylchoedd ar yr ucheldir, mae'n ofynnol nad yw maint tyllau sgriniau'n fwy na 3 mm er mwyn sicrhau eu bod yn atal pysgod yn effeithiol. Ar hydoedd afon sy'n agos i'r môr, bydd yn ofynnol nad yw tyllau'n fwy nag 1 mm. Mae'r sgriniau â thyllau mwy mân yn angenrheidiol er mwyn atal llyswennod gwydr a llyswennod ifanc sy'n mudo i fyny'r afon rhag mynd i mewn i'r mewnlif.

Mae'n ofynnol bod plymbwll i lawr yr afon o goredau sydd â sgriniau gorlif fel bod pysgod sy'n mynd dros sgrin y mewnlif yn syrthio i mewn i ddyfnder addas o ddŵr. Mae hyn yn eu diogelu rhag cael niwed a rhag mynd yn sownd ar y lan. Ceir mwy o fanylion am hyn yn ein hadran ganllaw Llwybrau pysgod ar gyfer coredau ynni dŵr.

Lle na ellir defnyddio sgriniau gorlif, mae sgriniau'r mewnlif yn debygol o fod yn rhai pwrpasol a all fod yn fwy cymhleth i'w cynllunio, eu creu, a'u cynnal a'u cadw. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, bydd maint tyllau'r sgriniau'n dibynnu ar bellter y cynllun o'r môr, a ph'un a oes llyswennod gwydr a llyswennod ifanc sy'n mudo i fyny'r afon yn bresennol, ond bydd hefyd yn dibynnu ar bresenoldeb rhywogaethau eraill o bysgod, ac, mewn rhai achosion, y math o dyrbin. Yn yr achosion hyn, dylai datblygwyr gymhwyso'r canllawiau cynllunio manwl yn nogfen ganllaw Asiantaeth yr Amgylchedd Screening for intakes and outfalls: a best practice guide a Screening at intakes and outfall: measures to protect eels.

Mae rhai o'r ystyriaethau eraill y dylid rhoi sylw iddynt wrth gynllunio sgriniau pysgod ar gyfer cynlluniau lle nad oes gorlif yn cynnwys atal gwrthdrawiadau pysgod â sgriniau a'u cludiant ganddynt, a'r angen i ddarparu llwybr gwyriad fel ei bod yn bosibl i bysgod sy'n mudo i lawr yr afon fynd i'r sianel o dan y gored.

Sgriniau mewnlif o fath Coanda

Mae'r term Coanda yn cyfeirio at allu hylif i lynu wrth arwyneb, ac, yn yr achos hwn, mae'n golygu trosglwyddo dŵr o lif yr afon, drwy'r sgrin, ac i mewn i'r swmp tynnu dŵr. Gwneir sgriniau Coanda o wifrau gwasgu sydd fel arfer â bwlch o 1 mm rhyngddynt a fydd yn sgrinio rhag pysgod a gweddillion.

 

Sgriniau mewnlif gollwng drwyddo

Mae'r term Coanda yn cyfeirio at allu hylif i lynu wrth arwyneb, ac, yn yr achos hwn, mae'n golygu trosglwyddo dŵr o lif yr afon, drwy'r sgrin, ac i mewn i'r swmp tynnu dŵr. Gwneir sgriniau Coanda o wifrau gwasgu sydd fel arfer â bwlch o 1 mm rhyngddynt a fydd yn sgrinio rhag pysgod a gweddillion.

Crëir sgriniau ‘gollwng drwyddo’ gan ddefnyddio platiau o ddur gwrthstaen tyllog sydd wedi'u gosod ar ongl serth ar ochr y gored sy'n wynebu i lawr yr afon. Ni ddylai tyllau'r plât fod yn fwy na 3 mm Mae'r dŵr yn llifo dros y plât ac yn syrthio i'r swmp islaw lle bydd yn cael ei dynnu. Yn yr un modd â'r sgrin o fath Coanda, bydd yn atal pysgod a gweddillion rhag mynd i mewn i'r tyniad dŵr.

Sgriniau gollyngfeydd

Mewn hydoedd afon sy'n hygyrch i eogiaid a brithyllod môr mudol, gall llif y gollyngiad o ollyngfeydd cynlluniau ynni dŵr atynnu pysgod a all wedyn geisio mynd i mewn iddynt.

Lle caiff dŵr ei ollwng ar orlifan, adeiledd cwympo neu gerrig mawrion lle mae'n anodd i bysgod gael mynediad i’r ollyngfa oherwydd bod diffyg sianel glir ac amlwg, nid yw'n debygol y bydd yn ofynnol gosod sgrin ar yr ollyngfa.

Lle mae'r ollyngfa'n gollwng dŵr i ddyfrffos neu bibell o dan y dŵr, ac mae'n bosibl y gallai pysgod gael mynediad i'r ollyngfa, bydd angen gosod sgrin drosti. Nid yw hyn i'w hatal rhag cael mynediad i gydrannau'r tyrbin o reidrwydd, ond yn hytrach er mwyn lleihau'r risg y gallai llif yr ollyngfa ddrysu pysgod sy'n mudo i fyny'r afon, a'r perygl y gellid arafu neu atal mudo.

Lle mae'n ofynnol gosod sgrin gollyngfa, dylid ei lleoli yn agos at lan yr afon ar y pwynt lle mae'r gollyngiad o'r tyrbin yn arllwys i mewn i'r afon. Dylid creu sgriniau gyda bariau sgwâr neu betryal gyda bylchau llorweddol o 40 mm rhyngddynt (maint y twll) er mwyn atal mynediad i eogiaid Iwerydd aeddfed, neu fylchau o 30 mm ar gyfer brithyllod môr aeddfed. Mae maint twll o 40 mm hefyd yn ddigonol i sgrinio rhag dwrgwn ifanc. Dylai arwynebedd trawstoriadol sianel yr ollyngfa fod yn ddigon mawr i arafu cyflymder llif y gollyngiad fel ei fod yn llai tebygol o atynnu pysgod.

Egwyddorion allweddol – sgriniau mewnlifoedd a gollyngfeydd

  • Dylech sicrhau bod eich mewnlif wedi'i orchuddio gan sgrin yn llwyr er mwyn atal pysgod a llyswennod rhag cael mynediad i'r llifddor a'r tyrbin.
  • Dylech ddefnyddio cynllun a math o sgrin ar gyfer cored sydd â gorlif lle bo hynny'n bosibl.
  • Dylech ddefnyddio sgriniau mewnlif sydd â thyllau nad ydynt yn fwy na 3 mm mewn dalgylchoedd ar yr ucheldir.
  • Dylech ddefnyddio sgriniau mewnlif sydd â thyllau nad ydynt yn fwy nag 1 mm mewn hydoedd llanwol a hydoedd afon sy'n agos i'r môr.
  • Dylech sicrhau bod cynllun eich cored â gorlif yn cynnwys plymbwll i lawr yr afon. 
  • Dylech gyfeirio at ddogfennau Asiantaeth yr Amgylchedd am fanylion am gynllunio sgriniau ar gyfer cynlluniau mewnlif nad oes ganddynt orlif.
  •  Dylech gynllunio'r ollyngfa fel ei bod yn gollwng dŵr ar gerrig mawrion neu i mewn i adeiledd cwymp er mwyn arafu cyflymder y llif ac i'w gwneud yn anodd i bysgod gael mynediad iddi.
  • Lle mae'r ollyngfa'n sianel neu bibell agored i'r afon, bydd angen i chi osod sgrin dros yr ollyngfa.
  • Dylech ddefnyddio bar sgwâr fertigol â bylchau o rhwng 30 mm a 40 mm rhyngddynt i greu sgrin eich gollyngfa.

Darllenwch am docynnau pysgod ar gyfer coredau ynni dŵr

Diweddarwyd ddiwethaf