Sut rydym yn monitro ac yn amddiffyn dyfroedd ymdrochi Cymru

Mae diogelu a monitro dyfroedd ymdrochi Cymru yn un o’n prif gyfrifoldebau.

Mae’r safleoedd hyn yn lleoedd gwerthfawr i bobl nofio, padlo, syrffio a threulio amser yn yr awyr agored. Yn 2026, mae 114 o safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig ac mae ein rhaglen fonitro flynyddol ar y gweill.

Mae ein timau’n ymweld â phob safle o leiaf wyth gwaith yn ystod y tymor dŵr ymdrochi, rhwng 1 Mai i 30 Medi. Cesglir samplau a’u hanfon i’n labordy i brofi am ddau fath o facteria sy’n dynodi halogiad o wastraff dynol neu wastraff anifeiliaid: Escherichia coli (E. coli) ac enterococci colyddol.

Ar ddiwedd y tymor, caiff y data eu dadansoddi ochr yn ochr â chanlyniadau o’r tair blynedd flaenorol i ddosbarthu ansawdd y dŵr ymdrochi ym mhob safle. Mae’r dosbarthiadau’n amrywio o ragorol a da i ddigonol a gwael. Cyhoeddir y canlyniadau’n flynyddol gan Lywodraeth Cymru ac maent ar gael ar yr archwiliwr data dŵr ymdrochi ar wefan CNC.

Dyfroedd ymdrochi dynodedig yw’r unig gyrff dŵr yng Nghymru sy’n cael eu monitro a’u dosbarthu’n rheolaidd yn y ffordd hon. Maent yn cynnwys dyfroedd arfordirol a safleoedd mewndirol, fel afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr.

Mae gan bob dŵr ymdrochi dynodedig ddosbarthiad, ond mae’n bwysig deall nad yw hwn yn fesur amser real o ansawdd dŵr. Mae dosbarthiadau’n seiliedig ar ddata a gesglir dros gyfnodau penodol yn ystod y tymor ymdrochi ac yn canolbwyntio ar ddangosyddion bacteriol penodol yn unig. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn adlewyrchu popeth a all fod yn bresennol yn y dŵr ar ddiwrnod penodol.

Gall ansawdd dŵr newid yn gyflym hefyd, hyd yn oed mewn safleoedd sydd wedi’u dosbarthu fel rhai rhagorol. Mae dyfroedd ymdrochi yn ymateb i amodau fel llif afonydd, gollyngiadau a dŵr ffo o’r tir. Yn ystod ac ar ôl glaw, gall halogion gael eu golchi i afonydd a’r môr o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys carthffosiaeth, amaethyddiaeth ac ardaloedd trefol.

Rydym yn rheoleiddio gweithgareddau cwmnïau dŵr yng Nghymru, gan gynnwys rhoi trwyddedau sy’n rheoli’r hyn y gellir ei ollwng i’r amgylchedd. Mae gollyngiadau storm - a elwir yn aml yn orlifoedd carthffosiaeth gyfun - wedi’u cynllunio i weithredu yn ystod cyfnodau o law trwm yn unig, pan fydd systemau carthffosiaeth dan bwysau cynyddol. Er eu bod yn helpu i atal carthffosiaeth rhag cronni i gartrefi, gallant gael effaith dros dro ar ansawdd dŵr.

Ochr yn ochr â hyn, mae ein timau’n ymweld â ffermydd a busnesau i gynnal gwiriadau rheoli llygredd a rhoi cyngor ac arweiniad. Mae’r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod gofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni ac yn lleihau’r risg o lygredd yn mynd i mewn i gyrsiau dŵr. Mewn rhai safleoedd, defnyddir dull darogan perygl llygru hefyd i nodi pryd y gall ansawdd dŵr ddirywio, gydag awdurdodau lleol yn codi arwyddion pan ragwelir ansawdd dŵr gwael.

Dros y degawdau diwethaf, mae ansawdd dŵr ymdrochi ledled Cymru wedi gwella’n sylweddol, gan adlewyrchu’r cydweithio hirdymor â chwmnïau dŵr, awdurdodau lleol, tirfeddianwyr a phartneriaid eraill. Yn 2025, roedd 110 allan o 112 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yn bodloni’r safonau gofynnol. O’r rhain, cafodd 78 o ddyfroedd ymdrochi eu graddio’n rhagorol, 26 yn dda a chwech yn ddigonol, gyda gwaith yn parhau yn y ddau safle gwael i ddod o hyd i’r hyn sy’n ei achosi a gwella ansawdd dŵr.

Er bod cynnydd yn parhau, mae amddiffyn a gwella dyfroedd ymdrochi yn parhau i fod yn flaenoriaeth barhaus i ddiogelu’r lleoedd pwysig hyn i bobl, bywyd gwyllt a’r amgylchedd ehangach.

Cyn ymweld â safle dŵr ymdrochi dylid gwneud y canlynol

  • Gwirio dosbarthiad y dŵr ymdrochi ar Dod o hyd i ddŵr ymdrochi
  • Chwilio am unrhyw gyngor neu rybuddion lleol ar gyfer y safle
  • Gwirio rhagolygon y tywydd, yn enwedig ar ôl glaw trwm neu hirfaith
  • Bod yn ymwybodol y gall ansawdd dŵr newid yn gyflym, hyd yn oed mewn safleoedd a ddosbarthwyd fel rhai rhagorol
  • Ystyried yr amodau ar y diwrnod, gan gynnwys glaw diweddar, llif yr afon a chlaerder y dŵr

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru