Cryodeb

Mae newidiadau yn yr hinsawdd yn bygwth gwydnwch ecosystemau a gwasanaethau ecosystemau drwy:

  • Newid dosbarthiad rhywogaethau
  • Achosi i rywogaethau ddiflannu mewn ardaloedd penodol
  • Newidiadau i ddigwyddiadau cylch bywyd fel mudo a magu
  • Cynnydd yn lefel y môr
  • Niferoedd cynyddol o rywogaethau goresgynnol a'r clefydau y gallant eu lledu

Rhagwelir hefyd y bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu amlder a dwyster sychder, llifogydd afonydd ac arfordiroedd a thywydd poeth. Disgwylir i hyn leihau gwydnwch ecosystemau ymhellach.

Yn fyd-eang ac yng Nghymru, ni ellir dadwneud rhai o effeithiau newid yn yr hinsawdd gan gynnwys cynnydd yn lefel y môr ac erydu arfordirol.

Mae angen dull systemau cyfan, sy'n integreiddio mesurau addasu a lliniaru, er mwyn helpu i gyflawni allyriadau sero net a nodau bioamrywiaeth.

Ein hasesiad

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod newid yn yr hinsawdd (Saesneg PDF)

Mae'r bennod yn rhoi trosolwg o effeithiau newid yn yr hinsawdd ar adnoddau naturiol ac ecosystemau yng Nghymru, gan gynnwys ar wydnwch ecosystemau a gwasanaethau ecosystemau. Mae'n tynnu sylw at bolisïau allweddol ar ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a'i liniaru, a chyfleoedd i weithredu yn ei gylch.

Mae'r pwysau, yr effeithiau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu a nodir gan y bennod newid yn yr hinsawdd i'w gweld yn y cofrestrau adnoddau naturiol ar gyfer yr ecosystemau.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod newid yn yr hinsawdd wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf