Cryodeb

Mae gan Gymru gyfradd uchel o law o'i chymharu â'r rhan fwyaf o leoedd yn y DU, fel de-ddwyrain Lloegr. Mae hyn yn rhoi'r canfyddiad nad oes angen defnyddio dŵr yn effeithlon.

Er bod Cymru'n profi digwyddiadau glaw mwy dwys, mae hefyd yn profi cyfnodau sych hirfaith. Felly, mae angen sicrhau bod digon o ddŵr ar gael i fynd drwy'r cyfnodau hyn.

Mae afonydd, llynnoedd a gwlyptiroedd Cymru yn cynnal amrywiaeth enfawr o rywogaethau, o eogiaid a dyfrgwn, i bryfed (fel mursennod) a phlanhigion. Mae'r ecosystemau a’r rhywogaethau hyn yn dibynnu ar ddigon o ddŵr yn yr amgylchedd. Mae defnyddio llai o ddŵr pan fydd ecosystemau a rhywogaethau yn fwyaf agored i niwed, fel ar adegau o lifoedd isel, yn eu helpu i wrthsefyll pwysau cynyddol yn well. Mae'r rhain yn cynnwys pwysau newid yn yr hinsawdd fel cyfnodau sych hirfaith.

Yn ogystal â chael ei ddefnyddio yn y cartref, mae dŵr yn hanfodol wrth helpu i yrru'r economi. Mae'n ffactor pwysig mewn amaethyddiaeth, cynhyrchu ynni (gweler y bennod ar effeithlonrwydd ynni), gweithgynhyrchu, diwydiant a masnach. Yng Nghymru, mae dŵr hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd hamdden sy'n hybu lles a thwristiaeth. Mae cyflenwad dŵr cynaliadwy yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles pawb.

Mae defnyddio llai o ddŵr yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd, gan gynnwys ôl troed carbon Cymru, drwy leihau pwmpio, trin a gwresogi dŵr.

Ein hasesiad 

Lawrlwytho SoNaRR2020:  Pennod effeithlonrwydd adnoddau - dŵr (Saesneg PDF)

Mae'r bennod hon yn nodi'r angen i leihau'r defnydd o ddŵr ar draws pob sector er mwyn sicrhau cynaliadwyedd o ran cyflenwad a galw a chefnogi gwydnwch ecosystemau. Mae'r bennod hefyd yn amlygu sut y gall technolegau newydd a newidiadau i ymddygiad leihau ein defnydd cyffredinol o ddŵr.

Mae'r pwysau, yr effeithiau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu a nodir gan y bennod effeithlonrwydd adnoddau - dŵr i'w gweld yn y cofrestrau adnoddau naturiol ar gyfer yr ecosystemau.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod effeithlonrwydd adnoddau - dŵr wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf