Cryodeb

Mae byw mewn cymdeithas lle mae defnydd untro yn rhemp, a lle mae gwastraff yn cael ei gynhyrchu'n barhaus, yn cynyddu'r pwysau ar ein hadnoddau naturiol. Er enghraifft, unwaith y bydd gwastraff yn cael ei gynhyrchu mae angen ei drin mewn cyfleusterau sy'n gofyn am dir, yn defnyddio ynni a dŵr ac yn cynhyrchu allyriadau i'r amgylchedd.

Os nad yw gwastraff yn cael ei drin yn iawn, gall fod yn niweidiol i ecosystemau, bioamrywiaeth a lles y boblogaeth.

Nod economi gylchol yw defnyddio deunyddiau a chynhyrchion cyhyd ag y bo modd, gan elwa i'r eithaf ohonynt tra byddwn yn eu defnyddio a dileu gwastraff. Mae defnyddio deunyddiau mewn modd mwy cylchol hefyd yn allweddol i wella effeithlonrwydd adnoddau fel rhan o economi carbon isel.

Mae atal gwastraff a defnyddio gwastraff fel adnodd yn bwysig er mwyn sicrhau bod ein cymdeithas yn byw'n fwy cynaliadwy. Pan nad oes angen pethau mwyach, rhaid eu hystyried yn adnodd gwerthfawr yn hytrach na baich diangen. Drwy wneud hynny mae'n lleihau'r pwysau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau economaidd a'r galw am ddeunyddiau crai, ac mae o fudd i'r economi yr un pryd.

Bydd strategaeth economi gylchol Llywodraeth Cymru 'Mwy nag Ailgylchu' yn nodi sut y bydd Cymru'n symud tuag at economi gylchol ac yn cyflawni ei nod byw ar un blaned a dim gwastraff erbyn 2050.

Bydd hyn yn gofyn am ailfeddwl yn radical am ein hymddygiad a'r ffordd rydym yn prynu ac yn defnyddio nwyddau ar hyn o bryd i gyflawni'r newid sylfaenol sydd ei angen i leihau gwastraff a lleihau'r adnoddau a ddefnyddiwn yng Nghymru.

Ein hasesiad 

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod gwastraff (Saesneg PDF)

Mae'r bennod yn asesu'r newidiadau yn y sefyllfa o ran cynhyrchu a rheoli gwastraff yng Nghymru dros y pymtheg mlynedd diwethaf. Mae'n amlygu'r problemau a'r pwysau sy'n gysylltiedig ag arferion gwastraff presennol ac yn nodi cyfleoedd ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol.

Mae'r pwysau, yr effeithiau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu a nodir gan y bennod gwastraff i'w gweld yn y cofrestrau adnoddau naturiol ar gyfer yr ecosystemau.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod gwastraff wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf