Sut i lenwi nodyn llwyth gwastraff peryglus

Yn y rhan fwyaf o achosion, os ydych yn symud gwastraff peryglus i unrhyw leoliad yng Nghymru neu ohono mae'n rhaid i chi baratoi nodyn trosglwyddo gwastraff peryglus ar gyfer pob symudiad.

Mae nodiadau trosglwyddo yn sicrhau bod trywydd archwilio o pryd mae’r gwastraff yn cael ei gynhyrchu hyd nes ei waredu.

Os ydych yn symud gwastraff peryglus o’r tu allan i Gymru i mewn i Gymru, dilynwch y canllawiau sydd mewn grym yn y wlad y tarddodd y gwastraff ohoni.

Os nad yw'r gwastraff yn beryglus, bydd angen nodyn trosglwyddo gwastraff arnoch yn hytrach.

Pwy sydd angen cwblhau pob rhan o'r nodyn trosglwyddo

Mae'r nodyn yn cynnwys pum rhan, A-E.

  • Mae rhan A yn cofnodi manylion tarddiad a chyrchfan y gwastraff.
  • Mae rhan B yn cofnodi gwybodaeth am y gwastraff, y gweithgaredd y'i cynhyrchodd, ei gyfansoddiad, nodweddion a deunydd pecynnu.
  • Rhan C yw ardystiad y cludydd.
  • Rhan D yw ardystiad yr unigolyn sy’n peri i’r gwastraff gael ei symud (y traddodwr)
  • Rhan E yw ardystiad y derbynnydd (y traddodai)

Mae'n rhaid i bob unigolyn neu fusnes sydd ynghlwm wrth symud y gwastraff gwblhau pob rhan ar yr adeg iawn.

Os ydych yn:

  • creu'r gwastraff, chi yw cynhyrchydd y gwastraff peryglus. Rhaid i chi gwblhau rhannau A a B cyn y gellir symud y gwastraff oddi ar y safle
  • storio neu’n dal gwastraff – a grëwyd gennych chi neu rywun arall – chi yw'r deiliad. Rhaid i chi gwblhau rhannau A a B cyn y gellir symud y gwastraff oddi ar y safle
  • casglu neu gludo gwastraff peryglus, chi yw'r cludydd. Rhaid i chi gwblhau rhan C cyn y gellir symud y gwastraff oddi ar y safle
  • peri i’r gwastraff peryglus gael ei symud oddi ar y safle, chi yw'r traddodwr – fel rheol, y traddodwr yw'r cynhyrchydd neu'r deiliad, ond gall brocer neu ddeliwr weithredu ar ran cynhyrchydd neu ddeiliad. Rhaid i chi gwblhau rhan D, ond nid cyn i'r cludydd gyrraedd i gasglu'r gwastraff.
  • derbyn gwastraff peryglus i’w adfer neu ei waredu, chi yw'r traddodai. Rhaid i chi gwblhau rhan E

Lawrlwytho templed y nodyn trosglwyddo

Lawrlwytho templed nodyn trosglwyddo a thaflen parhad:

Templed nodyn trosglwyddo.

Taflen parhad nodyn trosglwyddo.

Sut i gwblhau'r nodyn trosglwyddo

Rhan A1: Cod nodyn trosglwyddo

Os ydych yn gynhyrchydd cofrestredig, neu os yw eich gwastraff yn cael ei symud gan weithredwr gwasanaetheu symudol ac yn cael ei gludo yn ôl i fangre eich gwasanaeth:

  • byddwch wedi cael cod mangre chwe nod pan wnaethoch gofrestru â ni
  • rhaid i'r cod nodyn trosglwyddo gynnwys eich cod safle wedi'i ddilyn gan bum llythyren neu rif
  • os mai ‘ABC123’ oedd y cod y gwnaethom anfon atoch pan wnaethoch gofrestru eich mangre gyda ni, eich cod nodyn trosglwyddo fyddai ABC123/XXXXX – mae ‘X’ yn gyfres o lythrennau neu rifau ar hap sy'n gwneud y cod yn unigryw

Os yw eich mangre wedi’i heithrio (h.y. nid ydych yn gynhyrchydd cofrestredig):

  • rhaid i'r cod nodyn trosglwyddo gychwyn gydag ‘EXE’ wedi'i ddilyn gan wyth llythyren neu rif e.e. EXEXXX/XXXXX – mae ‘X’ yn gyfres o lythrennau neu rifau ar hap sy'n gwneud y cod yn unigryw

Os yw’r gwastraff wedi’i dynnu o dip anghyfreithlon:

  • rhaid i'r cod nodyn trosglwyddo gychwyn gyda ‘FLY’
  • dilynwch hwn ag wyth llythyren neu rif e.e. FLYXXX/XXXXX – mae ‘X’ yn gyfres o lythrennau neu rifau ar hap sy'n gwneud y cod yn unigryw

Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r cod unigryw unwaith yn unig – peidiwch â'i ddefnyddio eto ar gyfer symudiadau eraill o wastraff peryglus.

Rhan A2: y lle y mae'r gwastraff peryglus yn cael ei symud oddi wrtho

Rhaid i chi ddarparu cod post. Os nad oes gan eich safle god post, rhowch y cod post llawn ar gyfer y man agosaf i'r safle.

Rhan A3: cod safle

  • Os yw eich mangre wedi'i chofrestru gyda ni, dylech nodi cod y safle
  • Os yw eich mangre yn esempt o ran cofrestru, dylech nodi ‘EXEMPT’
  • Os ydych yn gweithredu fel gwasanaeth symudol, dylech nodi ‘MOBILE’

Rhan A4: y lle y bydd y gwastraff yn cael ei gludo iddo

Nodwch i ble mae'r gwastraff peryglus yn mynd. Dylech gynnwys enw a chyfeiriad llawn y traddodai (yr unigolyn sy'n derbyn y gwastraff).

Rhan A5: pwy oedd cynhyrchydd y gwastraff

Nodwch bwy oedd cynhyrchydd y gwastraff – os yw ei fanylion yn wahanol i’r rhai a nodwyd yn rhan A2. Er enghraifft, os mai asbestos yw'r gwastraff a gwnaeth contractiwr ei gynhyrchu yn eich cyfleuster, mae angen i chi nodi'r contractiwr asbestos fel y cynhyrchydd gwastraff a nodi ei gyfeiriad busnes.

Nid oes angen i chi ddweud wrthym am y cynhyrchydd blaenorol os cafodd y gwastraff ei gynhyrchu rywle arall yn wreiddiol ac os mai chi yw'r deiliad presennol.

Rhan B1: disgrifiad o'r gwastraff

Rhowch ddisgrifiad ysgrifenedig llawn o'r broses a greodd y gwastraff.

Os ydych yn symud mwy nag un math o wastraff peryglus a gynhyrchwyd gan fwy nag un proses, disgrifiwch y brif broses gynhyrchu a ddefnyddiwyd wrth greu’r gwastraff.

Rhan B2: Dosbarthiad Diwydiannol Safonol ar gyfer y broses a greodd y gwastraff

Nodwch y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol ar gyfer y broses a greodd y gwastraff. I gwblhau'r nodyn trosglwyddo byddwn yn derbyn un ai Dosbarthiad Diwydiannol Safonol 2003 neu Ddosbarthiad Diwydiannol Safonol 2007.

Rhan B3: manylion gwastraff ar gyfer pob math o wastraff peryglus sy’n cael ei gasglu oddi wrthych

  • Disgrifiad o'r gwastraff: mae angen i chi ddarparu disgrifiad ysgrifenedig llawn o bob math o wastraff peryglus sy'n cael ei gasglu.
  • Cod Rhestr Wastraffoedd (Catalog Gwastraff Ewropeaidd) (chwe nod): mae angen nodi cod penodol o’r Catalog Gwastraff Ewropeaidd ar gyfer pob math gwahanol o wastraff peryglus . Dylai'r cod gyfateb â'r disgrifiad o'r gwastraff a'r busnes neu broses sydd wedi'i gynhyrchu. Cynhyrchydd y gwastraff / deiliad y gwastraff sy’n gyfrifol am godio a dosbarthu'r gwastraff . Ewch i'r canllawiau ar sut i ddosbarthu ac asesu gwastraff.
  • Maint (kg): rhaid i chi nodi cyfanswm y pwysau, mewn cilogramau, ar gyfer pob math o wastraff peryglus sydd i'w gludo sydd â chod Catalog Gwastraff Ewropeaidd.
  • Mae’r wybodaeth am gyfansoddion cemegol/biolegol y gwastraff a'u crynodiad yn cynnwys manylion am rannau cemegol neu fiolegol y gwastraff, a'u crynodiadau. Bydd yr wybodaeth hon wedi’i rhestru yn y Daflen Data Diogelwch yn achos llawer o gynhyrchion,.
  • Ffurf ffisegol (nwy, hylif, solid, powdr, slwtsh neu gymysg): nodwch y ffurf sy'n disgrifio'r gwastraff orau.
  • Cod(au) perygl: rhaid i chi restru'r peryglon sy'n bresennol ar gyfer pob math o wastraff yn ôl y rhestr o Nodweddion Peryglus. Defnyddiwch y cod ‘POP’ ar gyfer llygryddion organig parhaus. Dod o hyd i'r cod perygl o dan sut i ddosbarthu ac asesu gwastraff.
  • Math, rhif a maint y cynhwysydd: rhaid i chi nodi rhif a maint pob cynhwysydd o wastraff peryglus.
  • Rhif(au) nodi y CU, enw(au) cludo priodol, dosbarth(iadau) y CU, grŵp/grwpiau pacio a gofynion arbennig o ran trin y gwastraff: gallwch gael rhagor o wybodaeth am gludo nwyddau peryglus oddi wrth Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Rhan C: ardystiad y cludydd

Fel cludydd y gwastraff, rhaid i chi wirio bod y manylion yn rhan A a rhan B yn gywir.

Yna, rhaid i bob cludydd gwblhau adrannau 1, 2 a 3.

Os yw'r trosglwyddiad yn rhan o weithgaredd casglu lluosog, rhaid i chi, fel y cludydd, fewnbynnu manylion y rownd luosog honno yn rhan C o bob nodyn. Mae rhif y rownd yn gyffredin i bob casgliad yn y rownd luosog a gall gynnwys cyfres o 15 o unrhyw o lythrennau neu rifau. Rhif y casgliad yw rhif dilynol y casgliad.

Pan mae'r cerbyd yn cyrraedd y traddodai, bydd y traddodai yn nodi cyfanswm y trosglwyddiadau sy'n ffurfio'r casgliad yn rhan E.

Rhan D: ardystiad y  traddodwr

Fel traddodwr, ni ddylech gwblhau rhan D cyn i'r cludydd gyrraedd i gasglu'r gwastraff.

Rhowch gopi o'r nodyn trosglwyddo i'r unigolyn sydd wedi llofnodi'r adran hon (y trwyddedwr).

Rhan E: ardystiad y traddodai

Pan ydych yn derbyn gwastraff peryglus gan gludydd gwastraff, rhaid i chi wirio yn gyntaf ei fod yn cyd-fynd â’r disgrifiad sydd wedi’i ddarparu yn rhan B y nodyn trosglwyddo.

Pan gaiff gwastraff ei wrthod, rhowch fanylion os gwelwch yn dda. Gallech fod yn cyflawni trosedd os nad ydych yn gwrthod gwastraff peryglus sy'n cyrraedd eich safle gyda nodyn trosglwyddo sy'n anghyflawn neu anghywir.

Pan fo gennych nodyn trosglwyddo anghyflawn neu anghywir, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cwblhau rhan E o'r nodyn trosglwyddo, nodi’r math(au) o wastraff rydych yn ei wrthod/eu gwrthod a'r rheswm
  • cadw un copi o'r nodyn
  • rhoi un copi i'r cludydd
  • gwneud copïau o'r nodyn ac anfon copi yr un i'r traddodwr, y cynhyrchydd a’r deiliad (mae’n bosibl mai’r un unigolyn ydyw) ar unwaith

Gallwch ond dderbyn y gwastraff peryglus os yw cynhyrchydd neu gludydd y gwastraff peryglus yn gwneud y canlynol:

  • cyflwyno nodyn trosglwyddo newydd sy'n gyflawn ac yn gywir
  • mynd i’r afael â’r rhesymau pam y gwrthodwyd y gwastraff

 Canllawiau ar y broses wrthod, gan gynnwys cwblhau nodyn trosglwyddo newydd.

Ardystio’r drwydded wastraff/y weithred gwastraff esempt

Nodwch y cyfeirnod ar gyfer y drwydded amgylcheddol rydych yn ddeiliad arni neu nodwch eich cyfeirnod esemptiad neu awdurdodiad arall.

Yna, rhaid i chi lofnodi a dyddio'r nodyn trosglwyddo, a rhoi un copi i'r cludydd gwastraff.

Achosion pan nad oes angen nodyn trosglwyddo ar gyfer gwastraff peryglus arnoch

Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch symud gwastraff peryglus domestig o gartref heb nodyn trosglwyddo. Fodd bynnag, bydd angen i gontractwyr sy'n symud asbestos o eiddo domestig ddefnyddio nodiadau trosglwyddo.

Yn achos nifer fach o weithgareddau mewn lleoliadau penodol, nid oes angen i chi gwblhau nodyn trosglwyddo, e.e. rhannau o briffordd lle mae gollyngiadau yn cael eu clirio neu leoedd ar gledrau rheilffordd lle mae gwaith cynnal a chadw yn cael ei gynnal. Mynd i'r rhestr o'r holl leoedd a gweithgareddau wedi’u heithrio.

Os ydych yn mewnforio neu’n allforio gwastraff peryglus o dan y rheolau Cludo Gwastraff Rhyngwladol, nid oes angen nodyn trosglwyddo arnoch am y rhan o'r symudiad sy'n dod o dan y gwaith papur ar gyfer cludo gwastraff ar draws ffiniau.

Diweddarwyd ddiwethaf