Cofrestru neu adnewyddu fel cynhyrchwr gwastraff peryglus

Os ydych chi’n cynhyrchu neu’n storio dros 500kg o wastraff peryglus bob blwyddyn, mae angen i chi ei gofrestru gyda ni bob 12 mis.

Pwy sydd angen cofrestru

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am eich safle, byddwn yn rhoi eich manylion ar gofrestr a chewch rif cofrestru cynhyrchwr gwastraff peryglus, a elwir yn 'cod y safle'.

Pan gaiff gwastraff ei gasglu o'r safle a'i gludo i leoliad arall, bydd angen nodyn cludo, p'un a ydych yn safle cofrestredig neu wedi'ch eithrio.

Pwy nad oes angen iddynt gofrestru

Nid yw'r rheoliadau'n berthnasol i wastraff domestig, ac eithrio pan fo'r gwastraff hwnnw yn asbestos a gynhyrchir gan gontractwr. Yn yr achos hwn, efallai y bydd angen i'r contractwr roi gwybod am y safle y caiff y gwastraff ei gasglu ohono.

Gwastraff a dipiwyd yn anghyfreithlon

Os yw gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon, gallwch waredu'r gwastraff hwnnw heb fod angen cofrestru'r safle. Fodd bynnag, bydd angen cwblhau nodyn cludo o hyd. Bydd angen fformat cod penodol ar gyfer y nodyn cludo.

Pan fo gweithredwyr gwasanaethau symudol yn cynhyrchu eich holl wastraff peryglus

Os ydych yn cynhyrchu gwastraff peryglus ar safle rhywun arall, er enghraifft drwy gyflawni gweithgareddau cynnal a chadw, ac yn bodloni'r amodau isod byddwch yn cael eich ystyried yn wasanaeth symudol. Yn yr achos hwn, efallai na fydd angen i chi roi gwybod am eich safle.

  • Rhaid ichi gofrestru eich prif leoliad busnes. Defnyddiwch eich cod cofrestru fel 6 nod cyntaf eich cod nodyn cludo.
  • Rhaid ichi beidio â chynhyrchu mwy na 500Kg o wastraff peryglus ar safle’r cwsmer hwnnw.
  • Ni ddylech fod yn gweithio ar y safle neu fod yn berchennog ar y safle lle’r ydych yn gwneud y gwaith hwn
  • Rhaid ichi beidio â gadael y gwastraff ar safle’r cwsmer

Os na fodlonir yr amodau hyn, bydd angen i'ch cwsmer gofrestru â ni fel cynhyrchydd gwastraff peryglus os yw'n cynhyrchu mwy na 500Kg o wastraff peryglus mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis.

Unrhyw safle a gwmpesir gan y Datganiad Canllawiau ynghylch hysbysiad safle

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y penderfynwn nad oes angen i chi roi gwybod am eich safle. Gallwch ddod o hyd i fanylion yr amgylchiadau hyn yn y Datganiad Canllawiau isod.

Sut i gofrestru

Gallwch gofrestru eich safle eich hun neu gallwch gofrestru safle ar ran rhywun arall. Fodd bynnag, cyn i chi gofrestru rhywun arall, mae'n rhaid i chi gael caniatâd yr unigolyn. Dim ond cynhyrchwyr yng Nghymru sy'n gorfod cofrestru; nid oes yn rhaid i safleoedd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gofrestru.

Mae cofrestriadau'n para un flwyddyn a gallwch adnewyddu cofrestriad hyd at un mis cyn iddo ddarfod.

Gallwch gofrestru’n rhad ac am ddim

Dyma'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gofrestru:

  • Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) Mae SIC yn ddull ar gyfer trefnu busnesau yn ôl y math o weithgarwch economaidd maent yn ymwneud ag ef. Mae'n rhaid defnyddio fersiwn 2003 y codau SIC wrth gofrestru. Gweler y daenlen Excel isod
  • Rhif Tŷ'r Cwmnïau Bydd angen hefyd eich rhif Tŷ'r Cwmnïau os ydych yn gwmni cyfyngedig

Unwaith i chi gofrestru, bydd manylion eich cofrestriad yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer gwastraff peryglus.

Cofrestru mewn swmp yng Nghymru

Gallwch gofrestru neu adnewyddu sawl safle ar gyfer yr un sefydliad ar y we.

Noder mai dim ond safleoedd yng Nghymru a all gael eu cofrestru gyda CNC. 

Cysylltwch â ni i gael help i gofrestru mewn swmp.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 15 diwrnod gwaith (tair wythnos) a yw eich cofrestriad wedi bod yn llwyddiannus. Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, cewch wybod yn gynt o lawer fel arfer.

Os na allwn dderbyn cofrestriad am unrhyw reswm, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Ar ôl ichi gofrestru’n llwyddiannus, byddwch yn cael dogfen gadarnhau trwy e-bost. Y ddogfen hon yn dangos eich cyfeirnod(au) Cynhyrchydd Gwastraff Peryglus newydd.

Diweddarwyd ddiwethaf