Anfonwch eich ffurflen gwastraff
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn:
- monitro cydymffurfiaeth y safle gydag amodau eu trwydded amgylcheddol
- cadw cofrestr gyhoeddus
- casglu ystadegau cenedlaethol am wastraff
Templed ffurflen wastraff wedi'i ddiweddaru
Rydym wedi diwygio’r ffurflen electronig ar gyfer cofnodion gwastraff o fis Ionawr-Mawrth 2023 ymlaen.
Bydd y daenlen newydd yn eich galluogi i ddewis blynyddoedd adrodd 2023 ymlaen ond gellir ei defnyddio hefyd am flynyddoedd blaenorol o 2020.
Rydym wedi e-bostio copi o'r templed wedi'i ddiweddaru i weithredwyr gwastraff sydd wedi cyflwyno ffurflen electronig yn y gorffennol.
Os nad ydych wedi derbyn y daenlen, neu os oes gennych unrhyw anawsterau wrth fynd ati cysylltwch â waste.returns@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Cwblhau'r daenlen
Sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich gwybodaeth gan ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r daenlen er mwyn i ni allu ei dderbyn.
Cwblhewch yr holl feysydd gorfodol ar y daenlen a defnyddiwch eich rhif Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (EPR) yn hytrach nag unrhyw rifau cyfeirio hanesyddol.
Os oes gan eich safle fwy nag un drwydded wastraff, rhaid i chi gwblhau ffurflen ar gyfer pob un o'r trwyddedau.
Os cyflawnir amrywiaeth o weithrediadau gwastraff ar y safle o dan un drwydded, gofynnwn ichi gwblhau mwy nag un ffurflen er mwyn sicrhau y cofnodir mewnbynnau ac allbynnau pob gweithrediad gwastraff ar wahân.
I ganolfannau gwastraff nad ydynt yn gyfleusterau deunyddiau, dim ond y rhannau cyntaf o’r tri thudalen yn y gweithlyfr â phenawdau glas sydd angen eu cwblhau. Mae’n rhaid i'r cyfleusterau deunyddiau gwblhau'r taflenni llawn.
Ffurflenni papur
Os na allwch gyflwyno eich ffurflen drwy e-bostio’r daenlen wedi’i chwblhau, gallwch gwblhau ffurflen bapur Cysylltwch â ni i ofyn am ffurflen bapur: waste.returns@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Dylid dychwelyd ffurflenni papur wedi'u cwblhau i:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Canolfan Gofal Cwsmeriaid
29 Heol Casnewydd
Caerdydd, CF24 0TP
Sut i ddosbarthu ac asesu gwastraff
Cymorth ar sut i ddewis y cod EWC cywir ar gyfer gwastraff.
Terfynau amser ar gyfer cyflwyno ffurflenni gwastraff
Ffurflenni chwarterol
Chwarteri | Dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni |
---|---|
1 Ionawr i 31 Mawrth |
30 Ebrill |
1 Ebrill i 30 Mehefin |
31 Gorffennaf |
1 Gorffennaf i 30 Medi |
31 Hydref |
1 Hydref i 31 Rhagfyr |
31 Ionawr |
Ffurflenni blynyddol
Cyfnod ffurflenni blynyddol | Dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni |
---|---|
1 Ionawr i 31 Rhagfyr |
31 Ionawr y flwyddyn ganlynol |