ORML1957 META (II) profi ynni’r môr alltraeth yn Warrior Way, Dale Road ac East Pickard Bay
HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD RHEOLEIDDIOL ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL ORML1957 META (II) profi ynni’r môr alltraeth yn Warrior Way, Dale Road ac East Pickard Bay
Hysbysir trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad rheoleiddiol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”) o ran y prosiect uchod.
Yn unol â Rheoliad 24 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.
Mae copi ysgrifenedig o'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol rhwng 9am a 5pm yn y Gwasanaeth Trwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.
Gallwch hefyd gael copïau o’r cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y gwefan yma neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Os gofynnir am gopïau caled, efallai bydd yn rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
ORML1957 META (II) profi ynni’r môr alltraeth yn Warrior Way, Dale Road ac East Pickard Bay
Rhoddir hysbysiad trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’) o ran y prosiect uchod. Yn unol â Rheoliad 22 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.
Mae cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r cadarnhad ysgrifenedig yn cynnwys y prif resymau ac ystyriaethau yr oedd y penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol yn seiliedig arnynt, crynodeb o'r ymgynghoriadau yr ymgymerwyd â hwy a'r wybodaeth a gasglwyd, casgliad am effeithiau'r prosiect ar yr amgylchedd a yr amodau sydd ynghlwm wrth y penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol.
Mae’r cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio yn ystod oriau swyddfa arferol, sef 9am tan 5pm, yn y Gwasanaeth Trwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.
Gallwch hefyd gael copïau o’r cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar-lein neu drwy e-bostio permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk.
Os gofynnir am gopïau caled, efallai y byddwn yn codi tâl i dalu am y gost o greu copïau nad yw'n fwy na'r gost resymol o wneud hyn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n parhau i wneud penderfyniad rheoleiddiol mewn perthynas â'r cais am drwydded forol.